Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n falch o’ch hysbysu y bydd pencadlys Addysg a Gwella Iechyd Cymru yng nghanolfan Tŷ Dysgu, Nantgarw, yn amodol ar basio’r profion diwydrwydd dyladwy perthnasol a dod i gytundeb contractiol.

Mae’r safle hwn yn hyb strategol Pontypridd / Trefforest ac felly mae’r penderfyniad hwn yn gwireddu rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weddnewid Cymoedd De Cymru, drwy fenter Tasglu’r Cymoedd.

Mae hon yn enghraifft arwyddocaol o bartneriaeth gyhoeddus. Bydd Llywodraeth Cymru a pherchnogion Tŷ Dysgu, sef awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf, yn gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i’r ateb gorau posibl ar gyfer y corff newydd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Bydd y gwaith o ailwampio’r swyddfa yn dechrau cyn gynted â phosibl a bydd staff yn symud i’r lleoliad newydd ym mis Hydref 2018.