Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn ddiolch i’r holl fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth ar draws Cymru sydd wedi helpu ein gwasanaethau iechyd a gofal drwy gydol pandemig COVID-19. Ar ddechrau’r pandemig, cyflwynodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth safonau argyfwng ar gyfer addysg i ganiatáu mwy o hyblygrwydd wrth gyflawni rhaglenni nyrsio a bydwreigiaeth. Cafodd y safonau argyfwng hynny eu disodli ym mis Medi 2020 gan safonau adfer i gefnogi myfyrwyr a oedd yn dychwelyd at eu hastudiaethau arferol, gan barhau i ganiatáu hyblygrwydd yn y ffordd y caiff rhaglenni eu darparu.

Roedd yn iawn bod y myfyrwyr hynny a ddewisodd gael eu lleoli, a’u rhoi ar restr waith ymarfer clinigol yn 2020 yn cael tâl am eu gwaith. Rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniad yn fawr iawn, ac yn cydnabod bod hyn wedi bod yn heriol i fyfyrwyr wrth iddynt hefyd barhau â’u rhaglenni astudio.

Roeddem yn glir o’r dechrau y byddai angen i drefniadau sy’n gysylltiedig â lleoliadau ar restrau gwaith ddod i ben ar adeg briodol, er mwyn galluogi myfyrwyr i ddychwelyd at eu hastudiaethau arferol. Mae dychwelyd i fod yn weithiwr ychwanegol a chael eu goruchwylio tra eu bod ar leoliadau clinigol yn galluogi myfyrwyr i fanteisio ar bob cyfle i ddysgu sydd ar gael iddynt yn ymarferol. Yng Nghymru, gwnaethom ymrwymo ar ddechrau’r pandemig hwn i flaenoriaeth i sicrhau na fyddai mesurau argyfwng yn effeithio’n ormodol ar allu myfyrwyr i gwblhau eu rhaglenni astudio. Gwyddom fod y tarfu a fu ar raglenni yn 2020 wedi golygu oedi wrth gofrestru rhai myfyrwyr.

Ar 14 Ionawr 2021, ail-gyflwynodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth safonau argyfwng (dolen allanol) dewisol mewn ymateb i sefyllfa barhaus COVID-19, sydd ar gael i’w defnyddio ym mhob un o bedair gwlad y DU. Mae’r trefniadau hyn yn cynnwys yr opsiwn i fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth blwyddyn gyntaf ganolbwyntio ar ddysgu academaidd ac ar-lein yn hytrach nag mewn lleoliadau clinigol; i fyfyrwyr nyrsio yn eu blwyddyn olaf  ddewis gael eu lleoli i ymgymryd â lleoliadau clinigol â thâl; ac yn eithriadol, gall yr un person gyflawni rôl goruchwyliwr ac asesydd ymarfer.

Er bod heriau mawr i wasanaethau iechyd a gofal yn sgil amgylchiadau parhaus y pandemig, mae arweinwyr gwasanaethau a’r gweithlu yng Nghymru wedi cadarnhau nad yw’n ofynnol lleoli myfyrwyr ar hyn o bryd. Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei adolygu’n barhaus.

Mae rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru wedi edrych eto ar eu trefniadau i alluogi myfyrwyr i barhau â chyfleoedd dysgu lleoliadau ychwanegol a gweithio tuag at gwblhau gofynion eu rhaglenni. Ynghyd â’r rhanddeiliaid allweddol hyn, rydw i wedi pwysleisio pwysigrwydd gwneud popeth posibl i barhau i gefnogi myfyrwyr yn ystod eu lleoliadau ymarfer.

Ar 15 Ionawr, ysgrifennodd y Prif Swyddog Nyrsio a’r cyfarwyddwr nyrsio o AaGIC at bob myfyriwr i gadarnhau beth yw’r sefyllfa bresennol yng Nghymru. Mae’r Prif Swyddog Nyrsio a swyddogion wedi ymateb i fyfyrwyr sydd wedi codi pryderon, gan gynnwys cynnal gweminar (dolen allanol), ac wedi diweddaru’r Cwestiynau Cyffredin (dolen allanol) a gwybodaeth i gefnogi myfyrwyr ar wefan AaGIC.