Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC,  Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n dda gen i gyhoeddi bod Rheoliadau diwygiedig Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) wedi’u gosod heddiw, ac y cynhelir dadl arnynt yn y Cyfarfod llawn ar 9 Rhagfyr 2014.

Fel y nodais yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 22 Medi, penderfynais ddileu’r cyfeiriad at ficrosglodynnu o’r set hon o Reoliadau, a chynnal cyfres o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol a’r trydydd sector, i drafod y dull gweithredu rwy’n bwriadu ei ddilyn. Rwyf wedi cwrdd hefyd â llefarwyr o’r gwrthbleidiau a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, David Melding AM.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi bod ar siwrnai hir, ac mae disgwyl amdanynt ers tro byd. Roedd y cynrychiolwyr o’r trydydd sector y siaradais â nhw yn pwysleisio eu bod o blaid cyflwyno’r Rheoliadau hyn cyn gynted ag y bo modd, hyd yn oed os nad ydynt yn llwyr fodloni dyheadau a dymuniadau pawb.

Un o’r prif faterion yr oedd pob un yn cytuno arno oedd gorfodi. Mae ar awdurdodau lleol angen cefnogaeth mewn perthynas â’r Canllawiau a’r templedi ac mae’r trydydd sector wedi cynnig helpu i baratoi’r rhain. Bydd angen  gweithio ar union fanylion y broses orfodi dros y misoedd nesaf i sicrhau ei bod yn effeithiol, ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion fwrw ymlaen â’r gwaith hwn.

Byddaf hefyd yn gofyn i awdurdodau lleol roi adborth i Lywodraeth Cymru am effeithiolrwydd y Rheoliadau hyn o ran cyflawni eu hamcan, sef gwella lles anifeiliaid sy’n cael eu cadw a’u bridio ar y safleoedd dan sylw.

Mae’r gwaith o ddatblygu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Rheoliadau Adnabod) yn parhau ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gydweithio’n agos â’u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar y materion sy’n gyffredin i Gymru a Lloegr.

Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am y gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo.