Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Y mis diwethaf, cyhoeddais y byddwn yn cyfeirio at y Bil draft, wedi’r ymgynghoriad, drwy ddefnyddio’i deitl gweithio sef Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Rwyf am nodi’r modd y mae fy mholisi ym maes llesiant pobl yn datblygu a dweud wrthych am ein hymgynghoriad ar y ffordd o ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol.

Nododd yr ymgynghoriad ar y Bil ein bwriad i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn ceisio cynnal a gwella llesiant pobl. Nododd ein diffiniad ymarferol o les pobl at y dibenion hynny. Gwn fod rhanddeiliaid yn croesawu’r dull gweithredu hwn ynghyd â’r cyfle i symud y pwyslais oddi ar anghenion y gwasanaeth i anghenion yr unigolyn gan weithredu dull sy’n seiliedig ar hawliau.  

Yn ogystal, rwyf wedi’i gwneud hi’n glir fy mod yn credu bod rhaid wrth drefniadau arwain cenedlaethol amlochrog sy’n llawer mwy effeithiol, gydag atebolrwydd lleol am y gwaith o gyflenwi. Rydw i wedi dweud eisoes y byddaf yn cyflwyno fframwaith canlyniadau cenedlaethol yn sail i hyn, a bydd y fframwaith hwnnw’n gymwys i bob rhan o’r sector.  

Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau y bydd yr egwyddor o hyrwyddo llesiant pobl - hy plant, oedolion a gofalwyr - yn ganolog i’r Bil newydd arfaethedig. Drwy wneud hyn, credaf y byddwn yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn. Mae canolbwyntio ar lesiant yn cael lle llawer mwy blaenllaw yn y model gwasanaeth ar gyfer atal ac ymyrryd yn gynnar yr hoffem ei weld yn cael ei sefydlu, yn ogystal â chefnogi’r dull sy’n seiliedig ar hawlia yma yng Nghymru. Mae’n hanfodol i’n hymrwymiad i roi llais cryf a rheolaeth wirioneddol i bobl.

O ganlyniad i hyn, dylem ddiffinio ‘llesiant pobl’ a dylai’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol hefyd fod yn seiliedig ar lesiant unigolion sydd ag anghenion o ran gofal a chefnogaeth.

Yn y cyd-destun hwn, mae’r diffiniad  o ‘lesiant’ yn adeiladu ar y pwerau cyffredinol a roddir i’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd lleol ar hyn o bryd i hybu’r gwaith o wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardal; mae hynny’n ymestyn i ryw 3 miliwn o bobl sy’n byw yng Nghymru. Bydd y diffiniad wedi’i fireinio yn sicrhau bod ein dull o weithredu sy’n seiliedig ar hawliau a’r rôl bwysig sydd gan deuluoedd i’w chwarae o ran llesiant unigolion yn rhan annatod o’r trefniadau gofal a chefnogaeth at y dyfodol.    

Mewn perthynas ag unigolion, gallai ‘llesiant’ gyfeirio at unrhyw un o’r canlynol:

(a) iechyd meddwl a chorfforol a llesiant emosiynol;
(b) diogelu rhag niwed ac esgeulustod;
(c) addysg, hyfforddiant a hamdden;
(d) perthnasau domestig, teuluol a phersonol;
(e) eu cyfraniad i’r gymdeithas;
(f) sicrhau eu hawliau
(g) llesiant cymdeithasol ac economaidd

Mewn perthynas â phlentyn mae ‘llesiant’ yn cynnwys:
(a) corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol, datblygiad cymdeithasol ac emosiynol 
(b) ystyr “lles” at ddibenion Deddf Plant 1989

Mewn perthynas ag oedolyn, mae ‘llesiant’ yn cynnwys;
(a) rheolaeth dros fywyd o ddydd i ddydd
(b) cymryd rhan mewn gwaith

Pan fydd wedi’i sefydlu bydd y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol yn nodi’n glir iawn yr hyn y gall pobl ei ddisgwyl gan y gwasanaethau cymdeithasol gan sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i hyrwyddo llesiant pobl. Bydd yn ein cynorthwyo i weld yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda a’r hyn sydd ei angen i ni ei wella. Byddwn yn gallu mesur y cyfraniad y byddwn yn ei wneud.

Bydd y fframwaith hwn yn un a fydd yn cydnabod cyfraniad pob un sy’n darparu gwasanaethau cymdeithasol. Rwyf am i bawb weithio tuag at yr un canlyniadau pwysig a chymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod pobl yn cael gwasanaethau o safon uchel a’u bod yn fodlon a’r gwasanaethau hynny.

Yr wythnos hon, mae’r ymgynghoriad ar y ffordd o Ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru yn dechrau. Mae hyn yn cynnwys ymgynghori ar y modd y bydd llesiant pobl yn sail i’r fframwaith. Rwyf am ddefnyddio ffordd benodol o ddatblygu’r fframwaith a dyma fydd hanfod yr ymgynghoriad.  

Rwyf yn ymgynghori yn awr oherwydd fy mod eisiau rhoi cyfle i bawb gyfrannu. Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd y byddwn yn cyflenwi’r canlyniadau i’r bobl y mae arnynt angen gofal a chefnogaeth felly mae’n gwneud synnwyr bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan yn gynnar. Er mwyn cyrraedd y cam hwn, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid ar draws y sector ac mae hynny wedi bod o gymorth mawr.  

Dyma’r cam cyntaf. Byddwn yn symud yn gyflym i nodi ein canlyniadau lefel uchel, er mwyn llywio ein gwaith ymhellach.