Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n falch o gyhoeddi bod llinell gymorth pwrpasol gan y Samariaid, wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei lansio. Llinell gymorth bwrpasol yw hon ar gyfer gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a gweithlu'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y gwasanaeth yn lansio heddiw; 03 Awst 2020.

Rwy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r heriau a'r pwysau mawr sydd ar ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ymroddedig drwy'r amser, ond yn arbennig yn ystod y cyfnod hwn o straen personol a phroffesiynol na welwyd mo'i debyg o'r blaen. Mae'n bwysicach nag erioed bod unrhyw unigolyn sy'n gweithio i'r GIG a’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael cymorth dibynadwy gyda’u lles emosiynol y tu allan i'r gweithle a’u bod yn gallu siarad â'i gilydd a'u rheolwr.

Bydd y gwasanaeth ar gael bob dydd rhwng 7am ac 11pm. Bydd yn cynnig cymorth cyfrinachol wedi'i deilwra ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal iechyd. Gwirfoddolwyr hyfforddedig fydd yn darparu’r gwasanaeth. Rwy'n deall pa mor bwysig yw hi i roi dewis i staff gyfathrebu yn Gymraeg neu yn Saesneg felly bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael yn ddyddiol o'r dechrau hefyd, a hynny rhwng 7pm ac 11pm. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ehangu dros amser fel ei fod ar gael yn ystod yr un oriau â’r gwasanaeth Saesneg wrth i ragor o wirfoddolwyr dwyieithog gael eu recriwtio a'u hyfforddi.

Yn ystod y cyfnod argyfwng presennol a thu hwnt iddo, bydd unigolion yn dygymod â chyfuniad o ffactorau personol a phroffesiynol sy'n wahanol iawn i’r hyn a oedd yn arfer bod yn normal iddynt. Rydym, felly, yn gweithio gyda gweithwyr y GIG, ein partneriaid gofal cymdeithasol a'n hundebau llafur i ddatblygu’r cynnig llesiant ymhellach ar gyfer ein gweithle.

Dros amser, bydd yr wybodaeth a gesglir ynghylch faint o unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn yn ein helpu i wneud cynlluniau tymor hwy ar gyfer y cynnig cymorth iechyd a llesiant ar gyfer ein gweithlu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn unol â'r uchelgeisiau a nodwyd yn Cymru Iachach.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.