Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n gosod rheoliadau yn y Senedd a fydd yn ymrwymo Cymru yn ffurfiol, am y tro cyntaf, i dargedau sydd wedi’u rhwymo’n gyfreithiol i gyrraedd y nod o allyriadau sero-net.  Mewn cyngor a gafodd Llywodraeth Cymru gan ein hymgynghorydd statudol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn 2017 a 2019, nid oedd eu dadansoddiad annibynnol o'r farn bod nod sero-net ar gyfer economi Cymru yn gredadwy, yn ddichonadwy nac yn fforddiadwy. Erbyn hyn, ar sail tystiolaeth a dadansoddiadau pellach, mae'r farn hon wedi newid.

Yn benodol, argymhellodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd:

  • Cyllideb Garbon 2 (2021-25): gostyngiad cyfartalog o 37% gyda therfyn credyd (“gwrthbwyso”) o 0%
  • Cyllideb Garbon 3 (2026-30): gostyngiad cyfartalog o 58%
  • Targed 2030: gostyngiad o 63%
  • Targed 2040 : gostyngiad o 89%
  • Targed 2050: gostyngiad o 100% (sero-net)

Rydym yn croesawu'r newid hwn mewn cyngor. Diolch i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd a phawb sydd wedi cyfrannu at eu Galwad am Dystiolaeth bod gennym bellach y wyddoniaeth i gefnogi ein huchelgais ers amser o nod sero-net i Gymru. Dim ond drwy graffu'n annibynnol ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, gan weithio gyda busnesau, y byd academaidd a chymdeithas sifil yng Nghymru, y gallwn sicrhau bod nodau hinsawdd a bennir gan y Llywodraeth yn uchelgeisiol ac yn seiliedig ar dystiolaeth, gan greu sylfaen gadarn ar gyfer adeiladu Cymru carbon isel.

Byddai'r llwybr lleihau allyriadau a argymhellir a bennwyd gan Y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn eu cyngor yn golygu y byddai ein nodau yng Nghymru yn gyson â chyrraedd nod Paris o 1.5°C. Bydd hyd yn oed y llwybr hwn, sy'n fwy uchelgeisiol nag unrhyw un y cytunwyd arno'n flaenorol mewn trafodaethau rhyngwladol ar yr hinsawdd, yn peri cryn risg, a byddem yn parhau i weld effaith tymheredd cynyddol, digwyddiadau tywydd dwys a phwysau eithafol ar yr amgylchedd naturiol am ddegawdau i ddod.

At hynny, mae'n dal yn wir bod ein llwybr byd-eang ymhell oddi wrth ganlyniad o'r fath, a adroddwyd yn ddiweddar gan y Cenhedloedd Unedig i fod yn fwy na 3°C – lefel a allai weld hyd yn oed mwy o dywydd dinistriol na'r hyn sydd wedi distrywio cymunedau Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf, dadleoli cannoedd o filiynau o bobl ledled y byd, a difrod na ellir ei ddad-wneud i'r ecosystemau mwyaf eiconig a hanfodol yng Nghymru ac yn fyd-eang.

Yn natganiad Llywodraeth Cymru o argyfwng hinsawdd yn 2019, bu inni ddatgan ein safbwynt bod difrifoldeb y bygythiad i'n cymdeithas a'n planed yn golygu na allwn fforddio derbyn y cyngor a gawn fel terfyn ein huchelgais ond yn hytrach rhaid i ni ei weld fel man cychwyn y mae'n ofynnol i ni wneud pob ymdrech i ragori arno. Mae hyn yn adlewyrchu'r egwyddor o ddilyniant sydd wedi'i ymgorffori yng Nghytundeb Paris yn ogystal â'r nod o Gymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang sydd wedi'i ymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Yn ei gyngor diweddaraf ym mis Rhagfyr 2020, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cadarnhau mai'r 2020au yw'r "ddegawd fydd yn penderfynu" a dylai ein cynllun ar gyfer yr ail gyllideb garbon a gyhoeddir yn 2021 ganolbwyntio ar yr angen i "berfformio'n well" na’r gostyngiad cyfartalog o 37% a argymhellir mewn allyriadau, gyda llwybr clir tuag at ostyngiad cyfartalog o 58% drwy'r drydedd gyllideb garbon hyd at 2030, er mwyn gosod Cymru ar y llwybr i sero-net erbyn canol y ganrif hon, fel sy'n ofynnol gan bob gwlad gyfoethocach, ddatblygedig yn ôl telerau Cytundeb Paris.

Bydd cyrraedd y targedau newydd yn hynod heriol. Mae’n rhaid i’n hymdrechion fel Llywodraeth ganolbwyntio ar wneud y newid i sero net yn newid teg, pan fydd y costau a’r manteision yn cael eu rhannu’n deg ar draws ein cymdeithas.  Rydym wedi penderfynu cyflawni’r rhan fwyaf o’r camau gweithredu yn y 15 mlynedd nesaf er mwyn osgoi’r allyriadau cronnus a fydd yn cael eu hachosi wrth oedi, ac er mwyn anfon neges glir am yr angen i weithredu heddiw yn hytrach na gadael y gwaith caled i eraill.  Her ganolog o ran hyn yw gweld ble y gallai swyddi gael eu colli yng Nghymru a sut y gall llywodraeth gefnogi gweithwyr, mewn partneriaeth gymdeithasol â’n hundebau llafur a busnesau, i ddod yn rhan o weithlu carbon isel newydd.

Yn ogystal â’r newid hinsawdd yn dod yn thema gyson yn y papurau y mae Gweinidogion o bob portffolio yn eu cyflwyno i’r Cabinet, rwyf wedi ailgynnull y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol i ganolbwyntio ar gyflawni’r Cynllun Carbon Isel nesaf, a fydd yn galw am gynnydd uniongyrchol a sylweddol yn yr ymdrech ar lefel Cymru-gyfan.

Fel a fu yn wir yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r dadansoddiad yn awgrymu bod y posibilrwydd mwyaf o ran cyflymu y gostyngiad mewn allyriadau yng Nghymru yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n awgrymu bod lleihad mwy yn bosibl o fewn y sectorau diwydiant a ynni.  Mae hyn yn adlewyrchu presenoldeb nifer o ffynonellau sydd ag allyriadau uchel yng Nghymru, megis gwaith dur Port Talbot. 

Ac eto, wrth dynnu sylw at arwyddocâd heriau technolegol a buddsoddi, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd hefyd yn sylwi mai dim ond gyda newidiadau ym mywydau pob cymuned yng Nghymru y gellir cyflawni'r newid angenrheidiol, newidiadau a all ddod â manteision i bob un o'n dinasyddion os cânt eu cyflawni'n effeithiol.

Gwnaethom gyhoeddi ein cynllun cyflawni haf diwethaf yn esbonio ein dull o gydweithio a chyfranogi drwy gydol 2020 a 2021, o ran sut yr ydym yn gweld pob corff cyhoeddus, busnes a dinesydd yng Nghymru yn gallu chwarae eu rhan wrth benderfynu sut rydyn ni’n cyrraedd nodau hinsawdd mwy uchelgeisiol. Gyda’n gilydd byddwn yn llunio sut rydym yn bwriadu cyflawni ein gweledigaeth sero-net newydd yn ein Cynllun Cymru Gyfan nesaf, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn uwchgynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP26, sy’n cael ei chynnal yn Glasgow.

Yn y cyd-destun hwn, rydym yn croesawu'r newyddion fis diwethaf y bydd Blaenau Gwent yn cynnal Cynulliad Dinasyddion cyntaf Cymru ar yr Hinsawdd, menter sydd wedi derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru fel rhan o'n hymgyrch i gefnogi creu cymunedau carbon isel enghreifftiol wrth ehangu'r ddarpariaeth o dai cymdeithasol o ansawdd uchel. Bydd cyrraedd nodau hinsawdd mwy uchelgeisiol yn gofyn am lawer mwy o fentrau lleol o'r fath, sy’n ystyrlon ac yn hygyrch i ddinasyddion, fel rhan o'n hymdrech genedlaethol.

Fel y mae ymdrechion lleol yn hanfodol fel sail i’n hymdrech ar y cyd genedlaethol yng Nghymru, mae’r camau rydyn ni’n eu cymryd yma yn rhan annatod o gyflawni allyriadau net-sero ledled y DU.  Yn yr un modd ag y mae cymorth gan Lywodraeth Cymru yn galluogi gweithredu lleol o fewn ein ffiniau, mae’n hanfodol, er mwyn cyrraedd allyriadau net sero, bod y DU yn chwarae ei rhan.  Heddiw, rwy’n gobeithio y bydd holl aelodau’r Senedd yn ymuno â ni wrth alw ar Lywodraeth y DU i ymateb i’r her a chymeryd y camau rydyn ni eu hangen i sicrhau newid cyflym, cyfiawn a theg tuag at ddyfodol carbon isel. 

Byddwn yn annog pawb sy'n rhannu ein hymrwymiad i ymateb sy'n arwain y byd i'r argyfwng hinsawdd yng Nghymru i ystyried drostynt eu hunain gyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd a'r heriau brys i Gymru sydd ynddo, i weithio gyda ni i gyflymu ein camau gweithredu ar yr hinsawdd ac i weithio gyda ni i nodi'r meysydd hynny lle gallwn fynd ymhellach fyth drwy ymdrech ar y cyd.