Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rydym yn lansio Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 a fydd yn llywio ein system drafnidiaeth yng Nghymru am yr 20 mlynedd nesaf.

Yng Nghymru, rydym yn llythrennol yn dilyn “Llwybr Newydd", sef enw ein strategaeth newydd. Mae’r Strategaeth hon yn sicrhau bod pobl a’r newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaethau ac yn ganolog i’n system drafnidiaeth.

Yr argyfwng hinsawdd yw un o broblemau diffiniol mwyaf ein hoes. Er mwyn cyrraedd ein targed allyriadau sero net erbyn 2050, rhaid inni weithredu’n awr. Byddai peidio â gwneud hynny yn gadael mwy o broblem i genedlaethau’r dyfodol.

Er mwyn ymateb i newid yn yr hinsawdd mae angen newid yn y ffordd rydym yn teithio.  Mae angen inni leihau nifer y ceir ar ein ffyrdd, a sicrhau bod rhagor o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn cerdded neu’n beicio.  Ni fyddwn yn sicrhau’r lefel honno o newid oni bai ein bod yn argyhoeddi pobl, yn gwrando ar ddefnyddwyr ac yn cynnwys pobl wrth gynllunio system drafnidiaeth sy’n gweithio i bawb. Mae’r Strategaeth yn ymrwymo i gynnwys defnyddwyr yn y gwaith o gynllunio a darparu ein system drafnidiaeth.

Mae’r Strategaeth yn nodi gweledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon sy’n cael ei hategu gan uchelgeisiau 20 mlynedd sy’n dda ar gyfer pobl a chymunedau, yn dda ar gyfer yr amgylchedd, yn dda ar gyfer yr economi a lleoedd ac yn cefnogi diwylliant Cymru a’r Gymraeg.

Bydd y Strategaeth yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth. Mae’r flaenoriaeth gyntaf yn ymwneud â’r ffordd yr ydym yn rheoli’r galw am deithio ac yn dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau’r angen i deithio. Nid yw hyn yn golygu atal teithio’n gyfan gwbl. Mae’n golygu cynllunio ymlaen llaw i sicrhau cysylltiadau ffisegol a digidol gwell i ategu mynediad at wasanaethau mwy lleol, a rhagor o weithio gartref a gweithio o bell. Os yw rhagor o bobl yn gallu cwblhau eu teithiau bob dydd drwy gerdded a beicio, byddwn yn dibynnu llai ar geir.

Mae’r ail flaenoriaeth yn ymwneud â gwasanaethau a seilwaith mwy cynaliadwy. Mae’r Strategaeth yn esbonio sut y byddwn yn galluogi pobl a nwyddau i symud yn hawdd o ddrws i ddrws gan ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy. Mae’n nodi sut y byddwn yn buddsoddi mewn gwasanaethau trafnidiaeth dibynadwy, effeithlon a fforddiadwy y mae pobl am eu defnyddio, yn gallu eu defnyddio ac yn eu defnyddio, a’r seilwaith trafnidiaeth i ategu’r gwasanaethau hynny. 

Mae’r drydedd flaenoriaeth a’r flaenoriaeth olaf yn ymwneud ag annog pobl i newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy. Er mwyn cyrraedd ein targedau o ran newid yn yr hinsawdd, mae angen i bobl deithio mewn ffordd wahanol. Mae hynny’n golygu ei gwneud yn haws gwneud y peth iawn. Byddwn yn gwneud hyn drwy sicrhau bod trafnidiaeth gynaliadwy carbon isel yn fwy deniadol a mwy fforddiadwy, a thrwy fabwysiadu datblygiadau arloesol sy’n ei gwneud yn haws ei defnyddio.

Gyda’i gilydd, bydd y tair blaenoriaeth hyn yn gwella ein hiechyd, yn mynd i’r afael â thlodi, yn sicrhau cydraddoldeb ac yn agor ein system drafnidiaeth i bawb, yn enwedig y rheini nad oes ganddynt fynediad at gar a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

Un o brif ymrwymiadau’r strategaeth yw symud pobl oddi wrth ddefnyddio eu ceir i gerdded a beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Er mwyn sicrhau bod y gyfran bresennol o 32% yn newid i 45% erbyn 2040 bydd angen i ni gynyddu ein buddsoddiad yn y meysydd hyn.

Enghraifft glir o’n hymrwymiad i gyflawni ein targed ar gyfer newid dulliau teithio yw ein bod yn sicrhau bod benthyciad di-log o £70 miliwn ar gael i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Ar y cyd â Network Rail a Trafnidiaeth Cymru, bydd hyn yn datblygu’r seilwaith ar reilffordd Glynebwy i sicrhau’r gwasanaeth ychwanegol rhwng Casnewydd a Glynebwy. Bydd hyn hefyd yn helpu i wireddu ein dyheadau ar y cyd i ailagor y gangen i Abertyleri, gan gynyddu gwasanaethau i 4 trên yr awr yn y pen draw. Nododd yr Arglwydd Burns yr angen am ateb a arweinir gan reilffyrdd yn Ne Cymru, ac wrth ddarparu’r cyllid hwn mae Llywodraeth Cymru yn dangos ei hymrwymiad.

Bydd awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r ymrwymiadau rydym yn eu gwneud yn Llwybr Newydd. Dyna pam rydym yn dyrannu dros £116 miliwn i awdurdodau lleol ledled Cymru i’w wario ym mlwyddyn ariannol 2021/22 gyda dyraniadau pellach i ddilyn. Bydd yr arian hwn yn cefnogi gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus ac yn symud ymlaen â’n gweledigaeth metro ar gyfer system drafnidiaeth integredig. Bydd awdurdodau lleol yn ardal Metro’r De-orllewin yn derbyn dros £8.7 miliwn a bydd Trafnidiaeth Cymru yn cael £3 miliwn arall i gefnogi mentrau Metro De Cymru. Er mwyn annog cerdded a beicio, rydym wedi dyrannu bron i £47 miliwn i wella’r rhwydwaith. Bydd arian ychwanegol ar gael hefyd i helpu awdurdodau lleol i wella ac uwchraddio llwybrau cerdded a beicio sy’n bodoli eisoes.

Er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, rydym wedi dyrannu dros £17 miliwn i addasu ein seilwaith i wrthsefyll llifogydd sy’n cael effaith enfawr ar bobl a chymunedau.

I gyd-fynd â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru mae ein Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan, y byddwn yn ei chyhoeddi yr wythnos nesaf. Mae’r strategaeth yn cydnabod y bydd cerbydau trydan yn chwarae rhan bwysig yn nyfodol trafnidiaeth. Mae mynediad at bwyntiau gwefru i bob defnyddiwr, ac ym mhob rhan o Gymru, yn hanfodol os ydym am ddatgarboneiddio yn llawn a gwella ansawdd aer. Drwy amlinellu gweledigaeth ar gyfer yr angen gwefru yn y dyfodol rydym yn magu hyder defnyddwyr o ran newid i gerbydau trydan. Bydd hyn hefyd yn helpu i dynnu ynghyd y camau gweithredu i sicrhau cynnydd sylweddol mewn cyfleusterau gwefru dros ddegawd dyngedfennol. Er mwyn dechrau cyflawni’r ymrwymiadau yn y Strategaeth hon rydym yn dyrannu £9 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf i awdurdodau lleol i symud tuag at gerbydau allyriadau sero ac i gyflwyno seilwaith gwefru.

Lle mae arnom angen seilwaith trafnidiaeth newydd, byddwn yn gweithredu mewn ffordd newydd.  Byddwn yn defnyddio’r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy ar gyfer Cynllunio i roi blaenoriaeth i ateb y galw am deithio drwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus cyn ystyried cerbydau modur preifat. Er mwyn sicrhau bod y ffordd hon o weithio wedi’i hymgorffori’n llawn yn ein penderfyniadau buddsoddi a’r rhai a wneir gan bartneriaid cyflenwi eraill, byddwn yn adolygu Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) i fod yn gyson â Llwybr Newydd. Byddwn hefyd yn edrych tuag at ddatblygu meini prawf i gynorthwyo defnyddwyr WelTAG i benderfynu pryd i fuddsoddi mewn seilwaith newydd. Bydd angen i brosiectau sy’n derbyn cyllid trafnidiaeth gan Lywodraeth Cymru ddangos eu bod yn cyd-fynd â Llwybr Newydd.

Llwybr Newydd yw dechrau’r daith – nid y diwedd. Dyma daith y gall cenedlaethau’r dyfodol fod yn falch ohoni.

Gellir gweld y ddolen i'r strategaeth yma:https://llyw.cymru/llwybr-newydd-strategaeth-drafnidiaeth-cymru-2021