Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddais y Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog, a ddatblygwyd gyda chymorth sefydliadau allweddol o'r sector tai a'r Lluoedd Arfog. Mae'r llwybr yn enghraifft dda arall ohonom yn gweithio mewn partneriaeth i atal digartrefedd ymhlith cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.

Mae gennym gyfrifoldeb difrifol iawn i'r bobl hynny yn ein cymunedau sydd wedi gwasanaethu, neu sy'n dal i wasanaethu, yn y Lluoedd Arfog. Mae rhoi cymorth iddynt i ddod o hyd i lety addas yn rhan bwysig o becyn ehangach o gefnogaeth sy'n eu helpu nhw i ailymgartrefu yn ein cymunedau. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i helpu, ac os bydd angen gwneud rhagor, fel y mae datblygu'r Llwybr wedi dangos, gwnaf yr hyn sydd ei angen.

Mae atal digartrefedd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Darllenais, gyda chryn dipyn o bryder, ganlyniadau'r arolwg blynyddol o nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd, a gyhoeddwyd ddoe. Nodwyd yn yr arolwg fod cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd.  Er bod llawer o'r rhesymau am hyn y tu hwnt i'n rheolaeth, rhaid i ni wneud cymaint ag y gallwn ar y cyd â sefydliadau eraill i sicrhau bod pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael i'w helpu, a'u bod yn manteisio arnynt.  Bydd fy nghyhoeddiad diweddar am gyllid gwerth £7.8 miliwn i atal digartrefedd yn 2017-18 yn cefnogi gwaith sy'n helpu i wneud hyn.

Mae'r ddeddfwriaeth newydd yng Nghymru i atal digartrefedd wedi cael ei chanmol, ac mae'n braf gweld bod Llywodraeth y DU yn dilyn esiampl Cymru o ran atal digartrefedd. Mae'r Llwybr hwn, ochr yn ochr â'r llwybr cenedlaethol i'r rheini sy'n gadael y carchar, yn golygu ein bod ar y blaen i weddill y DU o ran cydweithio amlasiantaethol er mwyn atal pobl, gan gynnwys llawer o bobl agored i newid, rhag bod yn ddigartref.

Byddwn yn parhau i weithio i roi'r Llwybr Tai ar waith, yn enwedig ymhlith sefydliadau sy'n gweithio ar y rheng flaen i atal digartrefedd. Hefyd, rydym yn bwriadu gwneud rhagor i godi ymwybyddiaeth, drwy gyhoeddi cyngor ar gyfer cyn-filwyr. Bydd hyn yn ategu cynnwys y Llwybr. Byddwn yn targedu'r rheini sydd ar fin gadael y Lluoedd Arfog, yn ogystal â'r bobl hynny sydd wedi gadael rywbryd yn y gorffennol. Bydd yn cynnwys cardiau cyngor i'r rheini sy'n cysgu ar y stryd. Hefyd, bydd y Llwybr yn cael ei hyrwyddo'n eang ymhlith sefydliadau sy'n darparu cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i'r holl sefydliadau sydd wedi gweithio gyda ni ar y datblygiadau hyn. Drwy gydweithio â Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog a sefydliadau partner, fe barhawn i gefnogi a darparu gwasanaethau effeithiol i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae ein dogfennau newydd, Pecyn Cymorth a Croeso i Gymru, yn rhoi cyngor a chyfleoedd er mwyn galluogi aelodau presennol a chyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau a chymorth, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

Mae llwyddiant y Llwybr yn dibynnu ar gydweithio effeithiol ac rwy'n hyderus y bydd pob sefydliad sy'n ymwneud â chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn parhau i chwarae eu rhan yn llawn.

Gellir cael mynediad at y Llwybr drwy'r ddolen hon:

http://gov.wales/docs/desh/publications/161108-national-housing-pathway-for-ex-service-personnel-cy.pdf