Neidio i'r prif gynnwys

Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r wythnos hon yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o Golli Babi, sy'n amser i gofio a myfyrio am golled yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth neu fabandod, ac i gydnabod yr effaith ddofn a pharhaol y mae hyn yn ei chael ar rieni a theuluoedd. Mae colli babi yn un o'r profiadau mwyaf enbyd y bydd teulu byth yn ei wynebu, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob rhiant a theulu mewn profedigaeth fynediad at ofal cyson, tosturiol ac o safon uchel, ni waeth lle maent yn byw yng Nghymru. Ochr yn ochr â'n gwaith parhaus i wella'r cymorth i deuluoedd, mae cynlluniau ar waith i oleuo adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ar gyfer y Don o Oleuni ar 15 Hydref.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae byrddau iechyd, gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, arbenigwyr profedigaeth, elusennau a theuluoedd mewn profedigaeth wedi cydweithio i gryfhau'r gofal mewn profedigaeth ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod cymorth ar gael i rieni pan fo'i angen. Rwy'n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hanfodol hwn, yn enwedig i'r rhieni sydd wedi rhannu eu profiadau er mwyn helpu i wella'r gofal i eraill. Rwy'n diolch iddynt am eu dewrder a'u penderfyniad i sicrhau newid.

Mae datblygu llwybrau gofal cenedlaethol sy'n benodol ar gyfer colli beichiogrwydd a cholli babi wedi bod yn rhan allweddol o'r gwaith hwn. Lansiwyd y llwybrau gofal hyn ledled Cymru ym mis Mehefin 2026. Mae gwaith wedi parhau gyda'r byrddau iechyd i'w gwneud yn rhan annatod o wasanaethau lleol yn gyson. Maent yn ategu'r fframwaith cenedlaethol ehangach ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth, a hynny drwy nodi'r cymorth y dylai teuluoedd ddisgwyl ei gael yn dilyn colli yn ystod beichiogrwydd, marw-enedigaeth, marwolaeth newyddenedigol neu farwolaeth babi.

Ers mis Mehefin, mae'r llwybrau gofal wedi darparu dull cenedlaethol clir ar gyfer gofal a chymorth. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ceisio deall galar teuluoedd a sicrhau eu bod yn cael eu trin ag urddas drwy gyfathrebu sensitif, darparu gwybodaeth ysgrifenedig glir, gadael iddynt ddewis sut i greu atgofion neu drefnu angladd, atgyfeirio amserol a chyfeirio at gymorth arbenigol yn y gymuned, ni waeth lle maent yn byw yng Nghymru. Mae'r llwybrau gofal hefyd yn hyrwyddo dilyniant mewn gofal, fel nad oes angen i deuluoedd ailadrodd eu profiad dro ar ôl tro, neu orfod dod o hyd i gymorth ar eu pennau eu hunain ar adeg o ofid mawr.

I staff a gwasanaethau, mae'r llwybrau gofal yn fframwaith cyffredin sy'n seiliedig ar dystiolaeth at ddibenion ymarfer, hyfforddiant a gwelliant cyson. Maent yn helpu byrddau iechyd i nodi bylchau mewn darpariaeth, cryfhau trefniadau lleol a sicrhau bod gofal mewn profedigaeth sy'n dosturiol yn rhan annatod o ansawdd, diogelwch ac urddas mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.

Ers i'r llwybrau gofal gael eu lansio ym mis Mehefin, rydym wedi parhau i weithio gyda Perfformiad a Gwella GIG Cymru a Sands Cymru i sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn gyson ledled Cymru, gan gydnabod, wrth gwrs, anghenion unigol teuluoedd ac amgylchiadau gwasanaethau lleol. Byddwn yn parhau i fonitro'r gwaith o'u gweithredu, yn rhannu gwersi ac yn cefnogi gwelliannau fel y gall pob teulu gael y gofal tosturiol sydd ei angen arno.

Mae cefnogi teuluoedd ar ôl colli babi yn rhan bwysig o'n hymrwymiad ehangach i wella gwasanaethau mamolaeth, newyddenedigol ac iechyd menywod yng Nghymru. Mae'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yn gosod disgwyliadau clir y dylai gwasanaethau fod yn ddiogel, yn deg ac yn canolbwyntio ar anghenion menywod, babanod a theuluoedd, gan gynnwys teuluoedd mewn profedigaeth.

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Golli Babi, rwyf hefyd eisiau cydnabod cyfraniad amhrisiadwy elusennau, mudiadau gwirfoddol, arbenigwyr profedigaeth a grwpiau cymorth, gan gynnwys Sands Cymru. Mae eu harbenigedd, eu hymroddiad a'u tosturi yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rieni a theuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru.

Hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i bob teulu sydd wedi colli babi. Gwn na all geiriau fyth leddfu eich colled, ond rwy'n benderfynol o wneud newidiadau fel y bydd llai o fabanod yn colli eu bywydau. Eleni, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Golli Babi, rydym yn cofio eich babanod, yn cydnabod eich galar ac yn ailgadarnhau ein hymrwymiad i wneud gofal mewn profedigaeth yn well yng Nghymru, a sicrhau ei fod yn dosturiol, yn gyson ac yn ymatebol i anghenion pob teulu.