Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y dywedais yn fy adroddiad llafar a roddais ar 4 Gorffennaf 2023, mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU (ETS y DU) – sydd â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn aelodau ohono – bellach wedi cyhoeddi Ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar “Ddatblygu ETS y DU”.

 

Yn y datganiad, disgrifiais y newidiadau strategol a thechnegol sydd yn Ymateb y Llywodraeth a’u harwyddocâd i Gymru. Y prif newid strategol a gyhoeddais oedd y gostyngiad yng nghap ETS y DU i fod yn gyson â’r targedau sero net. Mae’r Awdurdod wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i fabwysiadu’r cap newydd hwn ym mis Ionawr 2024 a bydd am ddilyn rhaglen ddeddfwriaethol yn unol â’r penderfyniadau a’r bwriadau yn Ymateb y Llywodraeth, gan gynnwys y cap.

Mae'r rhan fwyaf o'r newidiadau a ddaw yn sgil Ymateb y Llywodraeth yn dechnegol a/neu'n weithredol eu natur a rhaid eu gwneud drwy offeryn statudol (OS), gan ddilyn y weithdrefn negyddol, i ddiwygio Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 ("Gorchymyn 2020") yn unol â Deddf Newid Hinsawdd 2008 (“Deddf 2008”). Bydd hynny’n ei gwneud yn bosibl gwneud nifer o newidiadau gweithredol i'r cynllun a’u cymhwyso ledled y DU, megis cynnwys meincnodau yng nghyfraith y DU. Mae'n dal yn bosibl gosod deddfwriaeth o dan y weithdrefn penderfyniadau negyddol yng Ngogledd Iwerddon. Ar ôl ei osod, bydd yr OS yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn penodedig. Fodd bynnag, ar ôl dychwelyd, os bydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn pasio penderfyniad diddymu o fewn y cyfnod statudol (cyfnod sy'n cynnwys o leiaf 10 diwrnod y bydd y Cynulliad wedi bod yn eistedd, ond ddim llai na 30 diwrnod calendr yn ystod un neu fwy o sesiynau’r Cynulliad) yna bydd y rheol honno'n ddi-rym o ddyddiad y penderfyniad hwnnw.

Byddai newidiadau mwy arwyddocaol eraill, fel y cap, wedi cael eu gwneud fel arfer trwy OSau yn y Cyfrin Gyngor, o dan y weithdrefn gadarnhaol, a’u gosod yn holl ddeddfwrfeydd y DU yr un pryd, yn unol â Deddf 2008. Fodd bynnag, gan nad oes Gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon na Chynulliad sy’n eistedd, nid yw'n bosibl gwneud deddfwriaeth ledled y DU drwy'r weithdrefn gadarnhaol.

Gellir rhoi’r rhan fwyaf o'r newidiadau arwyddocaol hyn ar waith trwy OS trwy weithdrefn gadarnhaol, a dyna a wneir, gan eu cymhwyso yn unig i Brydain Fawr, er enghraifft cap o 100% ar y dyraniadau am ddim ar allyriadau gweithredwyr hedfan. Gan nad oes gweithredwyr yng Ngogledd Iwerddon y byddai’r darpariaethau’r OS hwn yn effeithio arnynt, mae'r Awdurdod wedi cytuno y byddai OS i Brydain Fawr yn unig yn dderbyniol yn y tymor byr.

Fodd bynnag, ni cheir cymhwyso’r newidiadau i'r cap i Brydain Fawr yn unig gan eu bod yn effeithio ar y DU gyfan. Gan nad oes dyddiad clir ynghylch pryd y caiff Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ei ffurfio a chan fod amseru'n elfen hanfodol i weithredu'r newidiadau gofynnol, rhaid felly wrth drefn arall yn lle gosod OS ym mhob deddfwrfa yn y DU yr un pryd.  

Yr ateb y cytunwyd arno yw bod Lywodraeth y DU yn diwygio Rheoliadau Arwerthu Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2021 (y "Rheoliadau Arwerthu") trwy bŵer galluogi o dan Ddeddf Cyllid 2020, nes y gellir gwneud y newidiadau o dan Ddeddf 2008.

Mae'r Rheoliadau Arwerthu yn rhan o Fframwaith ETS y DU ac fe'u defnyddir i bennu'r gyfran o lwfansau y gellir eu dwyn i ocsiwn bob blwyddyn. Bydd y diwygiad hwn yn gosod y gyfran arwerthu, ac felly nifer y lwfansau sy'n mynd i gylchrediad, yn unol â'r cap sero net newydd. Bydd hyn yn golygu bod nifer y lwfansau sydd ar gael i'r farchnad yn cyfateb i’r cap is, sy'n gyson â sero net.  Mae'n bwysig nodi nad yw'r diwygiadau i'r Rheoliadau Arwerthu’n gostwng y cap fel y’i nodir yng Ngorchymyn 2020. Bydd angen diwygiadau deddfwriaethol, drwy bŵer galluogi o dan Ddeddf 2008, i ddarparu polisi yn y tymor hir. Fodd bynnag, bydd y newid interim hwn yn cael yr effaith a ddymunir nes y gellir gwneud y ddeddfwriaeth o dan Ddeddf 2008; sef lleihau allyriadau’r rhai sy’n cymryd rhan drwy leihau nifer y lwfansau sydd ar gael.

Fel y gwyddoch, yn unol â Fframwaith Cyffredin ETS y DU, barn Llywodraeth Cymru am ETS y DU yw mai unig ddiben yr elfennau ariannol yw bod yn fecanwaith ar gyfer gwireddu nod y system – sef diogelu'r amgylchedd trwy roi cymhelliad i ddatgarboneiddio. Gan fod y diwygiad i ostwng y lwfansau arwerthu yn cael ei wneud i'r Rheoliadau Arwerthu, ac nid i ddeddfwriaeth sylfaenol, nid oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.  Mae'r diwygiad yn cael ei wneud trwy OS i is-ddeddfwriaeth.  Gan nad yw'r is-ddeddfwriaeth sy'n cael ei diwygio yn brif ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir o dan baragraff 4 o ran 1 o dan atodlen 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, nid y weithdrefn hon yw’r weithdrefn y byddai Senedd Cymru yn ei dilyn pe bai'n diwygio deddfiad a gynhwysir mewn deddfwriaeth sylfaenol.  Felly, nid oes angen Memorandwm Cydsyniad OS, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru[1].

Gallai newid y Rheoliadau Arwerthu, heb wneud y newidiadau angenrheidiol drwy'r pŵer galluogi o dan Ddeddf 2008, olygu o bosibl bod Senedd Cymru (a Seneddau eraill) yn colli’r cyfle i asesu'r newidiadau arfaethedig. O ganlyniad, rwy'n ofalus ynghylch defnyddio'r dull hwn.

Serch hynny, mae’r amserlen ar gyfer gostwng cap ETS y DU yn hanfodol. Heb gytuno ar lwybr deddfwriaethol, ni fyddai wedi bod yn bosib cyhoeddi Ymateb y Llywodraeth gyda'i hymrwymiad i roi’r cap ar waith erbyn 2024. Byddai peidio â gwneud hyn wedi gohirio’r cap ac felly wedi peryglu ein targedau hinsawdd a chyfranogwyr ETS y DU. Bydd gohirio’r cap ond yn arwain at ostyngiad llymach i’r cap (a datgarboneiddio) nes ymlaen yn y degawd hwn, gan roi mwy o bwysau ar ein diwydiannau.

Er fy mod wedi ymrwymo i sicrhau bod gan Senedd Cymru’r hawl a'r gallu i asesu darpariaethau sy'n dod o fewn ei chymhwysedd deddfwriaethol, mae'n bwysig bod y broses yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei pharchu. Felly, i gydnabod brys a phwysigrwydd y newid hwn, rwyf wedi cytuno â Gweinidogion Portffolios eraill yn yr Awdurdod bod y diwygiadau’n cael eu gwneud fel hyn. Rhag gohirio cyhoeddi Ymateb y Llywodraeth ac felly’r cap newydd, caiff y broses graffu ei chynnal fel arfer yn y pedair deddfwrfa pan y deddfir ar gyfer y cap drwy'r pŵer galluogi o dan Ddeddf 2008.

Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'w hysbysu o'r amgylchiadau a'r broses a ddefnyddir. Yn ogystal, rwyf i a’r Gweinidogion Portffolios eraill yn yr Awdurdod hefyd wedi ymrwymo trwy gyfnewid llythyrau i ddeddfu o dan Ddeddf 2008 i ostwng cap ETS y DU cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol. Wrth symud ymlaen, byddaf yn parhau i geisio cymeradwyaeth Senedd Cymru pan ddaw materion o fewn cymhwysedd Senedd Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

[1] Rheolau Sefydlog Senedd Cymru(senedd.wales)