Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Rhagfyr y llynedd, llygrwyd Afon Teifi a lladdwyd nifer mawr o bysgod. Mae Afon Teifi’n cynnal poblogaethau pwysig o eogiaid a sewin, yn ogystal â rhywogaethau eraill a ddynodir o dan gyfraith yr UE. Mae hefyd yn afon allweddol ar gyfer twristiaeth bysgota yng Nghymru, ac mae’n cynnal nifer o bysgotwyr masnachol sy’n pysgota â rhwydi. Ysgrifennodd fy swyddogion at Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ôl y digwyddiad yn gofyn iddo lunio cynllun gweithredu manwl ar gyfer adfer yr afon a lleihau’r effaith ar yr economi leol. Rwyf mewn sefyllfa bellach i roi’r wybodaeth ddiweddaraf.

Mae CNC yn parhau i ymchwilio i effaith y digwyddiad hwn a bydd angen cynnal rhagor o arolygon yn y gwanwyn i asesu’r effaith lawn. Bydd gofyn gwneud hynny cyn y gellir mynd ati i baratoi cynllun gweithredu. Gan fod yr ymchwiliadau i achos y llygredd yn parhau, a hynny fel y bo modd cymryd camau gorfodi, ni allaf wneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd. Bydd CNC yn cwblhau ei ymchwiliadau ac yn paratoi cynllun i adfer yr afon yn ddiweddarach eleni pan wna’ i roi rhagor o wybodaeth i Aelodau.