Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus fydd yn para 12 wythnos i lywio datblygiad y Polisi Adnoddau Naturiol cyntaf, sef cam arwyddocaol nesaf ar gyfer rhoi ein deddf flaengar, Deddf yr Amgylchedd (Cymru), ar waith.  Gan ddatblygu’r ‘Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ffocws y Polisi Adnoddau Naturiol yw rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol Cymru.  Mae’r ffordd honno o reoli yn ei thro yn hanfodol i wireddu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Wrth ddatblygu Polisi Adnoddau Naturiol cyntaf Cymru, yn enwedig yng nghyd-destun goblygiadau difrifol ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd yn y maes hwn, fy amcan yw sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn rhan allweddol o’r trafod ynghylch y ffordd ymlaen, hynny yn unol â’r ffyrdd o weithio a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r egwyddorion a ddisgrifir yn Neddf yr Amgylchedd.  Gan adeiladu ar gyfarfodydd cynharach y Ford Gron a’r gweithdai ehangach â rhanddeiliaid dros yr haf, mae cyfle amlwg i borthi’r consensws sydd wedi dod i’r amlwg yn y gweithdai a’r cyfarfodydd ford gron rydym wedi’u cynnal fel adran am ymadawiad y DU â’r UE.  Yn arbennig, trwy wneud yn fawr o enw da Cymru am gynnyrch o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar safonau iechyd ein hamgylchedd, pobl ac anifeiliaid, mae cyfle amlwg i helpu’n sectorau pwysicaf i wneud mwy o elw ac i fod yn gryfach.

Gan edrych tua’r dyfodol, gosododd Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sylfaen gref inni adeiladu arni gan fod y ddwy Ddeddf yn ymgorffori mewn deddfwriaeth sylfaenol ein rhwymedigaeth i ymrwymiadau rhyngwladol pwysig na fyddant yn newid am fod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.  Maent eisoes yn cael eu cydnabod fel esiamplau da i’r byd.   O fewn y cyd-destun hwn, bydd y Polisi Adnoddau Naturiol felly yn chwarae rhan allweddol i sicrhau bod Cymru’n cael elwa ar y cyfleoedd sylweddol a ddaw yn sgil rheoli’n hadnoddau naturiol yn well a thaclo’r heriau rydym yn eu hwynebu.  O wneud, yn ogystal â sbarduno pawb i weithredu i sicrhau canlyniadau amgylcheddol, gall arwain at wella’n cydnerthedd a’n hiechyd fel gwlad.

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/datblygiad-y-polisi-adnoddau-naturiol