Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ennill £6 miliwn o gyfranddaliadau ym Maes Awyr Caerdydd a bydd yn darparu £1 miliwn yn ychwanegol i osod e-glwydi a gwaith diogelwch yn y maes awyr. Mae'r buddsoddiad hwn yn adeiladu ar lwyddiant sylweddol y Maes Awyr dros y blynyddoedd diwethaf. Fel unig randdeiliad y Maes Awyr, yn gweithredu fel y bydd buddsoddwr masnachol yn yr un sefyllfa, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu buddsoddi ymhellach i gyflymu llwyddiant y Maes Awyr.
Bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i wella cyfleusterau a chynnig masnachol y Maes Awyr fel y gellir gwella refeniw a phroffidioldeb y Maes Awyr yn gyflymach nag a fyddai wedi digwydd hebddo. Mae'r cam i fyny yn y perfformiad masnachol hwn a arweiniwyd gan y buddsoddiad wedi dod ymlaen yn sylweddol gallu'r Maes Awyr i fod yn hunangynhaliol, ac yn bwysig i drethdalwyr, hefyd yn cyflymu'r cynnydd i sefyllfa ble mae posibilrwydd o adennill buddsoddiad lle gall y llywodraeth ystyried denu buddsoddiad o'r sector preifat trwy ryddhau ecwiti, ac felly dychwelyd arian i'r llywodraeth i ni fuddsoddi mewn mannau eraill.
Trwy chwistrellu cyllid ychwanegol nawr, ar ffurf prynu cyfranddaliadau ychwanegol, bydd y Llywodraeth naill ai'n dwyn ymlaen y dyddiad ble y gellir adennill ei holl fuddsoddiad benthyciad ac ecwiti ym Maes Awyr Caerdydd, neu dwyn ymlaen y dyddiad all partner o'r sector preifat dod i fewn heb wanhau unrhyw ran o fuddsoddiad y Llywodraeth. Mae'r Llywodraeth yn gweithredu yn yr un ffordd ag y byddai unrhyw fuddsoddwr masnachol rhesymol, i sicrhau'r dychweliad mwyaf o'r Maes Awyr.
Bydd y cyfranddaliad ychwanegol yn caniatáu i'r maes awyr ariannu prosiectau cyfalaf a fydd yn caniatáu i'r busnes wneud y mwyaf o lwyddiannau diweddar, gwneud y mwyaf o refeniw a chynyddu twf busnes pellach. Bydd y gwelliannau hyn hefyd yn helpu i gyflawni gwelliannau ychwanegol i lefelau boddhad cwsmeriaid a ddylai, yn eu tro, yrru busnes newydd ac ailadroddus.
Mae'r buddsoddiad ariannol yn fuddsoddiad sy'n gyfrifol yn ariannol, gan wneud defnydd effeithiol ac effeithlon o'r ased strategol allweddol hwn i Gymru.
Ers i Lywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd, y mae wedi gweld twf flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nifer y teithwyr, sydd bellach yn agos at 1.5 miliwn y flwyddyn. Mae hyn yn dwf o 9% y flwyddyn o ran nifer y teithwyr, ar ben y twf o 16% yn 2016. O fewn y 6 mis diwethaf, cafodd y Maes Awyr ei enwi yn y maes awyr gorau yn y DU (o dan 3 miliwn o deithwyr) a daeth yn seithfed yn y byd mewn adolygiad diweddar o foddhad cwsmeriaid maes awyr.
Mae elw'r Maes Awyr yn tyfu yn unol â rhagolygon y cynllun busnes, ac mae'r cwmnïau sy'n hedfan o Gaerdydd yn hedfan yn uniongyrchol i dros 50 o gyrchfannau gan gynnwys 9 o brifddinasoedd, ac i dros 900 o gyrchfannau drwy 11 o feysydd awyr eraill.
Mae hyn, ochr yn ochr â sefydlu Qatar Airways yng Nghaerdydd sy'n agor de Cymru i weddill y byd, yn dangos yn glir rhai o'r llwyddiannau a gafwyd hyd yma. Mae'n rhaid i'r Maes Awyr fanteisio ar y cyfle hwn i ychwanegu at y cysylltedd byd-eang, ac fel unig berchennog y Maes Awyr mae'n rhaid inni weithredu nawr i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar ei lwyddiannau diweddar. Mae Maes Awyr Caerdydd yn opsiwn ymarferol, fforddiadwy a phositif i deithwyr sydd yn bwysig wrth inni baratoi i ymadael â'r UE. Mae'n rhaid inni sicrhau bod Cymru ar agor i fusnes yn fyd-eang.
Pan lansiais ein Cynllun Gweithredu Economaidd ar ddiwedd 2017, gwelais pa mor bwysig oedd cysylltedd o fewn Cymru, gweddill y DU a'r byd, i fusnesau a phobl. Yn amlwg, i bobl De Cymru, mae Maes Awyr Caerdydd yn rhan sylfaenol o'r ateb. Bydd ein buddsoddiad yn helpu i wella ymhellach cyfraniad y Maes Awyr i economi Cymru.