Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 16 Mai 2017, cyhoeddais fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn diffiniad dros dro Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost (IHRA).  Mae’n bwysig i gadarnhau, o dderbyn diffiniad IHRA, ein bod wedi cynnwys o'r cychwyn cyntaf yr un enghraifft ar ddeg yn llawn a heb amodau.  Rwy hefyd am roi gwybod y diweddaraf am y camau yr ydym wedi'u cymryd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth.

Dyma ddiffiniad IHRA:

“Math o ganfyddiad o Iddewon, a all gael ei gyfleu fel casineb tuag at Iddewon, yw gwrthsemitiaeth.  Amlygir gwrthsemitiaeth drwy iaith a gweithredoedd corfforol sydd wedi'u hanelu at Iddewon neu unigolion nad ydynt yn Iddewon a/neu eu heiddo; ac at sefydliadau cymunedol a chyfleusterau crefyddol Iddewig.”

O ystyried y cyd-destun cyffredinol, gallai enghreifftiau cyfoes o wrthsemitiaeth mewn bywyd cyhoeddus, yn y cyfryngau, mewn ysgolion, yn y gweithle, ac yn y maes crefyddol, gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • Gofyn i rywun ladd neu niweidio Iddewon, cynorthwyo rhywun i'w lladd neu eu niweiddio, neu gyfiawnhau eu lladd neu eu niweidio, yn enw ideoleg radicalaidd neu farn eithafol am grefydd.
  •  Gwneud honiadau anwireddus, diraddiol,  neu ystrydebol, neu rai sy’n eu demoneiddio, am Iddewon eu hunain neu am bŵer Iddewon fel grŵp o bobl — er enghraifft, yn arbennig ond nid yn unig y myth am gynllwyn byd-eang Iddewon, neu fod Iddewon yn rheoli'r cyfryngau, yr economi, y llywodraeth neu sefydliadau cymdeithasol eraill.
  •  Cyhuddo'r Iddewon o fod yn gyfrifol am wneud cam neu ddrygioni am weithredoedd gwirioneddol neu ddychmygol a gyflawnwyd gan unigolyn Iddewig neu grŵp o Iddewon, neu hyd yn oed am weithredoedd a gyflawnwyd gan bobl nad ydynt yn Iddewon.
  •  Gwadu'r ffaith, y graddau, y dulliau (e.e. siambrau nwy) neu'r penderfyniad bwriadol o ran hil-laddiad yr Iddewon dan ddwylo Plaid Sosialaidd Genedlaethol yr Almaen a chynorthwywyr a chyd-droseddwyr y Blaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd (yr Holocost).  
  •  Cyhuddo'r Iddewon, neu genedl Israel, o ffugio neu orddweud hanes yr Holocost.
  •  Cyhuddo dinasyddion Iddewig o fod yn fwy ffyddlon i Israel, neu i flaenoriaethau honedig Iddewon byd-eang, nag i fuddiannau eu cenhedloedd eu hunain.
  •  Gwrthod hawl Iddewon i benderfynu drostynt eu hunain, e.e. drwy honni bod bodolaeth cenedl Israel yn ymgais hiliol.
  •  Gweithredu safonau dwbl drwy fynnu ymddygiad na ddisgwylir ac na ofynnir amdano gan unrhyw genedl ddemocrataidd arall.
  •  Defnyddio'r symbolau a'r delweddau sy'n gysylltiedig â gwrthsemitiaeth glasurol (e.e. honni mai Iddewon a laddodd yr Iesu neu enllib gwaed) i nodweddu Israel neu'r Israeliaid.
  •  Gwneud cymariaethau rhwng polisi cyfoes yr Israeliaid a pholisi'r Natsïaid.
  •  Dal yr Iddewon yn gyfrifol am weithredoedd cenedl Israel.

Rwy am ei gwneud yn gwbl glir na fydd gwrthsemitiaeth ar unrhyw ffurf yn cael ei goddef.

Bydd diffiniad IHRA, gan gynnwys yr un enghraifft ar ddeg, yn helpu pob sefydliad a chorff yng Nghymru i ddeall ac adnabod gwrthsemitiaeth gyfoes. Bydd hynny'n helpu i sicrhau fod llai o dramgwyddwyr yn osgoi cael eu beirniadu am fod yn wrthsemitaidd. Mae'r pedwar heddlu yng Nghymru eisoes yn defnyddio'r diffiniad.  

Er mwyn sicrhau bod hanfod y diffiniad yn mynd yn sail i ethos Llywodraeth Cymru, ac i annog bod ein prif bartneriaid yn ei fabwysiadu a'i ddefnyddio rydym wedi gwneud y canlynol:  

  •  Trefnu hyfforddiant am wrthsemitiaeth ar gyfer swyddogion Llywodraeth Cymru - yn bennaf ar gyfer y rheini sy'n gweithio mewn swyddi sy'n ymwneud â chydraddoldeb a chydlyniant cymunedol.  Cafodd yr hyfforddiant hwn ei gyflwyno gan hyfforddwr profiadol ym maes cydraddoldeb - ac roedd gan yr hyfforddwr gysylltiad personol hirsefydlog â'r gymuned Iddewig yng Nghaerdydd.  Roedd yr hyfforddiant, a gynigiwyd i randdeiliaid allanol hefyd, yn rhoi sylw i ddiffiniad IHRA o wrthsemitiaeth.
  •  Trefnu i unigolyn sydd wedi goroesi'r Holocost ac sydd â chysylltiadau cryf â Chymru roi cyflwyniad i swyddogion Llywodraeth Cymru ar 25 Medi 2018. Mae hyn yn deillio o waith Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost yng Nghymru, sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.
  •  Sicrhau bod ein gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb yn rhoi sylw amlwg i wrthsemitiaeth.  Caiff y gwaith hwn ei gyd-drefnu gan ein Bwrdd Cyfiawnder Troseddol ar gyfer Troseddau Casineb a gynhaliodd drafodaeth lawn ar droseddau casineb gwrthsemitaidd ym mis Ebrill 2017. Roedd y drafodaeth honno hefyd wedi cynnwys cyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Diogelwch Cymunedol, elusen sy'n cynnig cyngor ac amddiffyniad i gymunedau Iddewig yn y Deyrnas Unedig. Roedd y Bwrdd wedi nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i fabwysiadu diffiniad IHRA o wrthsemitiaeth, gan annog partneriaid i gynnwys negeseuon yn erbyn gwrthsemitiaeth nid yn unig yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, ond hefyd yn eu cyfathrebiadau drwy gydol y flwyddyn. Er enghraifft, roedd Llywodraeth Cymru wedi defnyddio Twitter i dynnu sylw at ddiffiniad IHRA yn ystod Wythnos Cydraddoldeb 2017.
  •  Cydweithio â Chymorth i Ddioddefwyr Cymru, sy'n rheoli Canolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a hynny er mwyn sicrhau bod eu system gofnodi'n nodi achosion o droseddau casineb gwrthsemitaidd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i annog bod dioddefwyr gwrthsemitiaeth yn adrodd am unrhyw achos ohoni. Rydym yn gweithio'n galed ar y cyd â'n partneriaid i ddiogelu a chefnogi dioddefwyr cam-drin a thrais gwrthsemitaidd, a dwyn tramgwyddwyr i gyfrif am eu hymddygiad.

Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol yn ei hymgais i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn wlad gyfeillgar a goddefgar i fyw, astudio a gweithio ynddi; nid oes dim lle i wrthsemitiaeth yn y Gymru sydd ohoni.