Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae sector cyhoeddus Cymru yn rym economaidd sylweddol sydd â mandad clir i fwrw ati â’n hymrwymiad i sicrhau Cymru wyrddach, fwy cyfartal. Bydd defnyddio ein hasedau tir ac eiddo yn y sector cyhoeddus yn effeithiol yn bwysig o ran ein helpu i adeiladu cadernid economaidd yn wyneb yr heriau sydd bellach yn ein hwynebu. Mae sefydlu'r Is-adran tir wedi bod yn amserol, ond mae'n hanfodol ein bod yn cymryd pob cyfle i gydweithio â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus er mwyn manteisio i'r eithaf ar ein hasedau cyfunol.

Cyhoeddwyd cynllun grant gwerth £5 miliwn y Cynllun Rhyddhau Tir ar 6 Mai i helpu i ryddhau tir ar gyfer tai fforddiadwy a thai cymdeithasol y mae mawr angen amdanynt. Dim ond rhan o'r darlun yw hyn. Mae'n hanfodol ein bod yn dangos ac yn hyrwyddo arferion gorau ym maes rheoli asedau drwy weithredu'n strategol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae gwaith pwysig Ystadau Cymru yn parhau ac rwy'n cyhoeddi heddiw fersiwn wed’i diweddaru o’r Protocol Cydgysylltu Ystadau a Throsglwyddo Tir i dynnu sylw at y cyfleoedd sy’n codi o ddull symlach o waredu, trosglwyddo a rhannu asedau tir ac eiddo rhwng cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ategir hyn drwy gyhoeddi hefyd, fel rhan o’n Strategaeth Rheoli Asedau Corfforaethol, ganllawiau arferion da Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer Caffael a Gwaredu Asedau Tir ac Eiddo.  

Mae COVID-19 wedi dangos pa mor dda y gall y sector cyhoeddus weithio gyda'i gilydd mewn argyfwng. Bydd effaith economaidd COVID-19 yn ei gwneud yn ofynnol i ni barhau i ddatblygu dull gweithredu agos a chydweithredol ar draws y sector cyhoeddus cyfan a bydd y gyfres hon o ganllawiau yn ein helpu i weithio tuag at at sicrhau ystad gyhoeddus fwy cynaliadwy.    

https://llyw.cymru/protocol-cydleoli-ystadau-throsglwyddo-tir