Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr aelodau yn ymwybodol o'r problemau sy'n effeithio ar ein Gwasanaethau Tân ac Achub yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd y methiannau mwyaf difrifol i'w gweld yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Parodd hynny i ni benodi Comisiynwyr i gymryd yr awenau ym mis Chwefror 2024. Maent yn gwneud gwaith da, a ddylai ganiatáu i'r Gwasanaeth ddychwelyd i ddwylo lleol y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae'r sector cyfan yn goddef oherwydd nad yw'r trefniadau llywodraethiant yn darparu arweinyddiaeth effeithiol nac yn gweithredu system atebolrwydd glir. Nid yw'r Awdurdodau Tân ac Achub, ar eu ffurf bresennol, mewn sefyllfa i ddarparu cyfeiriad strategol, neu i ddal uwch swyddogion i gyfrif am ddarparu a gwella gwasanaethau. Mae hynny'n ddi-os wedi cyfrannu at y problemau a welwyd, a'r ffaith eu bod wedi parhau.

Dros yr haf, ymgynghorais ar opsiynau ar gyfer diwygio llywodraethiant y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru. Rwyf wedi ystyried yr ymatebion yn ofalus. Rwy'n falch bod cefnogaeth eang mewn egwyddor i newid pethau, gan gynnwys gan awdurdodau lleol, undebau, aelodau o'r cyhoedd a'r Awdurdodau Tân ac Achub eu hunain. Fodd bynnag, mynegwyd safbwyntiau gwahanol o ran manylion y model diwygiedig. Felly, rwyf wedi penderfynu ar y cynigion sydd fwyaf tebygol o sicrhau llywodraethiant effeithiol i'r Gwasanaeth, o fewn pwerau'r is-ddeddfwriaeth sydd ar gael i mi. Dyma'r cynigion:

Yn gyntaf, bydd gostyngiad sylweddol yn nifer aelodau'r Awdurdodau Tân ac Achub. Cyrff gweithredol yw Awdurdodau Tân ac Achub, nid cyrff trafod neu gynrychioli – maent yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o ddarparu un gwasanaeth cyhoeddus. Er fy mod yn ddiolchgar am yr ymdrechion sylweddol y mae aelodau'r Awdurdodau Tân ac Achub wedi'u gwneud, maenifer presennol yr aelodaeth presennol, sef rhwng 24 a 28 o gynghorwyr enwebedig, yn llawer rhy uchel iddynt allu gwneud penderfyniadau effeithlon ac effeithiol mewn rôl weithredol. Bydd y niferoedd hynny'n cael eu lleihau i un o bob un o awdurdodau lleol yr Awdurdodau Tân ac Achub. Er mwyn creu atebolrwydd cryfach i awdurdodau lleol, ac o'u mewn, rhaid i'r aelodau hynny hefyd fod yn aelodau o fwrdd gweithredol neu gabinet eu cyngor. 

Ochr yn ochr â'r aelodau hyn o awdurdodau lleol, penodir aelodau annibynnol a fydd yn cael eu dewis am eu harbenigedd penodol mewn materion sy'n wynebu'r Gwasanaeth.  Bydd yr aelodau hynny yn ffurfio traean o'r aelodaeth gyfan. Byddant yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru ar sail cystadleuaeth deg ac agored, a bydd awdurdodau lleol, yr Awdurdodau Tân ac Achub ac undebau yn cymryd rhan lawn yn y broses ddethol. Dilynir yr un dull cydweithredol o benodi cadeiryddion ac is-gadeiryddion – bydd penodiadau'n cael eu gwneud gan yr Awdurdodau Tân ac Achub, gan ymgysylltu â'u hawdurdodau a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r gweithlu mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol. Mae hynny'n golygu y bydd gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru 15 aelod, ac y bydd gan Awdurdodau Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru naw yr un. Er mwyn i’r newidiadau hyn fagu gwreiddiau, a chael eu cynnal, byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â CLlLC a’r Awdurdodau Tân ac Achub i gryfhau’r gefnogaeth i aelodau, a’r trefniadau hyfforddi a datblygu.  

Credaf y bydd y trefniadau hyn yn arwain at y llywodraethiant cadarn sydd ei angen cymaint ar y Gwasanaeth. Byddant yn cymryd drosodd oddi wrth y Comisiynwyr yn Ne Cymru ganol 2026, ac yn syth ar ôl etholiadau lleol 2027 yn yr awdurdodau eraill. 

Yn ail, bydd y broses o osod cyllidebau'r Awdurdodau Tân ac Achub yn dod yn decach ac yn fwy tryloyw. Ar hyn o bryd, mae Awdurdodau Tân ac Achub yn ariannu eu holl wariant bron trwy godi ar eu hawdurdodau lleol , a nhw eu hunain sy'n pennu'r lefelau hynny. Er bod yr Awdurdodau Tân ac Achub fel arfer yn trafod y swm gyda'r awdurdodau lleol, nid oes unrhyw beth sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny, neu ystyried unrhyw sylwadau y mae awdurdodau lleol yn eu gwneud. Felly, bydd dyletswydd ar Awdurdodau Tân ac Achub i ymgynghori â'u hawdurdodau lleol ar eu cyllidebau drafft, gyda'r bwriad o ddod i gytundeb â nhw. Fel rhan o hynny, bydd yn rhaid i Awdurdodau Tân ac Achub gyfiawnhau'r swm arfaethedig yng nghyd-destun y galw lleol tebygol am wasanaethau tân ac achub.

Yn olaf, rwy'n cynnig gwella'r drefn arolygu ar gyfer y Gwasanaeth. Bydd rôl y Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub yn newid yn ffurfiol. Bydd yn canolbwyntio ar waith arolygu, a bydd y swydd yn cael ei hailenwi yn unol â hynny. Mae deiliad presennol y swydd yn gwbl gefnogol i'r newid. Bydd adnoddau arolygu ychwanegol hefyd ar gael, gan weithio mewn partneriaeth ag arolygiaethau eraill y Deyrnas Unedig. 

Bydd y newidiadau i'r aelodaeth a'r trefniadau gosod cyllidebau yn gofyn am newidiadau i gynlluniau cyfunol yr Awdurdodau Tân ac Achub, ac rwy'n bwriadu gwneud yr is-ddeddfwriaeth angenrheidiol yn y Flwyddyn Newydd. Nid oes angen deddfwriaeth er mwyn gwella'r drefn arolygu.

Roedd yn amlwg o'r ymgynghoriad bod rhywfaint o gefnogaeth i wneud newidiadau mwy sylfaenol - er enghraifft, penodi arbenigwyr yn unig yn aelodau o Awdurdodau Tân ac Achub, annibyniaeth weithredol i brif swyddogion tân, cyllid drwy'r Dreth Gyngor neu un Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer Cymru gyfan. Fodd bynnag, byddai angen deddfwriaeth sylfaenol i weithredu newidiadau o'r fath, ac mae hynny, felly, yn fater i'r Senedd nesaf.