Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn archwiliad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) o ladd-dy Peter Boddy yn Todmorden, Gogledd Swydd Efrog, gwelwyd eu bod wedi cyflenwi cig ceffyl i fusnes o’r enw Farmbox yn Nhy’n y Parc, Llandre ger Aberystwyth.

Ymwelodd swyddogion yr ASB â Thyn y Parc ar 12 Chwefror 2013, a drwgdybwyd fod cig ceffyl o ladd-dy Peter Boddy wedi’i ddefnyddio i gynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl.  Mae swyddogion yr ASB wedi cymryd a chadw’r  cig a gafwyd ar y safle yn ogystal â’r holl waith papur fydd ei angen i ymchwilio i’r mater hwn ymhellach.  Rhoddwyd gwybod i Heddlu Dyfed Powys am hyn ac mae nhw’n helpu’r ASB â’i hymchwiliadau ac wedi cloi’r safle.

Mae hwn yn bwnc sy’n destun gofid mawr i’r cyhoedd. Mae’r prif gyfrifoldebau dros labelu a diogelwch bwyd yng Nghymru yn eistedd gyda’r ASB. Cysylltais yn syth gyda’r ASB a gyda Gweinidogion yn Llundain.   Siaradais ag Ysgrifennydd Gwladol Defra, Owen Paterson AS, ar 12 Chwefror 2013 a chytunwyd i gydweithio’n glos i gefnogi ymchwiliadau’r ASB a’r heddlu.  Rwyf wedi siarad hefyd â Hybu Cig Cymru a charfannau eraill sydd â diddordeb yng nghadwyni cyflenwi cig coch Cymru.  Siaradais â Gweinidog Defra, David Heath ar 13 Chwefror 2013, mewn telegynhadledd ag adwerthwyr a phroseswyr mwya’r DU i drafod amrywiaeth o agweddau i ddelio â’r problemau hyn ynghylch cael cig ceffyl mewn cynhyrchion cig eidion.  Ers hynny, rwyf wedi cadw mewn cysylltiad agos, a wedi siarad hefo Gweinidog Defra, Owen Paterson, a Gweinidiogion bwyd eraill y DU, y bore yma.

Rwyf yn credu dylai defnyddwyr gael hyder mewn cig o Gymru yn gyffredinol ac mewn cynnyrch sydd wedi ei labelu fel cig eidion PGI o Gymru. Mae gan Gig Eidion Cymru statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) yr Undeb Ewropeaidd.  Mae hynny’n golygu bod y gadwyn gyflenwi gyfan yn bodloni’r safonau uchaf.  Hynny yw, dim ond cig o wartheg sydd wedi’u geni a’u magu yng Nghymru ac sydd wedi’u lladd a’u prosesu ar safleoedd sydd wedi’u cymeradwyo at ddiben y PGI sy’n gallu cael ei alw’n Gig Eidion o Gymru.  Mae’n gadwyn gyflenwi fer.  Rhaid i’r lladd-dai a’r safleoedd prosesu fodloni’r amodau llymaf cyn cael eu cymeradwyo at ddiben y PGI, ac mae modd olrhain yr holl gynnyrch yn rhwydd.

Mae holl gynnyrch ‘Cig Eidion Cymru’ yn cael eu monitro’n drylwyr er mwyn diogelu a chynnal yr ansawdd uchaf a’r safonau uchaf.  Rwy’n gobeithio gwneud datganiad llafar ar y mater hwn pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ail ymgynnull ddydd Mawrth nesaf.