Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae gan drafnidiaeth swyddogaeth hollbwysig o safbwynt hybu twf. Yn ddiamau mae angen rhwydwaith ffyrdd sy’n gadarn ac yn cael ei gynnal yn dda a all sicrhau bod traffig yn llifo’n ddiogel a hefyd reoli’r traffig ar draws y rhwydwaith os bydd digwyddiadau annisgwyl.
Yn dilyn cyfres o ddamweiniau difrifol ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn ddiweddar hoffwn ddisgrifio i’r Aelodau sut y caiff traffordd yr M4 ei rheoli. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cryn dipyn o arian yn y rhan hon o’r draffordd dros y 6 blynedd diwethaf er mwyn ei gwneud hi’n fwy gwydn ac yn fwy diogel. 

Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, rhwng Cyffordd 24 a Chyffordd 28, yw’r ffordd brysuraf yng Nghymru ac mae tua 100,000 o gerbydau yn ei defnyddio bob dydd.   
O safbwynt pa mor wydn a diogel yw’r draffordd, mae rhwystr diogelwch concrid wedi’i osod ar ei hyd ynghyd â system ar gyfer rheoli terfynau cyflymder newidiol. Mae darparu ffordd fynediad y Gwaith dur, i’r de o Gasnewydd, hefyd wedi creu opsiwn mynediad ychwanegol. Mae dros £60 miliwn wedi’i wario ar y mesurau hyn er mwyn sicrhau bod y rhan hon o’r draffordd yn fwy gwydn a mwy diogel.  

Yn ogystal â’r buddsoddiadau hyn caiff traffordd yr M4, sy’n ased mor allweddol a phrysur, ei rheoli gydol y dydd gan ganolfan rheoli traffig Llywodraeth Cymru ger Cyffordd 32. Mae’r ganolfan hon, ynghyd â chanolfan debyg yng Nghonwy, Gogledd Cymru, yn monitro llif y traffig ac yn ymateb i wybodaeth fyw gan gamerâu teledu cylch cyfyng a synwyryddion ciwiau a digwyddiadau sydd wedi’u lleoli ar draws rhannau o rwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd Cymru. 

Pan fydd digwyddiad neu dagfeydd caiff camau eu cymryd ar unwaith. Bydd yr ymateb yn cynnwys:

  • Dyrannu pobl ac adnoddau ar gyfer ymdrin â’r digwyddiad. Bydd yr adnoddau’n amrywio, gan ddibynnu ar natur y digwyddiad, er enghraifft clirio unrhyw ddeunydd sydd wedi gollwng neu atgyweirio ffensys diogelwch
  • Cysylltu â’r gwasanaethau brys
  • Cynnau arwyddion terfynau cyflymder a negeseuon electronig er mwyn hysbysu gyrwyr ynghylch y digwyddiad a rheoli llif y traffig
  • Darparu cynnwys ar gyfer bwletinau ar orsafoedd radio, ar y we ac ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae gan Swyddogion Traffig swyddogaeth hollbwysig ac maent yn chwarae rhan flaenllaw wrth ymateb yn gynnar i ddigwyddiadau a’u cadw o dan reolaeth. Maent yn symud rhwystrau o’r lôn gerbydau yn dilyn damweiniau a cherbydau sy’n torri i lawr, yn atal ac yn dargyfeirio traffig yn dilyn digwyddiadau, yn clirio gweddillion yn gyflym fel bod modd ailagor lonydd ac yn cynorthwyo’r heddlu â digwyddiadau mwy difrifol. Yn ddiamau maent yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gadw’r rhwydwaith ar agor. Yn 2013 aeth Swyddogion Traffig i dros 1700 o ddigwyddiadau rhwng Cyffordd 24 a Chyffordd 28 yr M4. 

Pan fydd digwyddiad difrifol ar y draffordd mae angen amser ar yr Heddlu i ymchwilio i’r amgylchiadau a hwy sy’n penderfynu pryd y gall ailagor. Eto i gyd, bu’r draffordd ar gau am sawl awr yn sgil y digwyddiadau diweddar ac felly rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gydweithio’n agos â’r heddlu er mwyn dysgu gwersi. Y nod yw sicrhau y gallwn ymdrin â digwyddiadau yn gyflym ac yn ddidrafferth yn y dyfodol. 

Mae rhai risgiau penodol ynghlwm wrth rai rhannau o’r rhwydwaith, fel y twnelau, ac mae angen cynlluniau ymateb brys ar eu cyfer. Mae cynllun digwyddiad mawr wedi’i lunio ar gyfer ardal Twnelau Brynglas sy’n nodi’r camau allweddol a fyddai’n rhan o’r ymateb i unrhyw ddigwyddiad a allai effeithio ar y twnelau ynghyd â swyddogaethau’r ymatebwyr allweddol, gan gynnwys y gwasanaethau brys.  

Cafodd y cynllun hwn ei ddefnyddio ym mis Gorffennaf 2011 yn sgil tân yn y twnnel i’r gorllewin. Er gwaethaf y difrod a achosodd y tân ailagorodd y twnnel o fewn tri diwrnod. 

Er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o oedi ac aflonyddwch wrth i dwnelau Brynglas gael eu hatgyweirio dros y ddwy flynedd nesaf rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ystyried dulliau blaengar o ymdrin â’r traffig yn ystod y cyfnod hwn. Roedd hyn yn cynnwys ystyried technolegau twnel newydd a allai olygu nad oes angen cau’r twnelau. Nid yw’n amlwg eto a fyddai’r technolegau hyn, o safbwynt twnelau Brynglas, yn economaidd ac o’r herwydd bydd angen cyflwyno mesurau eraill er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith ar deithwyr. 

Bydd hi’n bwysig sicrhau bod athroniaeth rheoli traffig yn cael ei defnyddio yn ystod cyfnod y gwaith sy’n ystyried yr aflonyddwch dros dro ar deithwyr a hefyd yr effeithiau ar economi ehangach Cymru. Mae’r buddsoddiad hwn yn y seilwaith presennol yn fuddsoddiad cwbl angenrheidiol ond ni fydd yn datrys y problemau ehangach o safbwynt capasiti’r rhan hon o’r draffordd. 

Bydd yr ymgynghoriad diweddar ar strategaeth a ffefrir ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn mynd i’r afael â’r materion ehangach hyn a byddaf yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf ynghylch y mater maes o law.