Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o ymrwymiad parhaol Llywodraeth Cymru i ddod i’r afael efo gwrth-semitiaeth, rwy’n medru cadarnhau ein bod wedi derbyn diffiniad dros dro Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost (IHRA) ar gyfer gwrthsemitiaeth.

Dyma ddiffiniad IHRA:

“Math o ganfyddiad o Iddewon, a all gael ei gyfleu fel casineb tuag at Iddewon, yw gwrthsemitiaeth. Amlygir gwrthsemitiaeth drwy iaith a gweithredoedd corfforol sydd wedi'u hanelu at Iddewon neu unigolion nad ydynt yn Iddewon a/neu eu heiddo; ac at sefydliadau cymunedol a chyfleusterau crefyddol Iddewig.”

Rwy am ei gwneud yn gwbl glir na fydd gwrthsemitiaeth o unrhyw fath yn cael ei goddef.

Bydd diffiniad IHRA yn helpu pob sefydliad a chorff yng Nghymru i ddeall ac adnabod gwrthsemitiaeth gyfoes. Bydd hynny'n helpu i sicrhau bod llai o dramgwyddwyr yn osgoi cael cosb am fod yn wrthsemitaidd. Mae'r pedwar heddlu yng Nghymru eisoes yn defnyddio'r diffiniad.

Er mwyn sicrhau bod neges y diffiniad yn mynd yn rhan annatod o feddylfryd Llywodraeth Cymru, rwy wedi gofyn i'm swyddogion:

  • drefnu hyfforddiant am wrthsemitiaeth – i swyddogion Llywodraeth Cymru yn y lle cyntaf, ac wedyn efallai ar gyfer rhanddeiliaid allanol
  • edrych ar ddefnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb a'r negeseuon sy'n cael eu cyfleu drwy gydol y flwyddyn, er mwyn sicrhau bod negeseuon allweddol am wrthsemitiaeth yn cyrraedd ein cymunedau ledled Cymru
  • cydweithio â Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i sicrhau bod eu system cofnodi yn amlygu troseddau a digwyddiadau casineb.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i annog y rhai hynny sy'n dioddef gwrthsemitiaeth i ddweud wrth rywun. Byddwn yn gweithio efo partneriaid i ddiogelu ac yn cefnogi'r rhai hynny sy'n dioddef trais a cham-drin gwrthsemitaidd, ac yn dwyn y rhai hynny'n sy'n troseddu i gyfrif am yr hyn a wnânt.

Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn wlad gyfeillgar a goddefgar i fyw, astudio a gweithio ynddi; ac yn un nad yw'n caniatáu gwrthsemitiaeth o unrhyw fath.