Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chefnogaeth i ailgyflwyno afancod Ewropeaidd (ffibr castor) yng Nghymru. Ers hynny, rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a rhanddeiliaid i fwrw ymlaen â'r fenter bwysig hon.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y byddwn yn ymestyn mesurau cyfreithiol i warchod afancod Ewropeaidd yng Nghymru. Bydd y diwygiadau hyn yn sicrhau bod afancod yn cael eu cydnabod fel Rhywogaeth Frodorol ac yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol fel Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop gan ei gwneud yn drosedd i'w niweidio yn fwriadol neu niweidio eu cynefinoedd. Mae hyn yn dilyn ymarfer ymgysylltu wedi'i dargedu i gasglu barn ar ddiwygiadau arfaethedig i'r fframwaith deddfwriaethol. Hoffwn ddiolch i bawb a ymgysylltodd â'r gwaith am ddarparu golwg gytbwys o'r manteision a'r pryderon. Rwy'n falch o gadarnhau, ar ôl ystyried yr ymatebion, fy mod wedi cytuno i symud ymlaen â'r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig a fydd yn dod â Chymru yn gydnaws â'r drefn yn Lloegr a'r Alban. 

Mae tystiolaeth gadarn yn nodi manteision ecolegol ailgyflwyno afancod, a thystiolaeth ddiweddar yn dangos bod argaeau afancod yn helpu i ddal gwaddodion a hidlo llygryddion, gan leihau llwythi maethynnau fel nitrogen a ffosfforws o ddŵr ffo amaethyddol yn sylweddol. Mae'r dull naturiol hwn o liniaru maethynnau yn cefnogi afonydd glanach ac yn cyfrannu at ein nodau ehangach ar gyfer gwella ansawdd dŵr a gwydnwch ecosystemau yng Nghymru. 

Rwy'n cydnabod y pryderon cyfreithlon ymhlith tirfeddianwyr, ffermwyr a'r gymuned bysgota a bydd angen ystyried a rheoli'r broses o ailgyflwyno afancod i'r gwyllt yn ofalus. Bydd CNC yn cadw'r gofyniad am drwydded ar gyfer unrhyw anifeiliaid sy'n cael eu rhyddhau i'r gwyllt, a bydd yr awdurdod ganddynt i gyhoeddi trwyddedau rheoli, lle bo angen, i liniaru effeithiau andwyol.

Er bod y manteision ecolegol yn glir, mae'n bwysig ein bod yn cydbwyso'r rhain â'r pryderon ynghylch effeithiau posibl ar rywogaethau, defnydd tir a systemau dŵr. Rwy'n ymrwymedig i ddull gweithredu cydweithredol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy'n falch o gadarnhau ein bod wedi sefydlu Fforwm Afancod Cymru i helpu i reoli'r materion hyn, a fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Tachwedd. 

Mae'r gwaith hwn yn rhan o'n hymateb ehangach i'r argyfwng natur a'r angen brys i atal colli bioamrywiaeth yng Nghymru. Mae ailgyflwyno afancod yn enghraifft ddiriaethol o sut y gallwn adfer swyddogaeth ecolegol a gwydnwch yn ein tirweddau. Mae'n cyd-fynd â'n rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a'n hymrwymiadau rhyngwladol i wrthdroi dirywiad rhywogaethau a gwella iechyd ecosystemau. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn greu dyfodol lle mae natur yn ffynnu, a chymunedau'n elwa o'r gwasanaethau y mae ecosystemau iach yn eu darparu.