Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Y llynedd oedd y flwyddyn orau erioed i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru gyda nifer y teithiau a wnaed gan ymwelwyr domestig a arhosodd yng Nghymru dros nos yn cyrraedd dros 10 miliwn yn 2014. Mae lefel y gwariant wedi cynyddu 9% dros y ddwy flynedd ddiwethaf; ac mae teithiau a wneir gan ymwelwyr rhyngwladol wedi cynyddu 9% ers 2012  ̶ a'r gwariant wedi cynyddu 6%.  

Mae'r rhagolygon ar gyfer twf yn gryf o safbwynt twristiaeth yng Nghymru. Rydym wedi dod trwy'r dirwasgiad ac wedi rhagori ar ein targed ar gyfer twf strategol. Nod y targed hwnnw yw sicrhau bod twf o 10% neu fwy mewn termau real yn yr enillion a ddaw o'r diwydiant twristiaeth erbyn 2020. Mae twristiaeth hefyd yn ffynhonnell allweddol o safbwynt enillion a ddaw yn sgil allforio ac yn 2014 cynhyrchwyd dros £2.1 biliwn yn sgil ymwelwyr yn aros yng Nghymru.

Mae'r ffigurau ar gyfer Cymru yn parhau i ddangos twf o ran nifer y teithiau i Gymru, nifer y nosweithiau a dreulir yma a'r gwariant yn ystod 6 mis cyntaf eleni o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.  

Mae hyn oll yn newyddion calonogol ar gyfer economi Cymru gyfan. Yn ôl astudiaeth a wnaed gan Deloitte/Oxford Economics yn 2013  ̶ Tourism and growth – The economic contribution of the tourism economy in the UK  ̶  roedd cyfraniad y diwydiant Twristiaeth i economi Cymru yn gyffredinol yn £8.7 biliwn. Mae'r cyfraniad hwn yn cefnogi oddeutu 242,000 o swyddi, yn uniongyrchol ac yn ehangach, a hynny drwy greu mwy o alw yn y cadwyn cyflenwi cysylltiedig, ac o ran gwasanaethau a busnesau lleol.

Ers 2005, gwelwyd twf mawr yn nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru gan berfformio'n well na'r holl sectorau eraill â blaenoriaeth yng Nghymru. Bellach, mae dros hanner y bobl 16  ̶  24 oed sy'n cael eu cyflogi yn y sectorau â blaenoriaeth yng Nghymru, yn cael eu cyflogi gan y diwydiant twristiaeth. Mae'r diwydiant twristiaeth hefyd yn cyflogi'r gyfran uchaf o fenywod yn y sectorau â blaenoriaeth.

Mae pob ardal yng Nghymru yn elwa ar y diwydiant twristiaeth ac mewn nifer o ardaloedd, twristiaeth yw'r prif gyflogwr. Ymhlith sectorau â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, y sector twristiaeth yw'r cyflogwr mwyaf ond un. Y sector Ynni a'r Amgylchedd sy'n cyflogi'r nifer mwyaf o bobl.

Dangosodd y canlyniadau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ar gyfer mis Ionawr i fis Mehefin eleni fod gwariant yn ystod ymweliadau wedi cynyddu 25%, o'i gymharu â 15% ar gyfer Prydain Fawr i gyd.

Gwnaeth nifer y nosweithiau a dreuliwyd yng Nghymru gynyddu 17% wrth i bobl benderfynu aros yn hirach. Ar gyfartaledd, roedd pobl yn aros am 3.38 noswaith o'i chymharu â 3.06 yn ystod yr un cyfnod yn 2014. Yn y cysylltiad hwnnw, gwnaeth y swm y mae pobl yn ei wario ar gyfartaledd mewn noson godi i £56 o'i gymharu â £53 yn hanner cyntaf 2014.

Mae'r ffigurau ar gyfer ymwelwyr o dramor ar gyfer chwarter cyntaf 2015 yn dangos bod Cymru wedi croesawu 137,000 o ymwelwyr o dramor. Mae hynny 5.4% yn fwy na chwarter cyntaf 2014.

Cyhoeddwyd y ffigurau positif hyn wedi penwythnos llawn bwrlwm dros Ŵyl y Banc diwedd Awst. Heidiodd y torfeydd i wylio cystadleuaeth Grand Prix y Môr ym Mae Caerdydd ac roedd llu o ddigwyddiadau eraill ym mhob rhan o Gymru hefyd gan gynnwys Sioe Awyr y Rhyl a Phencampwriaeth Cors-snorclo y Byd yn Llanwrtyd.

Ni allwn laesu dwylo. Mae'n fyd cystadleuol a bydd cryfder y bunt yn ei gwneud yn fwyfwy pwysig i Gymru arloesi wrth gyflwyno cynhyrchion twristiaeth o ansawdd. Bydd yn bwysig hefyd inni gadw ein neges yn ffres a chynnig rhesymau cadarn i bobl ymweld â Chymru drwy ein buddsoddiad cyfalaf a'n hymgyrchoedd marchnata a'n calendr o ddigwyddiadau o safon fyd-eang.

Yn hynny o beth, rydym yn dal ati i gydweithio'n agos â'r diwydiant i gynnal y ffigurau hyn gan fuddsoddi mewn atyniadau o safon fyd-eang megis Zip World, trampolinau tanddaearol anferth a llwybrau beicio mynydd o safon fyd-eang. Mae'r atyniadau hyn yn dod â milyniau o bunnoedd o refeniw i economi Cymru bob blwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi i ddatblygu cynnyrch ym maes twristiaeth ac mae hynny wedi bod o fudd i greu swyddi. Drwy'r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (TISS) crëwyd/diogelwyd 311 o swyddi yn 2014/2015. Gwnaeth hynny ddenu buddsoddiad gwerth £13.9 miliwn. Ar gyfer y flwyddyn 2015/2016, hyd yma, mae TISS wedi cefnogi 216 o swyddi gan ddenu buddsoddiad gwerth £7.6 miliwn yn barod.  

In 2014-15, roedd cyfanswm y gwariant ychwanegol a grëwyd yn sgil ein gweithgareddau i farchnata twristiaeth yn £238 miliwn, a hynny’n cefnogi 5,400 o swyddi. Cafodd 1,400 o swyddi eraill gefnogaeth wrth inni fuddsoddi yn y Digwyddiadau Mawr, y Diwydiant Teithio a'r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â mordeithiau.

Mae'r rhaglen Amgylchedd ar gyfer Twf bellach wedi dod i ben. Yn sgil y rhaglen chwe blynedd, sydd wedi cael cyllid gwerth £37 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd, mae wyth canolfan ragoriaeth eiconig ar gyfer twristiaeth wedi'u sefydlu. Maent yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch a chyfleoedd newydd i ymwelwyr a phobl leol i fwynhau ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o fewn amgylchedd naturiol Cymru ac ar ei harfordir. Mae'r wyth canolfan ragoriaeth hefyd wedi creu 130 o swyddi ac mae dros 2 filiwn o bobl wedi ymweld â nhw.

Mae hyn wedi sicrhau bod y diwydiant twristiaeth yn cyfrannu mwy at  economi ehangach Cymru. Mae hefyd yn  brawf bod Cymru yn cynnig cynnyrch gwahanol o safon fyd eang a bod twf yn y cynhyrchion hynny. Mae hynny’n adlewyrchu’r holl fuddsoddiad, y gwaith caled ac ymrwymiad y bobl sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth.

Yn ychwanegol i'r buddsoddiad a wnaed gennym i ddatblygu cynnyrch yn y maes hwn, rydym wedi cyflwyno dull marchnata newydd sy'n dilyn thema am y flwyddyn. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn dechrau ar y gwaith hwnnw wrth gyflwyno 'Blwyddyn Antur’ yng Nghymru ̶ am y tro cyntaf byddwn yn defnyddio dull thematig i hyrwyddo holl atyniadau Cymru a rhoi rhesymau cryf i bobl ddod yma ar wyliau. Yn dilyn Blwyddyn Antur 2016, bydd Blwyddyn Chwedloniaeth yn 2017 a Blwyddyn y Môr yn 2018.

Mae'r 'Flwyddyn Antur' wedi cael cefnogaeth dau anturiaethwr enwog, sef Bear Grylls a Richard Parks, y ddau ohonynt wedi cytuno i fod yn Llysgenhadon Antur dros Gymru yn 2016.

Gydol yr hydref hwn, byddwn yn gweithio'n uniongyrchol gyda busnesau twristiaeth er mwyn arddangos mewn sioeau masnach y diwydiant teithio. Rydym eisiau annog mwy o weithredwyr teithiau naill ai i drefnu teithiau i Gymru neu i ehangu eu teithiau fel eu bod yn dod i Gymru. Rydym hefyd yn edrych ar fusnesau sy'n cynnig cynnyrch newydd, cyffrous. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r diwydiant i sicrhau bod ein Blwyddyn Antur yn un lwyddiannus.

Yn ogystal, byddwn yn dathlu can mlynedd ers i Roald Dahl gael ei eni yng Nghymru. Byddwn yn hyrwyddo'r digwyddiad hwn mewn modd tebyg i ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014. Bydd RD100 yn rhan allweddol o'r Flwyddyn Antur a bydd digwyddiadau a gweithgareddau mawr yn cael eu cynnal ledled Cymru.

Y flwyddyn nesaf bydd Cymru yn cael antur fawr yn Ffrainc. Bydd Pencampwriaethau Ewrop UEFA 2016 yn cynnig cyfle heb ei ail i godi ymwybyddiaeth am Gymru fel prif gyrchfan twristiaeth antur Ewrop. Bydd hynny'n arwain y ffordd ar gyfer  Blwyddyn Chwedloniaeth 2017. Bryd hynny cawn sylw’r gynulleidfa deledu fwyaf erioed pan fyddwn yn cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA.