Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r datganiad ddoe gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Hunt AS ynghylch y materion sgrinio'r fron yn Lloegr yn destun pryder.
 
Hoffwn roi sicrwydd i fenywod yng Nghymru mai mater sy'n effeithio ar Loegr yn bennaf yw'r mater hwn. Mae menywod 50 i 70 oed sy'n byw yng Nghymru ac sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferydd Cyffredinol yn cael eu gwahodd am famogram bob tair blynedd. Pan fydd menywod yn cyrraedd 70 gallant hunanatgyfeirio i gael eu sgrinio trwy cysylltu a’r rhaglen sgrinio.

Yng ngoleuni'r materion sy'n effeithio ar y rhaglen yn Lloegr, ac o gofio bod y rhaglen sgrinio'r fron yng Nghymru ar yr un platfform TG â Lloegr, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n adolygu rhaglen sgrinio'r fron yng Nghymru er mwyn sicrhau bod yr holl fenywod cymwys yn cael eu gwahodd am sgrinio. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach pan fydd y gwaith pellach hwn wedi'i gwblhau.

Hefyd mae yna dri grŵp posibl o fenywod y mae system Lloegr yn effeithio arnynt a allai fod yn byw yng Nghymru erbyn hyn:

  • Gallai menywod sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferwyr Cyffredinol yn Lloegr yn ardal y Gororau ac sy'n mynychu gwasanaethau sgrinio yn Lloegr ddioddef yr un effaith â menywod yn Lloegr.
  • Gallai rhai menywod a ddylai fod wedi cael eu gwahodd yn y flwyddyn y maent yn codi'n 70 oed fod yn byw yng Nghymru erbyn hyn a bod wedi'u cofrestru'n lleol. 
  • Menywod a allai fod wedi'u cofrestru ar y system ond lle collwyd y cyfle i'w dilyn i fyny.

Nid oes modd gwybod yn union y nifer sydd yn  y grwpiau hyn ar hyn o bryd ond credir mai cyfran fach iawn yn  unig o boblogaeth Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill sydd wedi dioddef oherwydd hyn.

Mae Public Health England wedi sefydlu llinell gymorth am ddim i fenywod y gallai’r mater fod wedi effeithio arnynt ar: 0800 169 2692

Rwyf yn disgwyl y newyddion diweddaraf oddi wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn bo hir a byddaf yn darparu datganiad arall ar gyfer yr Aelodau pan ddaw hwnnw i law.