Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Ar 1 Rhagfyr 2022, lansiais ymgynghoriad ar y fersiwn ddiwygiedig o’r ‘Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru’. Roedd y meini prawf yn nodi’r gofynion ar gyfer pob rhaglen addysg gychwynnol athrawon (AGA) sy’n dyfarnu statws athro cymwysedig yng Nghymru. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig dogfen ddrafft a oedd wedi’i diweddaru ers ei chyhoeddi gyntaf yn 2017.
Aeth ein haddysgwyr athrawon a’n partneriaid haen ganol ati i weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr rhyngwladol, ynghyd â phensaer y diwygiadau i AGA yng Nghymru, yr Athro Furlong OBE, i sicrhau bod ein AGA yn parhau i gyfrannu at y system addysg drwy ddarpariaeth o ansawdd i athrawon dan hyfforddiant. Roedd yr ymgynghoriad yn nodi’r diwygiadau arfaethedig a fyddai’n gwarantu bod rhaglenni AGA a gaiff eu hailachredu a’u hachredu o’r newydd yng Nghymru yn adlewyrchu:
- y diwygiadau addysgol sy’n datblygu yng Nghymru
- y gwersi a ddysgwyd yn sgil ein cyfres gyntaf o raglenni a achredwyd, ac
- uchelgeisiau a disgwyliadau uwch ar gyfer rhaglenni AGA a phartneriaethau AGA, i gefnogi ein dyhead ar gyfer AGA o’r radd flaenaf yng Nghymru.
Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth eang i’r meini prawf drafft a gynigiwyd, ac i’n dull o ddatblygu cymwysterau athrawon ysgol. Rydym wedi adeiladu ar yr adborth a gafwyd gan randdeiliaid drwy gydol y broses hon, ac ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad, ac rwy’n falch o gael cyhoeddi’r fersiwn ddiwygiedig o’r ‘Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru’ heddiw.
Y weledigaeth ar gyfer AGA yng Nghymru yw sicrhau rolau cyfartal i ysgolion a sefydliadau addysg uwch o ran darparu mewnbwn damcaniaethol ac ymarferol, i roi profiad dysgu o ansawdd i’n darpar athrawon. Ers dechrau diwygio AGA, mae ein hysgolion a’n sefydliadau addysg uwch wedi gweithio’n galed ac yn greadigol i gynllunio a darparu rhaglenni AGA newydd ar gyfer eu hathrawon dan hyfforddiant, ac rwyf wedi ymrwymo i gefnogi ac adeiladu ar eu llwyddiant. Fel yr amlygwyd yn adolygiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o system AGA Cymru yn 2019, mae ein harfer o gydnabod ysgolion fel partner pwysig yn y gwaith o gynllunio a darparu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon, a chreu a defnyddio gwaith ymchwil yn gryfder clir. Mae’r meini prawf diwygiedig yn datblygu ac yn amlygu ein disgwyliadau uchel ymhellach.
Mae ein gweithlu addysgu yn hanfodol i lwyddiant ein diwygiadau addysgol, ac mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ganolog. Yng Nghymru, credwn fod addysgu yn fenter hynod ymarferol a deallusol. Mae rhaglenni AGA o ansawdd yn hollbwysig er mwyn rhoi’r adnoddau i athrawon ar gyfer eu taith ddysgu gydol oes eu hunain mewn byd sy’n newid yn barhaus. Fel y cam cyntaf hwnnw, mae ein rhaglenni AGA yn sicrhau bod ein hathrawon newydd wedi’u paratoi’n briodol i fynd i mewn i’w dosbarthiadau, ar sail ymchwil a mathau eraill o dystiolaeth, yn alluog, yn awyddus i barhau i ddysgu, ac yn barod i gefnogi pob dysgwr yng nghyd-destunau amrywiol ysgolion ledled Cymru.
Fy nod innau yw gofalu bod Cymru yn parhau i ddatblygu proffesiwn addysg sy’n ystyried ei arferion, yn holi cwestiynau ac yn cydweithio, mewn diwylliant o gyd-gyfrifoldeb o ran dysgu proffesiynol. Mae’r meini prawf yn adnewyddu ac yn cryfhau cyfrifoldebau ysgolion a sefydliadau addysg uwch i sicrhau ansawdd ein darpariaeth AGA ar gyfer athrawon dan hyfforddiant, gan ei gwneud yn glir bod gan addysgwyr athrawon rôl allweddol wrth baratoi athrawon yfory. Mae’r gofynion yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng AGA a’n pecyn sefydlu sydd wedi’i fireinio, ac mewn ffordd sy’n gydnaws â’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol a’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol. Maent yn cefnogi ac yn pwysleisio rôl AGA, nid dim ond fel y dechrau gorau posibl i yrfa athro dan hyfforddiant, ond i gefnogi proffesiwn sy’n cyflawni gwaith ymchwil ledled Cymru, lle mae sefydliadau addysg uwch ac ysgolion, fel ei gilydd, yn gwneud eu rhan.
Caiff nodau ‘Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg’ hefyd eu cryfhau o fewn y meini prawf, sydd bellach yn codeiddio gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’n partneriaethau AGA i gefnogi dwyieithrwydd a datblygu sgiliau Cymraeg pob athro dan hyfforddiant drwy’r ‘Fframwaith cymwyseddau iaith ar gyfer ymarferwyr addysg’. Mae’r gofynion hefyd yn adlewyrchu ymrwymiadau ‘Cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg’.
Ein nod fel cenedl yw sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb drwy fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a chefnogi pob dysgwr i lwyddo, beth bynnag ei nodweddion neu ei amgylchiadau personol. Mae pwysigrwydd tegwch, lles a hawliau plant yn cael lle mwy amlwg erbyn hyn, felly, ac mae’n ofynnol i sefydliadau addysg uwch gefnogi dull gweithredu eu hysgolion partner o ran lles emosiynol a meddyliol. Ochr yn ochr â hyn mae’r disgwyliadau diweddaraf o ran cefnogi dysgwyr ag ADY, a’r angen i wneud yn siŵr bod pob arfer addysgu yn wrth-hiliol ac yn sicrhau tegwch o fewn amgylcheddau dysgu amrywiol Cymru.
Mae’r ‘Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru’ yn elfen hollbwysig o’m hymrwymiad innau i’n nod cenedlaethol ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn darparu’r fframwaith deallusol sy’n galw am ddulliau arloesol ar sail tystiolaeth o gynnig darpariaeth gyson o ansawdd i athrawon dan hyfforddiant, ac sy’n cydbwyso’r dulliau gweithredu hynny. Mae hyn yn galluogi ein hathrawon newydd i fod yn barod i ymuno â’r proffesiwn addysgu a chynnig cymorth uniongyrchol i blant a phobl ifanc o ran eu cyrhaeddiad addysgol a’u lles.
Y camau nesaf
O’r hydref hwn ymlaen, bydd partneriaethau AGA sydd angen eu hailachredu i fod yn barod ar gyfer Medi 2024 yn defnyddio’r meini prawf newydd ar gyfer cyflwyno rhaglenni i Fwrdd Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg. Mae croeso i bartneriaethau AGA hefyd ddatblygu rhaglenni AGA newydd ac arloesol o dan y meini prawf.
Gan adeiladu ar ganfyddiadau rhanddeiliaid a’r ymgynghoriad, awn ati nawr i ymchwilio ymhlith ysgolion arbennig, partneriaethau AGA, a’n partneriaid haen ganol, p’un a yw’r fframwaith deddfwriaethol a pholisi presennol ar gyfer cymwysterau athrawon ysgol cystal ag y gall fod. Byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar gefnogi dysgwyr sydd â’r anghenion dysgu ychwanegol mwyaf dwys a chymhleth. Byddaf yn rhannu gwybodaeth yn gyson wrth i’r gwaith hwn fynd yn ei flaen.