Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae sicrhau bod y sector tai cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i fod yn gryf, yn dryloyw ac yn atebol yn hanfodol er mwyn darparu cartrefi diogel i'r bobl sy'n dibynnu arnynt. Mae rheoleiddio cadarn yn ganolog i hyn, ac mae'n hanfodol bod sefydliadau sy'n ceisio dod yn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs) yn bodloni safonau clir, cyson o'r cychwyn cyntaf.

Yn dilyn ymgynghoriad diweddar, rwy'n cyhoeddi'r Meini Prawf newydd ar gyfer Cofrestru Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, ynghyd â'r gofynion o ran dogfennau ategol. Mae'r meini prawf hyn yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i ymgeiswyr ei ddangos er mwyn iddynt gael eu hystyried ar gyfer eu cofrestru. Maent wedi'u cynllunio nid fel rhwystr, ond fel mesur diogelu, gan sicrhau bod gan newydd-ddyfodiaid i'r sector y sgiliau, y capasiti a'r cryfder ariannol sydd eu hangen arnynt i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a diogelu buddsoddiad cyhoeddus.

Mae proses ymgeisio dryloyw, deg a chyson yn hanfodol. Mae'r Meini Prawf Cofrestru newydd yn darparu'r eglurder hwn. Maent yn sicrhau chwarae teg i bob ymgeisydd ac yn sicrhau bod penderfyniadau ar gofrestru wedi'u seilio ar dystiolaeth, nid rhagdybiaethau. Mae rheoleiddio cryf yn ymwneud â mwy na chydymffurfiaeth, mae'n ymwneud â magu hyder, cefnogi arferion gorau, a sicrhau gwydnwch hirdymor ar draws y sector.

Mae dau gam allweddol i'r broses gofrestru Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru. Yn gyntaf, rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni gofynion cymhwysedd statudol. Yna maent yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf ehangach, gan gynnwys trefniadau llywodraethu, rheoli, a hyfywedd ariannol. Gall ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth ychwanegol pan fo angen, a gwneir argymhelliad terfynol yn seiliedig ar yr holl dystiolaeth hon.

Nid yw'r mesurau hyn yn rhai gweithdrefnol yn unig; maent yn gam pwysig i sicrhau bod pob sefydliad yr ymddiriedir ynddynt i ddarparu tai cymdeithasol yng Nghymru yn alluog, yn cael ei lywodraethu'n dda, ac yn gallu rheoli risgiau'n effeithiol. Mae ein ffocws ar atal methiannau cyn iddynt ddigwydd a sicrhau bod gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig newydd yr adnoddau i wasanaethu cymunedau gyda phroffesiynoldeb, sefydlogrwydd a gofal.

Ar ôl iddynt gael eu cofrestru, mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn destun goruchwyliaeth barhaus yn unol â'r Fframwaith Rheoleiddio. Mae'r gwaith craffu parhaus hwn yn hanfodol i ddiogelu tenantiaid a chynnal ymddiriedaeth. Ein cyfrifoldeb yw sicrhau bod yr holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig presennol a'r holl ddarpar Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn gweithredu yn ôl safonau uchel o ran llywodraethu a rheolaeth ariannol, ac mae'r meini prawf newydd hyn yn atgyfnerthu'r ymrwymiad hwnnw.