Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Gweinidog Addysg a Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gynharach yr wythnos hon, wrth ymateb i ymlediad cynyddol COVID-19, rhoddom gyngor y dylai ysgolion yng Nghymru gau ar gyfer plant a phobl ifanc, ac eithrio plant sy’n agored i niwed neu y mae eu rhieni’n hanfodol ar gyfer yr ymateb i COVID-19, er mwyn iddynt allu parhau i weithio, lle nad oes modd gwneud trefniadau gofal plant amgen.   

Mae’r cyngor gwyddonol diweddaraf ar sut i gyfyngu lledaeniad COVID-19 ymhellach yn glir. Mae’n hollbwysig bod pobl, i’r graddau y mae’n bosib, yn cael cyn lleied o gysylltiad a phosibl â’i gilydd. Mae hynny’n golygu os gall plant aros yn saff yn eu cartref, dylent wneud hynny, er mwyn cyfyngu ar y tebygrwydd y bydd y feirws ledaenu. 

Mae lleoliadau gofal plant a chwarae, ysgolion, colegau a sefydliadau addysgol eraill yn llefydd diogel i blant. Fodd bynnag, er mwyn lleihau cymysgu rhwng gwahanol grwpiau neu leoliadau, mae angen i ni gadw’r nifer o blant sy’n teithio i’r ysgol neu i leoliad gofal plant mor isel ag sy’n bosibl, a chadw’r nifer o blant mewn lleoliadau addysgol neu ofal plant a chwarae mor isel ag sy’n bosibl hefyd. Po leiaf yw’r niferoedd, y lleiaf yw’r risg y gall y feirws ledaenu a heintio pobl fregus ar draws ein cymunedau. 

Yn syml iawn, po leiaf o bobl sy'n cael cyswllt cymdeithasol, mwyaf effeithiol fydd effaith gyffredinol y mesurau cyfredol. 

Mae hyn yn golygu bod angen i rieni gadw eu plant gartref, lle bynnag y bo modd, a dylai ysgolion a lleoliadau gofal plant a chwarae fod ar agor dim ond i'r plant hynny y mae angen gwirioneddol iddynt fynychu. Dylai ysgolion arbennig preswyl, ysgolion preswyl a lleoliadau arbennig barhau i ofalu am blant lle bynnag y bo modd. 

I ysgolion, mae hyn yn golygu y dylent barhau i ddarparu gofal i nifer mor fach o blant ag sy’n bosibl – plant sy'n agored i niwed a phlant y mae eu rhieni yn hanfodol i’r ymateb i COVID-19 ac na ellir gofalu amdanynt yn ddiogel gartref. 

Byddwn yn parhau i ddarparu ar gyfer pob disgybl sydd â’r hawl i brydau ysgol am ddim. Bydd rhagor o fanylion yn hyn o beth ar gael yn fuan.

Mae plant agored i niwed yn cynnwys y rhai sydd ag anghenion diogelu ac sy'n cael eu cefnogi gan wasanaethau gofal cymdeithasol; mae hyn yn cynnwys plant sydd â chynlluniau gofal a chymorth neu gynlluniau cymorth, plant ar y gofrestr diogelu plant a phlant sy'n derbyn gofal, gofalwyr ifanc, plant anabl a'r rhai â datganiadau o anghenion addysgol arbennig. Dylid rhoi blaenoriaeth i'r rhai ohonynt sydd fwyaf agored i niwed. 

Mae manylion pellach ynghylch rhieni y mae eu gwaith yn hanfodol ar gyfer ymateb i COVID-19 wedi eu hamlinellu isod. Os oes modd gofalu am blentyn yn ddiogel gartref, dylid gwneud hynny a dim ond lle nad oes dewis diogel arall y dylid gwneud darpariaeth mewn ysgolion neu leoliadau eraill. 

Ar gyfer lleoliadau gofal plant a chwarae, gan gynnwys lleoliadau Dechrau'n Deg, mae hyn yn golygu, lle na ellir cadw plentyn gartref yn unol â'r canllawiau a nodir yn y datganiad a bod angen iddo fod mewn rhyw fath o ddarpariaeth gofal plant, y dylid gwneud hyn mewn lleoliadau lle y cedwir niferoedd yn isel. 

  • Ar gyfer yr holl wasanaethau gofal plant a gwasanaethau gwarchod plant (meithrinfeydd, crèches ac ati), mae hyn yn golygu cyfyngu mynediad i blant gweithwyr critigol neu blant sy'n agored i niwed yn unig;  
  • Gofynnwn iddynt weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol yn eu hardaloedd, i sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf posibl.  

Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio darparwyr gofal plant yn y sector preifat a'r trydydd sector i'r eithaf ar gyfer darpariaeth gritigol barhaus, gan sicrhau cymorth ariannol ar gyfer y sector hwnnw ac er mwyn gwneud defnydd o arbenigedd ac adnoddau presennol. 

Mae athrawon ac ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant a chwarae yn chwarae rhan hollbwysig wrth ymateb i'r feirws, ac rydym am ddiolch iddynt am eu gwaith parhaus a'r cyfraniad i'r ymdrech genedlaethol. Mae arnynt angen cefnogaeth rhieni a gofalwyr a dealltwriaeth y gymuned ehangach er mwyn cyflawni'r rôl hon.   

I grynhoi, o ddydd Llun 23 Mawrth: 

  • Os yw’n bosibl i blant fod gartref, yno y dylent fod 
  • Os bydd angen cefnogaeth arbenigol ar blentyn, os yw’n agored i niwed, neu os yw â rhiant sy’n hanfodol i’r ymateb i COVID-19, dylai darpariaeth fod ar gael iddynt mewn lleoliad addysgol neu ofal plant 
  • Ni ddylai rhieni ddibynnu ar unrhyw un sydd wedi’i gynghori i ddilyn y canllaw cadw pellter cymdeithasol, megis neiniau a theidiau, ffrindiau neu aelodau’r teulu a chanddynt gyflyrau iechyd hirdymor i gynnig gofal plant 
  • Dylai rhieni wneud bob dim posibl i wneud yn siŵr nad yw eu plant yn cymysgu yn gymdeithasol mewn ffyrdd a allai gyfrannu at ledaeniad coronafeirws. Dylai plant ddilyn yr un canllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol ag oedolion 
  • Dylai ysgolion arbennig preswyl a lleoliadau arbennig barhau i ofalu am blant lle bo hynny’n bosibl 

Os yw’ch gwaith yn hanfodol i’r ymateb i COVID-19, neu’ch bod yn gweithio yn un o’r sectorau critigol a restrir isod, dylech wneud trefniadau i’ch plentyn gael gofal yn ddiogel adref. Os nad oes dewis amgen diogel, bydd darpariaeth yn cael ei threfnu mewn ysgolion neu leoliadau eraill.  

Iechyd a gofal cymdeithasol – mae hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, feddygon, nyrsys, bydwragedd, parafeddygon, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal, a staff rheng flaen arall ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwirfoddolwyr; y staff cymorth ac arbenigol sydd eu hangen i gynnal sector iechyd a gofal cymdeithasol y DU; y rheini sy’n gweithio fel rhan o’r gadwyn gyflenwi iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cynhyrchwyr a dosbarthwyr meddyginiaeth ac offer diogelwch meddygol a phersonol. 

Iechyd a gofal plant – mae hyn yn cynnwys staff meithrinfeydd a staff addysgu, gweithwyr cymdeithasol a’r gweithwyr proffesiynol addysg arbenigol hynny y mae’n rhaid iddynt barhau’n weithgar wrth ymateb i COVID-19 er mwyn i’r dull hwn fod yn effeithiol. 

Gwasanaethau cyhoeddus allweddol – mae hyn yn cynnwys y rheini sy’n hanfodol i gynnal y system gyfiawnder, staff crefyddol, elusennau a gweithwyr sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen allweddol, y rheini sy’n gyfrifol am reoli’r ymadawedig, a newyddiadurwyr a darlledwyr sy’n darparu gwasanaeth darlledu cyhoeddus. 

Llywodraeth leol a chenedlaethol – mae hyn ond yn cynnwys y swyddi gweinyddol hynny sy’n hanfodol i’r ymateb i COVID-19 neu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel talu budd-daliadau, gan gynnwys asiantaethau llywodraethol a chyrff hyd-braich. 

Bwyd a nwyddau angenrheidiol eraill – mae hyn yn cynnwys y rheini sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd, prosesu, dosbarthu, gwerthu a chludo, yn ogystal â’r rheini sy’n hanfodol i ddarparu nwyddau allweddol eraill (er enghraifft meddyginiaeth hylendid a milfeddygol). 

Diogelwch cyhoeddus a diogelwch gwladol – mae hyn yn cynnwys yr heddlu a staff cymorth, dinasyddion y Weinyddiaeth Amddiffyn, personél contractwyr a’r lluoedd arfog (y rheini sy’n hanfodol i gyflawni tasgau amddiffyn a diogelwch gwladol allweddol ac i’r ymateb i’r pandemig COVID-19), cyflogeion y gwasanaeth tân ac achub (gan gynnwys staff cymorth), staff yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, y rheini sy’n cynnal diogelwch ar y ffin, staff carchardai a’r gwasanaeth prawf, a rolau eraill sy’n berthnasol i ddiogelwch gwladol, gan gynnwys y rheini sydd dramor. 

Trafnidiaeth – mae hyn yn cynnwys y rheini a fydd yn cadw dulliau trafnidiaeth i fynd drwy’r awyr, ar ddŵr, ar yr heolydd a rheilffyrdd, a hynny i deithwyr a nwyddau, yn ystod yr ymateb i COVID-19, gan gynnwys y rheini sy’n gweithio ar systemau trafnidiaeth y mae cadwyni cyflenwi’n eu defnyddio. 

Gwasanaethau ariannol, cyfleustodau, a chyfathrebu – mae hyn yn cynnwys staff sydd eu hangen i barhau i ddarparu gwasanaethau ariannol hanfodol (gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i, weithwyr mewn banciau, cymdeithasau adeiladu a’r marchnadoedd ariannol), y sectorau olew, nwy, trydan a dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth), y sector technoleg gwybodaeth a seilwaith data, a chyflenwadau diwydiant cynradd yn ystod yr ymateb i COVID-19, yn ogystal â staff allweddol sy’n gweithio yn y sectorau niwclear sifil, cemegau, telathrebu (gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i weithrediadau’r rhwydwaith, peirianneg maes, staff canolfannau galwadau, seilwaith TG a data, a gwasanaethau critigol 999 a 111), gwasanaethau post a dosbarthu, darparwyr taliadau a sectorau gwaredu gwastraff. 

Os bydd gweithwyr yn meddwl eu bod yn perthyn i’r categorïau hanfodol uchod, dylent gadarnhau bod eu rôl benodol yn angenrheidiol er mwyn parhau â’r gwasanaeth cyhoeddus hanfodol hwn. 

Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn her i deuluoedd ledled Cymru, ac ar gyfer lleoliadau addysg a gofal plant. Fel cymaint o bobl mewn llawer o sectorau, mae gan athrawon ac ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant ran allweddol i’w chwarae i alluogi Cymru i ymateb i’r feirws.   

Rydym yn cydnabod hefyd bod heriau penodol yn achos lleoliadau gofal plant yn y sector preifat a’r trydydd sector.    

Bydd cyllid o dan y Cynnig Gofal Plant yn parhau i gael ei dalu i leoliadau gofal plant perthnasol sy’n cau neu’n lleihau eu gwasanaethau o ganlyniad i’r coronaferiws. Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol o ran taliadau ar gyfer gofal plant o dan Dechrau’n Deg ac addysg gynnar o dan Darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen. 

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y gall cyflogwyr adennill Taliadau Salwch Statudol ar gyfer gweithwyr sydd angen hunanynysu am 14 diwrnod. Gall busnesau ohirio taliadau i Gyllid a Thollau EM, a chaiff llinell gymorth newydd ei sefydlu. Mae nifer o newidiadau dros dro hefyd wedi eu cyflwyno i gefnogi pobl o dan y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.   

Ers mis Ebrill 2019, rydym wedi ymrwymo i ddarparu rhyddhad ardrethi busnes o 100% i gefnogi cynaliadwyedd lleoliadau gofal plant yma yng Nghymru. Cafodd manylion ein cymorth ehangach i fusnesau yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan y coronafeirws eu cyhoeddi gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 19 Mawrth: Datganiad Ysgrifenedig: Cefnogaeth ychwanegol i fusnesau sy’n delio â COVID-19

Rydym yn cyhoeddi atebion i gwestiynau cyffredin. Byddwn yn diweddaru’r rhain yn rheolaidd, a dylech gyfeirio atynt i gael y canllawiau diweddaraf