Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rydyn ni’n cyhoeddi y byddwn yn cyfeirio hyd at £30 miliwn o adnoddau ychwanegol i helpu i wella gofal yn ein cymunedau.  Mae hyn yng nghyd-destun yr heriau anodd o gefnogi poblogaeth sy'n gynyddol hŷn ac eiddil, a'r pwysau parhaus yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae'r weledigaeth sydd y tu ôl i hyn wedi'i nodi yn nogfen Datganiad o Fwriad Llywodraeth Cymru – ‘Meithrin Gallu drwy Ofal Cymunedol – Ymhellach, Yn Gyflymach' sydd hefyd yn cael ei chyhoeddi gennym heddiw.  Mae’n nodi ein cenhadaeth, yn unol â 'Cymru Iachach' i ddatblygu system gofal cymunedol integredig i Gymru. 

Rydym yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol a'r GIG, a gyda phartneriaid allweddol eraill, i wneud cynnydd cyflym yn y meysydd a amlinellir yn y ddogfen honno dros y misoedd nesaf.  Mae'r dull hwn yn adeiladu ar y cydweithio cadarnhaol a gyflwynodd 670 o welyau cymunedol ychwanegol y gaeaf diwethaf

Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud Datganiad Llafar i'r Senedd yn ddiweddarach heddiw i roi rhagor o fanylion am ein dull gweithredu a sut bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio