Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ein gallu i feithrin a chefnogi’r Economi Sylfaenol (FE) yn rhan o’n cenhadaeth i gefnogi economi gryfach, lle mae pobl, busnesau a chymunedau yn gallu manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd economaidd o’u cwmpas. Mae gwella mynediad at y nwyddau a'r gwasanaethau bob dydd allweddol hynny yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt, a’u hansawdd, yn ffactor hanfodol o ran gwella llesiant o fewn economi fwy cynaliadwy yng Nghymru. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod yr Economi Sylfaenol yn cyfrif am bedair o bob deg swydd a £1 ym mhob tair punt yr ydym i gyd yn gwario. Mae’r Economi Sylfaenol yn llinyn annatod drwy ein Rhaglen Lywodraethu a’r Genhadaeth i Gryfhau ac Ail-adeiladu’r Economi.

Mae bwyd yn sector hanfodol o’r Economi Sylfaenol sy'n wynebu nifer o heriau yn dilyn y pandemig, gan gynnwys biliau ynni a thanwydd cynyddol, y dirwasgiad a gwendidau o fewn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu gyda’r UE. Ochr yn ochr â’r ffactorau economaidd ehangach, mae’r heriau hyn hefyd wedi golygu heriau o ran y gweithlu, problemau o ran cyflenwi a dosbarthu, y risg o brinder bwyd a system fwyd sy’n wynebu anwadalrwydd enfawr. Mae rôl bwysig gan waith caffael yn y sector cyhoeddus wrth helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn, ac ail-leoleiddio cadwyni bwyd i gryfhau gwydnwch. Mae caffael bwyd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru werth tua £84.7m y flwyddyn, gyda Llywodraeth Leol a GIG Cymru gyda'i gilydd yn gyfrifol am fwy nag 80% o hynny. Mae prynu gan y sector cyhoeddus oddi wrth gwmnïau Cymru yn cyfrif am dros hanner y gwariant cyffredinol hwn, tra bod bwyd sy’n tarddu o Gymru yn cyfrif am tua chwarter o’r gyfran gyffredinol. Mae cyfle enfawr i wella’r darlun hwn, a dyna pam ein bod wedi canolbwyntio ar fwyd wrth inni barhau i ddatblygu ac ymgorffori dull yr economi sylfaen ledled Cymru.

Mae bwyd yn gategori trawsbynciol ac unigryw o wariant sy'n ymwneud â phob un o'r saith nod llesiant. Felly, mae gennym ysgogiad pwerus i sbarduno dull mwy cyfannol o gaffael bwyd, gan adlewyrchu ei natur amlweddog a sicrhau ein bod yn rhoi mwy o bwyslais ar ystyriaethau ansawdd, maeth, economaidd-gymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, yn hytrach na chost tymor byr ar ei ben ei hun. Mae sicrhau y bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024, yn cyflwyno cyfle go iawn am newid sylweddol mewn polisi ac ymarfer i drawsnewid y system fwyd, a mynd i'r afael â'r datgysylltiadau sydd ynddi.  Bydd gweithio ar y cyd, rhannu data ac adeiladu perthynas gref, foesegol rhwng yr holl gyfranogwyr ar draws y system fwyd yn allweddol.

Er mwyn cefnogi hyn, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw lansiad adnodd caffael bwyd ar-lein newydd, ‘Prynu Bwyd Addas i’r Dyfodol’ sy'n tynnu ynghyd nifer o ddarnau o waith a gwblhawyd eleni:-

  1. Mae ‘Gwerthoedd am Arian: caffael bwyd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru’
    a luniwyd gan yr Athro Kevin Morgan o Brifysgol Caerdydd, yn cynnig persbectif arbenigol ar gyflenwi bwyd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a threfniadau caffael ar draws y sectorau. Yn dilyn cyfweliadau helaeth gyda phrynwyr bwyd, arlwywyr, cyfanwerthwyr a chynhyrchwyr bwyd, mae'r adroddiad yn nodi'r cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig â phrynu bwyd lleol a chanfyddiadau rhanddeiliaid. Mae'r argymhellion sydd yn yr adroddiad yn ymdrin â rhai materion allweddol sy'n wynebu’r system fwyd ar hyn o bryd, a fydd, os eir i’r afael â hwy ar y cyd, yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol.
  1. Mae ‘Pŵer Prynu'r Plât Cyhoeddus: Canllaw Cyfreithiol i fewnosod cynaliadwyedd wrth Gaffael Bwyd i greu Cymru Iachach, Fwy Cyfoethog’ a gynhyrchwyd gan gwmni cyfreithwyr Blake Morgan, yn cynnig eglurder ac yn ddefnyddiol o ran chwalu rhai mythau i annog dulliau mwy arloesol a chreadigol ym maes caffael bwyd. Gall hyn helpu i gynyddu'r cyflenwad o fwyd lleol, cynaliadwy o fewn cyfyngiadau Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a helpu i gyflawni nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
  1. Mae ‘Caffael Bwyd Sector Cyhoeddus Cymru – Diweddariad ar Wariant a phrynu o Gymru’ a wnaed gan gwmni ymgynghori Brookdale, wedi ein galluogi i greu darlun o wariant caffael bwyd ledled Cymru, faint o fwyd sy'n cael ei gyflenwi, ac agweddau/rhwystrau o ran prynu cynnyrch Cymru. Mae hyn yn darparu llinell sylfaen gyfoethog o ddata a fydd yn cryfhau ein gwaith bwyd yr Economi Sylfaenol ac y gallwn fesur gwelliant yn ei erbyn.

Fel y ddau wariwr mwyaf ar fwyd yn y sector cyhoeddus, byddwn yn blaenoriaethu gwaith gyda’n partneriaid yn yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru, a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) (gan gynnwys Byrddau Iechyd Cymru) i ddefnyddio'r adnodd ar-lein hwn, a dilyn y canllaw cyfreithiol newydd ar gaffael bwyd fel y gallwn gymryd camau ar y cyd i roi mwy o fwyd o Gymru ar blatiau ysgolion ac ysbytai.

Drwy fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd o fewn yr economi bob dydd o'n cwmpas, mae potensial i roi hwb i swyddi a llesiant mewn economïau lleol cryfach mewn Cymru decach.