Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 5 Mawrth 2026, yn ystod fy nghyfarfod olaf ar Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, llofnododd yr Ysgrifennydd Parhaol a minnau Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar ran Llywodraeth Cymru â Plismona yng Nghymru.

Mae diogelu cymunedau, atal a chanfod achosion o droseddu a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru, yn gofyn am ymddiriedaeth a chydweithrediad rhwng partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector. Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a chyrff plismona yng Nghymru yn arbennig o bwysig er mwyn meithrin ymdeimlad o undod yn ein hymdrechion a gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau ar y cyd, fel bod cymunedau yng Nghymru yn teimlo’n ddiogel ac yn parhau i gael eu diogelu.

Mae'r Memorandwm hwn wedi'i greu mewn partneriaeth â Plismona yng Nghymru yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Mae'n cynrychioli'r ymrwymiad cadarn gan y ddwy ochr i barhau i weithio mewn partneriaeth i ateb anghenion dioddefwyr a goroeswyr troseddau, gan fabwysiadu dull sy'n ystyriol o drawma, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n wrth-hiliol, er mwyn llywio penderfyniadau strategol a diogelu cymunedau yng Nghymru.