Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (“y memorandwm”) mewn perthynas â Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Datgelu Data Gofal Cymdeithasol Oedolion) 2025 (“y Gorchymyn”), a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 21 Mai 2025. 

Mae'r Gorchymyn yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“PAWA 2004”) a deddfwriaeth gyfatebol gan Lywodraeth y DU. Diben y Gorchymyn yw galluogi ailgychwyn rhannu data gofal cymdeithasol oedolion wedi'u paru rhwng y Fenter Twyll Genedlaethol (y Fenter) ac awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr at ddibenion nodi ac atal twyll a gwallau. Cafodd diwygiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ar wahân gan Lywodraeth y DU i adran 251(12A) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 yn 2016 yr effaith anfwriadol o atal awdurdodau lleol yng Nghymru rhag gallu cael mynediad at ganlyniadau paru data o dan PAWA 2004. Caiff data eu paru at ddibenion atal a chanfod twyll a bydd y diwygiadau a wneir yn y Gorchymyn hwn yn caniatáu i'r Fenter rannu data gofal cymdeithasol oedolion wedi'u paru ag awdurdodau lleol unwaith eto.

Rwyf wedi gosod y memorandwm yn unol â'r gofyniad o dan Reol Sefydlog 30A. Rwyf o'r farn bod y Gorchymyn yn offeryn statudol perthnasol gan ei fod yn gwneud darpariaeth o ran Cymru sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac nad yw'n ddarpariaeth ddeilliadol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol, atodol nac arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.