Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf wedi gosod memorandwm cydsyniad offeryn statudol ("y memorandwm") mewn perthynas â Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2023 ("y Rheoliadau"), a osodwyd gerbron y Senedd ar 16 Hydref 2023. Mae'r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau technegol i wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol, y mae rhai ohonynt ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â Chymru ac sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Diben y Rheoliadau yw diweddaru cyfeiriadau, mewn deddfwriaeth sylfaenol bresennol a wnaed yn San Steffan, o "cyfraith yr UE a ddargedwir" i "cyfraith a gymathwyd" (a thermau cysylltiedig). Mae hyn yn adlewyrchu adran 5 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.

Rwyf wedi gosod y memorandwm yn unol â'r gofyniad o dan Reol Sefydlog 30A. Rwy'n ystyried bod y Rheoliadau yn offeryn statudol perthnasol gan eu bod yn gwneud darpariaethau o ran Cymru sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd - darpariaethau nad ydynt yn rhai deilliadol, canlyniadol, trosiannol, darfodol, atodol nac arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.