Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth wedi bod ar waith fel cynllun peilot ers chwe blynedd, a’r bwriad oedd y byddai’r cynllun yn dod i ben ar 31 Mawrth 2012.

Mae’r gwerthusiad ohono wedi dangos problemau sylweddol o ran parhau i ariannu’r cynllun yn ei gyfanrwydd fel yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.  

Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol bod pob un o’r cynlluniau hyn yn brosiect unigol ac unigryw, ac rwy’n credu y dylem fynd ati nawr i asesu’r prosiectau er mwyn edrych ar y manteision sy’n deillio o bob cynllun unigol, ac ystyried unrhyw ffynonellau ariannol eraill a allai fod ar gael i’w hariannu.  

Gellid defnyddio ffyrdd eraill o ariannu rhai o’r cynlluniau, yn enwedig y rheini sy’n addas i’w cofrestru fel gwasanaethau sy’n ymateb i’r galw, fel y caniateir o dan Adran 22. O wneud hynny, byddent yn gymwys i gael arian o dan Gynllun Teithio Rhatach Cymru Gyfan.

Felly, rwyf wedi penderfynu na fydd yr arian ar gyfer y prosiectau hyn yn dod i ben ym mis Mawrth, ond y bydd yn parhau trwy’r cyfnod gwerthuso pellach hwn. Rwyf wedi ysgrifennu at bob un o’r 15 cynllun i ddweud wrthynt am fy mhenderfyniad.

Mae fy swyddogion wedi cysylltu â nhw er mwyn inni allu gwneud y gwaith hwn dros y misoedd nesaf.

Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar ôl ystyried casgliadau’r gwerthusiad hwn.