Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (“y Mesur”) ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y cyfarfod llawn ar 8 Gorffennaf 2009 a chafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Hydref 2009.  Mae’r Mesur yn rhoi sylfaen ddeddfwriaethol i ddull Llywodraeth Cymru o ddatblygu agenda Blas am Oes, ein hagenda ar gyfer gwella’r bwyd a’r diod sy’n cael ei ddarparu mewn ysgolion.  

Yn 2011, cytunais ar amserlen i ddechrau ar ddarpariaethau’r Mesur ac ar gyfer pennu’r gofynion a’r safonau ar gyfer bwyd a diod sy’n cael ei ddarparu ar safle ysgolion sy’n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol.  Fodd bynnag, roedd yn rhaid diwygio’r amserlen ar gyfer llunio’r rheoliadau i ysgolion cynradd i gydymffurfio â Chyfarwyddeb Safonau a Rheoliadau Technegol 98/23/EC (“y Gyfarwyddeb”).   Bwriad y Gyfarwyddeb yw helpu i osgoi creu rhwystrau technegol newydd i fasnachu o fewn yr Undeb Ewropeaidd.  I gydymffurfio â’r Gyfarwyddeb mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno’r rheoliadau ar ffurf drafft i Gomisiwn yr UE ac yna gadw at gyfnod segur o isafswm o 3 mis. Nid yw felly’n bosib cyflwyno’r rheoliadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod y cyfnod hwn.  Mae’r rheoliadau yn rhan o gwmpas gwaith y Gyfarwyddeb gan eu bod yn gwneud darpariaeth i bennu’r gofynion gorfodol a safonau yn seiliedig ar faethynnau ar gyfer bwyd a diod sy’n cael ei ddarparu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru.  

Ein bwriad yw anfon y rheoliadau drafft ymlaen at Gomisiwn yr UE yn nhymor yr hydref gyda’r bwriad o osod y rheoliadau drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddechrau 2013.  Fodd bynnag, mae’r amserlen hon yn dibynnu ar nifer o elfennau gan gynnwys sicrhau bod Comisiwn yr UE ac unrhyw Aelod Wladwriaeth yn fodlon nad oes angen newid y rheoliadau i ddileu neu leihau unrhyw rwystrau i fasnach ac nad oes angen newid y rheoliadau drafft yn sylweddol o ganlyniad i’r ymgynghoriad arfaethedig mewn perthynas â Chymru.  

Rwyf wedi cytuno i ymgynghori ar y rheoliadau drafft yn ystod y cyfnod o 3 mis y maent yng ngofal Comisiwn yr UE.  Bydd yr ymgynghoriad nid yn unig yn galluogi disgyblion a phobl eraill i gynnig sylwadau ar gynnwys y rheoliadau ond byddant hefyd yn cadarnhau pwysigrwydd bwyta’n iach, yn enwedig i ddisgyblion sydd o bosib heb fod yn rhan o ymgynghoriadau blaenorol a chodi proffil ein hagenda Blas am Oes. 

Rwyf hefyd wedi cytuno y dylai’r dyletswyddau canlynol a osodwyd gan y Mesur ar awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethol ddod i rym mewn ysgolion cynradd ar yr un pryd ag y daw’r rheoliadau bwyd a diod sy’n gysylltiedig ag ysgolion cynradd i rym.  Bydd hyn yn osgoi unrhyw amwysedd ynghylch pryd y bydd eu cyfrifoldebau newydd yn dechrau:   

  • Adran 1. Dyletswydd ar awdurdod lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i gymryd camau i gael disgyblion cofrestredig ysgolion a gynhelir yn eu hardal i fwyta ac yfed yn iach.   
  • Adran 2. Dyletswydd ar gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru i gynnwys yr wybodaeth ar y camau sydd wedi’u cymryd i hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach gan ddisgyblion yr ysgol yn adroddiadau’r llywodraethwyr.  
  • Adran 5. Dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau bod dŵr yfed ar gael, am ddim, ar safle bob ysgol a gynhelir ac i ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.  
  • Adran 6. Dyletswydd ar awdurdod lleol, neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir sy’n darparu prydau ysgol neu laeth, i annog disgyblion i gymeryd prydau ysgol neu laeth, a hefyd i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod pob disgybl sydd â hawl i dderbyn cinio ysgol am ddim a llaeth ysgol am ddim yn eu derbyn.  
  • Adran 7. Dyletswydd ar awdurdod lleol neu gorff llywodraethu i gymryd camau rhesymol i sicrhau na chaiff disgybl ei adnabod gan unrhyw berson fel person sy’n derbyn cinio ysgol am ddim neu laeth ysgol am ddim, ar wahân i berson awdurdodedig.  Mae’r Adran hon yn gosod dyletswydd hefyd ar awdurdod lleol neu gorff llywodraethu i gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw athrawon, unrhyw berson sydd wedi’i gyflogi yn yr ysgol, unrhyw berson sy’n gweithio yn yr ysgol yn ddi-dâl, neu unrhyw berson arall sydd wedi’u cyflogi gan yr ysgol neu’r cyrff llywodraethu, yn datgelu bod disgybl yn derbyn cinio neu laeth am ddim.  

Bydd Adran 3 y Mesur, sy’n gosod dyletswydd newydd ar Estyn i hysbysu Gweinidogion Cymru o’r camau sy’n cael eu cymryd ym mhob ysgol a gynhelir i hybu bwyta ac yfed iach, yn dechrau ym mis Medi 2013, fel a gynlluniwyd yn wreiddiol.  

Yn ymarferol, mae’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd a gynhelir eisoes ymhell ar y trywydd iawn o ran bodloni’r gofynion a’r safonau newydd. Ni ddylai’r amserlen ddiwygiedig gael unrhyw effaith negyddol felly ar y cynnydd sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan ysgolion.

Ni fydd yr amserlen ar gyfer dechrau’r darpariaethau yn y Mesur ac ar gyfer cyflwyno rheoliadau ar gyfer bwyd a diod sy’n cael eu darparu mewn ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yn newid.   Mae hyn yn golygu y dylai’r rheoliadau ddod i rym ym mis Medi 2013 ar gyfer yr ysgolion hynny.    

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.