Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 1 Ionawr 2012, bydd Cyfarwyddeb yr UE 1999/74 yn cyflwyno gwaharddiad ar y defnydd o gewyll confensiynol (batri) ar gyfer ieir dodwy ar draws yr UE. Ni fydd hawl mwyach i gadw ieir dodwy mewn cewyll confensiynol. Gweithredwyd y gyfarwyddeb hon er mwyn mynd i’r afael â phryderon ynghylch lles anifeiliaid drwy bennu safonau gofynnol ar gyfer ieir dodwy.

Mae’r diwydiant wedi mynegi pryderon ynghylch cystadleuaeth annheg a allai godi pe bai wyau’n cael eu mewnforio o wledydd eraill yn yr UE nad ydynt yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd. Roeddwn yn awyddus i wneud datganiad i roi’r newyddion diweddaraf am y modd y byddwn yn mynd ati i amddiffyn ein diwydiant yng Nghymru o 2012 ymlaen.

Mae’n debygol y bydd mwyafrif cynhyrchwyr wyau’r DU wedi cydymffurfio â’r gyfarwyddeb erbyn iddi ddod i rym ond rwy’n cydnabod pryderon y diwydiant ynghylch cymhwyso’r ddeddfwriaeth yn yr Aelod-wladwriaethau eraill a’r posibilrwydd y bydd wyau (batri) anghyfreithlon ar y farchnad. Rydym yn gwneud popeth y gallwn i amddiffyn y diwydiant.

Mae diwydiant Wyau Cymru wedi buddsoddi symiau mawr o arian i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gwaharddiad ar gewyll confensiynol; ac mae ffigurau’r diwydiant yn awgrymu bod cynhyrchwyr wyau’r DU wedi buddsoddi cyfanswm o £400 miliwn er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth hon.

Mae ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn ein hatal rhag gosod gwaharddiad ar fewnforio wyau o Aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Mae gan yr UE reolau llym i sicrhau masnach rydd rhwng yr aelod-wladwriaethau a byddai gwahardd mewnforion wyau yn torri’r rheolau hynny.

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a’r Labordai Milfeddygol (AHVLA) yn cadw cofrestr o ganolfannau pacio a chyfanwerthwyr gan gynnwys manylion y safleoedd sy’n ymdrin â wyau sy’n cael eu mewnforio.  Yng Nghymru, mae pum sefydliad sydd wedi’u cofrestru i dderbyn wyau a gaiff eu mewnforio’n uniongyrchol o aelod-wladwriaethau’r UE. O 1 Ionawr 2012, bydd Arolygwyr AHVLA yng Nghymru yn parhau i archwilio’r safleoedd hyn yn ôl eu harfer, ond byddant yn canolbwyntio’n benodol ar yr wyau a gaiff eu mewnforio er mwyn sicrhau nad ydynt wedi’u dodwy gan ieir a gedwir mewn cewyll confensiynol. Os bydd yr arolygwyr yn amau bod unrhyw wyau wedi’u cynhyrchu mewn systemau cewyll confensiynol, yn groes i’r gyfarwyddeb Ewropeaidd, byddant yn cadw’r wyau hynny tra bo ymchwiliad yn cael ei gynnal gyda’r Aelod-wladwriaeth a allforiodd yr wyau i gadarnhau tarddiad ac chyfreithlondeb yr wyau.

O fewn Ewrop, mae Llywodraeth y DU, fel cynrychiolydd yr Aelod-wladwriaeth, yn parhau i lobïo’r UE i sicrhau bod yr holl Aelod-wladwriaethau’n cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb erbyn y dyddiad y daw i rym neu eu bod yn cyflwyno mesurau i amddiffyn y cynhyrchwyr a’r Aelod-wladwriaethau sy’n cydymffurfio rhag cystadleuaeth annheg. Rwyf innau’n cyfrannu at y broses hon, ac roeddwn yn bresennol yng Nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Arbennig ar Amaethyddiaeth ym Mrwsel, lle trafodwyd y mater hwn.