Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn lansio dysgu ar-lein newydd Gwrthgaethwasiaeth Cymru. Nod yr adnoddau hyn yw wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern a ffyrdd effeithiol o fynd i'r afael â'r mater. 

Rydym wedi sicrhau bod yr hyfforddiant ar gael yn rhad ac am ddim, mewn partneriaeth â thîm Dysgu Digidol Cymru, ar blatfform Dysgu@Cymru. Mae'r dysgu yn cynnwys tri modiwl diddorol a hawdd eu defnyddio ar: 

  • gaethwasiaeth fodern yng Nghymru
  • risgiau, arwyddion a dangosyddion, a
  • sut i ddiogelu pobl sydd wedi profi cael eu ecsbloetio yn effeithiol. 

Rwy'n ddiolchgar i Banel Cynghori ar Brofiad Bywyd y Sefydliad Masnachu Pobl ac i Grŵp Hyfforddi ac Ymwybyddiaeth Gwrthgaethwasiaeth Cymru yn Llywodraeth Cymru, a fu'n helpu i greu'r adnoddau. 

A hithau'n Wythnos Gwrthgaethwasiaeth ac ar drothwy cynnal cynhadledd Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru 2025, rwy'n eich annog i gymryd eiliad i edrych ar yr adnoddau dysgu ar-lein hyn.