Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod y pandemig COVID-19, cafodd dŵr gwastraff ei fonitro ar gyfer COVID-19 er mwyn cael gwybodaeth werthfawr a fyddai’n ein galluogi i fesur lefelau SARS-Cov2 yn ein cymunedau. Cafodd y rhaglen ei weithredu drwy bartneriaeth lwyddiannus gyda chonsortiwm a arweiniwyd gan Brifysgol Bangor.

Yn gynharach eleni, fe wneuthum y penderfyniad anodd i ddod â’r rhaglen monitro dŵr gwastraff i ben oherwydd effeithiau’r pwysau ariannol difrifol ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Wrth wneud y penderfyniad hwn, roeddwn yn parhau’n ymrwymedig i barhau â’r gwaith sy’n ystyried manteision defnyddio system monitro dŵr gwastraff yn y dyfodol ar gyfer SARS-CoV2 a pheryglon eraill a allai effeithio ar iechyd a llesiant pobl Cymru.

Mae ein system cadw gwyliadwriaeth integredig yn elfen hanfodol o’n Fframwaith Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Feirysau Anadlol, sy’n cynnwys monitro feirysau anadlol mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill. Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd i ddeall sut y gallai monitro dŵr gwastraff ychwanegu gwerth at ein system cadw gwyliadwriaeth integredig ar raddfa wahanol. Mae’n bosibl i’r data o fonitro dŵr gwastraff ddangos newidiadau cynnar o ran sut mae SARS-CoV2 yn cylchredeg wrth inni baratoi a chynllunio ar gyfer gaeaf ansicr.

Rwyf wedi cytuno ar gynnig a fydd yn ailddechrau’r broses o fonitro dŵr gwastraff yng Nghymru. Bydd yn darparu gwybodaeth a gwyliadwriaeth ychwanegol o ran sut mae COVID-19 yn trosglwyddo yn ein cymunedau, yn ogystal â lefelau feirysau eraill megis y ffliw a’r feirws syncytiol anadlol.

Mae ein dull gweithredu diwygiedig yn parhau i sicrhau arbedion ariannol sylweddol, ac mae’n adlewyrchu sut yr ydym wedi dechrau byw gyda COVID-19 drwy gynnal lefel briodol o wyliadwriaeth i ganfod a monitro’r feirws yn y gymuned, er mwyn ein galluogi i ymyrryd mewn modd amserol yn seiliedig ar dystiolaeth.

Rwy’n ddiolchgar i Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd am weithio’n adeiladol gyda ni i ddatblygu’r dull gweithredu diwygiedig hwn. Rwy’n falch ein bod yn gallu parhau i gefnogi’r fenter hon dros y gaeaf ac i’r flwyddyn nesaf.