Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd yn bleser gen i dderbyn adroddiad gan Tidal Lagoon Power Ltd yr wythnos yma’n edrych ar y cyfleoedd diwydiannol sy'n deillio o raglen o weithfeydd morlyn llanw.

www.tidallagoonpower.com/Ours-to-Own_Tidal-Lagoon-Power_Oct-2016.pdf (Saesneg yn unig) (dolen allanol).

Mae'r adroddiad yn amlinellu’r cyfle cyffrous sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg morlyn llanw yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig gan gynnig cyfle unigryw ar gyfer y sectorau gweithgynhyrchu ac ynni yng Nghymru. Cyfle nid yn unig i dyfu diwydiant o’r fath yng nghyd-destun Cymru ond hefyd i fanteisio ar y sector ar raddfa ehangach yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.

Mae ein hymrwymiad i brosiectau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys morlynnoedd llanw, wedi'i nodi yn ein Rhaglen Lywodraethu newydd, "Symud Cymru Ymlaen". Rydym yn cefnogi morlynnoedd llanw gan eu bod yn rhoi cyfle i feithrin diwydiant llewyrchus yng Nghymru, sy'n cyflawni nodau ffyniant ochr yn ochr â chyflawni'n uniongyrchol yn erbyn ein hymrwymiadau datgarboneiddio.

Mae'r sector ynni yn sector allweddol ar gyfer economi Cymru sy'n seiliedig ar ein hadnoddau naturiol, y traddodiad hir o gynhyrchu a chyfleoedd ar gyfer buddsoddiadau mawr yn y dyfodol.  Mae hyn yn cynnwys y cyntaf o brosiectau Tidal Lagoon Power, Morlyn Llanw Bae Abertawe, ac amcangyfrifir y bydd yn creu 1,900 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu gyda chyfleoedd sylweddol i ddatblygu cadwyni cyflenwi ar gyfer y gymuned ehangach.

Rydym wedi bod yn trafod â Morlyn Llanw Bae Abertawe am nifer o flynyddoedd ar draws amrywiaeth o feysydd ac rydym yn parhau i wneud hynny yn ystod yr Adolygiad Hendry presennol, sef Adolygiad Annibynnol Llywodraeth y DU o forlynnoedd llanw, i sicrhau bod busnesau Cymru a'r economi leol yn cael y budd mwyaf o’r prosiect arfaethedig. Rydym yn ymdrin â’r prosiect pwysig hwn ar lefel drawslywodraethol ac rydyn ni eisoes wedi darparu cymorth ar amryw o feysydd gan gynnwys sgiliau a’r gadwyn gyflenwi.

Mae'r Morlyn Llanw yn cael ei gefnogi gan Fwrdd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a phartneriaid eraill yn y rhanbarth sy'n cydnabod gwerth posibl y prosiect i Abertawe, Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a Chymru gyfan.

Er fy mod yn cydnabod bod angen gwneud nifer o gytundebau eto mewn perthynas â’r prosiect, rwy'n gyffrous am y syniad o roi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu'r sector amrediad llanw ar draws y DU.

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau wrth i faterion ddatblygu.