Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mwy na geiriau yw fframwaith strategol Llywodraeth Cymru i gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol a’i nod yw cefnogi siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf.

Yn Hydref 2021 fe gyhoeddais y buaswn yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen bychan i ddatblygu cynllun pum mlynedd ar gyfer Mwy na geiriau, yn dilyn gwerthusiad annibynnol o’r fframwaith. Gallaf ddiweddaru aelodau ar ganlyniadau’r gwaith hwnnw.

Dangosodd y gwerthusiad fod gallu derbyn gwasanaethau Cymraeg yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol sylweddol i brofiad siaradwyr Cymraeg, ac mewn sawl achos, yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles. Fodd bynnag, dangoswyd hefyd fod pobl yn aml wedi’i chael hi’n anodd i gael mynediad i’r gwasanaethau y maent eu hangen a’u bod yn anfoddog i ofyn pan nad oedd gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.

Mae’r grŵp gorchwyl a gorffen, oedd yn cael ei gadeirio gan Marian Wyn Jones wedi ystyried profiad defnyddwyr, tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, rheoleiddwyr, cyrff proffesiynol, a’r sectorau addysg a hyfforddiant. Cynhaliwyd gweithdy rhithwir i randdeiliaid ym mis Mawrth er mwyn rhannu syniadau ar y themâu a’r camau gweithredu.

Rwy’n ddiolchgar i’r aelodau am eu hymrwymiad, profiad ac arbenigedd.

Bydd y cynllun pum-mlynedd yn seiliedig ar y themâu canlynol a ddeilliodd o waith y grŵp gorchwyl a gorffen:

  • Diwylliant ac arweinyddiaeth
  • Cynllunio a pholisïau o ran y Gymraeg
  • Cefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu
  • Rhannu arfer da a datblygu dull galluogi

Bydd fframwaith rheoli perfformiad yn mesur cynnydd yn erbyn camau gweithredu’r cynllun a bydd bwrdd cynghori newydd yn cael ei sefydlu - byddaf yn cyfarfod y bwrdd unwaith y flwyddyn er mwyn trafod cynnydd gyda’r cynllun.

Yng Nghymru mae bron i 200,000 o staff yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal, sef y cyflogwr mwyaf yng Nghymru o bell ffordd. Mae yna gyfle enfawr felly i’r maes iechyd a gofal ddod yn batrwm o ran darparu gwasanaethau Cymraeg ac i gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae ein staff iechyd a gofal cymdeithasol wedi gwneud gwaith arbennig yn ystod y pandemig a maent yn parhau i weithio o dan bwysau sylweddol. Mae darparu’r gofal gorau posibl i bobl Cymru yn bwysig iawn iddynt – i siaradwyr Cymraeg mae hyn yn golygu darparu gwasanaeth yn Gymraeg.

Gwn y bydd ein proffesiynolion iechyd a gofal cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru yn derbyn yr her i weithredu’r camau gweithredu yn y cynllun Mwy na geiriau newydd yr wyf yn edrych ymlaen at ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis nesaf.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.