Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi diweddariad ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion a nodir yn Mwy na geiriau, sef ein cynllun i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae iaith yn sylfaenol i ddarparu gofal diogel a theg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Fel un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, mae cyfle enfawr i'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol arwain y ffordd ar ddarparu gwasanaethau Cymraeg, a chyfrannu’n uniongyrchol at ein huchelgais i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a’r nifer sy’n ei siarad erbyn 2050.
Er bod llawer wedi'i gyflawni ers i gynllun cyntaf Mwy na geiriau gael ei gyhoeddi dros ddegawd yn ôl, mae'r camau gweithredu a nodwyd gennym yng nghynllun 2022-27 – ac adroddiadau cynnydd 2023-24 a 2024-25 – yn tynnu sylw at yr heriau sy'n parhau.
Mae rôl arweinyddiaeth ar bob lefel yn hollbwysig os ydym am wneud y Gymraeg yn rhan arferol o ofal iechyd a gofal cymdeithasol. Mae mwy a mwy o wasanaethau'n darparu'r ‘Cynnig Rhagweithiol’ ac yn cefnogi sgiliau Cymraeg heb fod angen i rywun ofyn am gymorth. Rhaid inni barhau i adeiladu ar hyn drwy sicrhau bod pobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn deall effaith darparu gwasanaethau yn y Gymraeg a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i’r bobl sy'n defnyddio’r gwasanaethau hynny.
Mae'r adroddiadau blynyddol ar gyfer 2023-24 a 2024-25 yn tynnu sylw at ddatblygiadau sylweddol o ran cynyddu sgiliau Cymraeg y gweithlu. Mae’r nifer sy’n cwblhau’r cwrs mandadol ‘Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg’ ar gyfer holl staff GIG Cymru yn cynyddu ac ar ei lefel uchaf. Ac mae'r nifer sy’n cyflawni’r Cwrs Croeso a ddatblygwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel rhan o'r Cynllun Dysgu Cymraeg ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, hefyd yn cynyddu.
Yn ogystal â hyn rydym wedi cynyddu'r cyfleoedd i fyfyrwyr yng Nghymru ymgymryd â rhan o'u hastudiaethau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, neu eu hastudiaethau cyfan, drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau yn Ysgol Feddygol newydd Gogledd Cymru ac ym Mhrifysgol Wrecsam – lle gall myfyrwyr therapi iaith a lleferydd gwblhau eu hyfforddiant a chael profiad gwaith clinigol mewn lleoliad drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae data gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dangos bod 63 o gyrsiau israddedig yn 2024-25 yn cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio o leiaf draean o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau bod gan bob cwrs gofal cymdeithasol gynlluniau gweithredu ar yr iaith Gymraeg ar waith, ac rydym wedi ehangu cynllun Doctoriaid Yfory er mwyn iddo gynnwys mwy o yrfaoedd, fel deintyddiaeth.
Mae camau cynllunio'r gweithlu yn rhan hanfodol o'n cynllun – ac mae partneriaid yn tynnu sylw at gyfleoedd i wella sgiliau pobl sydd â’r gallu i siarad Cymraeg ond sydd angen mwy o hyder i ddefnyddio'r iaith.
Mae Safonau'r Gymraeg ar gyfer maes iechyd a gofal cymdeithasol a chynllun Mwy na geiriau yn mynd law yn llaw; bydd y cydweithrediad newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i gyflawni Safon 110 a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar draws lleoliadau clinigol yn bwysig wrth inni symud i ddwy flynedd olaf y cynllun. Er mwyn cyflawni Safon 110, dros y chwe mis nesaf rwyf am weld ffocws ar gofnodi sgiliau Cymraeg staff y GIG a gofal cymdeithasol fel y gall sefydliadau wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch y sgiliau Cymraeg sydd gan eu gweithlu ac yna cymryd y camau perthnasol i wella neu gynyddu’r sgiliau Cymraeg hynny.
Hoffwn ddiolch i bawb sy'n helpu i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dwyieithog. Gyda'n gilydd, rydym yn adeiladu system iechyd a gofal sydd nid yn unig yn ddwyieithog, ond sydd hefyd yn un sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
