Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf heddiw gyhoeddi Mwy nag Ailgylchu – strategaeth i wneud economi gylchol Cymru yn realiti. Mae cyhoeddi strategaeth economi gylchol gyntaf Cymru yn digwydd ar adeg bwysig. 

Mae Cymru eisoes wedi datblygu enw da yn rhyngwladol am ein hailgylchu o'r radd flaenaf, gyda'n cyfradd ailgylchu genedlaethol bellach wedi cyrraedd dros 65%. Ond er bod ailgylchu'n parhau i fod yn elfen allweddol, mae'r Strategaeth hon yn ymwneud â llawer mwy.  Mae'n nodi sut rydym yn bwriadu mynd y tu hwnt i ailgylchu, drwy symud i economi gylchol lle rydym yn cadw adnoddau i'w defnyddio ac yn osgoi unrhyw wastraff – er budd ein heconomi a'n cymunedau, yn ogystal ag mewn ymateb i ofynion yr amgylchedd.

Mae'r pandemig wedi cael effaith fawr ar sut rydym yn byw, mae Brexit wedi newid sut rydym yn masnachu gyda'n cymdogion agosaf ac mae newid hinsawdd yn dod â digwyddiadau tywydd mwy eithafol i Gymru. O ganlyniad, nid yw'r ffordd rydym yn rheoli adnoddau erioed wedi bod yn bwysicach, ac mae hefyd wedi dangos inni na ellir cymryd y pethau rydym yn eu defnyddio ac sydd eu hangen arnom yn ganiataol. Mae cadwyni cyflenwi byrrach, a chael y gwerth llawn o’r adnoddau rydym yn eu defnyddio, a thrwy hynny wella ein cadernid economaidd, yr un mor allweddol wrth inni adfer o’r pandemig. Mae hyn hefyd yn bwysig o ran lliniaru effeithiau Brexit a gweithredu ar newid yn yr hinsawdd a lleihau gwastraff.

Ymhlith yr heriau digynsail rydym yn eu hwynebu, mae arwyddion pwysig o newid cadarnhaol ac, yn hollbwysig, felly, cyfleoedd. Dros y flwyddyn diwethaf, rydym wedi gweld unigolion, mentrau cymdeithasol a busnesau ledled Cymru yn dod at ei gilydd i gymryd camau i ofalu am eu cymunedau a'i gilydd. Wrth symud ymlaen, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wneud hynny mewn ffordd sy'n gosod y sylfaen ar gyfer adferiad gwyrdd, gydag economi gylchol yn un o'r elfennau canolog.

Mae'r newid i economi gylchol yng Nghymru eisoes wedi dechrau, ac mae'r strategaeth hon yn canolbwyntio ar gyflymu ein cynnydd i sicrhau Cymru ddiwastraff, carbon sero-net. Y llynedd, gwnaethom ymgysylltu â thros 2,000 o bobl ledled Cymru fel rhan o'r ymgynghoriad, gan ofyn am eu syniadau ar sut y gall Cymru symud tuag at economi gylchol a defnyddio ein cyfran deg o adnoddau'r byd yn unig. Roedd cyfraniadau pwysig yn cynnwys cyfraniadau gan y Pwyllgor Newid HinsawddAmgylchedd a Materion Gwledig, a Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae’r Strategaeth yn canolbwyntio ar chwe thema graidd ar gyfer gweithredu.

  • Ysgogi defnyddio deunyddiau mewn modd arloesol
  • Cynyddu atal gwastraff ac ailddefnyddio
  • Adeiladu ar ein hanes da o ailgylchu
  • Buddsoddi mewn seilwaith
  • Galluogi cymunedau a busnesau i weithredu
  • Alinio ysgogiadau'r Llywodraeth

Rydym hefyd wedi gosod wyth pennawd gweithredu uchelgeisiol.

  • Byddwn yn cefnogi busnesau yng Nghymru i leihau eu hôl troed carbon drwy fod yn fwy effeithlon o ran adnoddau.
  • Byddwn yn darparu'r arfau i alluogi gweithredu cymunedol.
  • Byddwn yn diddymu eitemau untro diangen, yn enwedig plastig.
  • Byddwn yn dileu gwastraff bwyd y gellir ei osgoi.
  • Byddwn yn caffael mewn ffordd sy’n blaenoriaethu nwyddau a chynhyrchion sy'n cael eu gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailweithgynhyrchu, eu hailwampio a'u hailgylchu neu sy'n dod o ddeunyddiau carbon isel a chynaliadwy fel pren. 
  • Byddwn yn ceisio cyflawni'r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd.
  • Byddwn yn lleihau effaith amgylcheddol y gwastraff sy’n cael ei gasglu o'n cartrefi a'n busnesau.
  • Byddwn yn derbyn cyfrifoldeb llawn am ein gwastraff.

Maent yn amlinellu nid yn unig ein hymrwymiad i ddefnyddio pwerau ac ysgogiadau'r Llywodraeth i gyflymu'r broses o symud i economi gylchol, carbon isel, ond hefyd ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â phob sector i gyflawni'r camau hynny. 

Pan wnaethom lansio’r ymgynghoriad, gan gydnabod yr angen i gyflymu camau gweithredu yn wyneb yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth byd-eang, gwnaethom ymrwymo i wneud hynny o'r dechrau un. Dyna pam, dros y flwyddyn diwethaf, rydym wedi estyn ein Cronfa’r Economi Gylchol yn gyflym o £6.5 miliwn cychwynnol i £43 miliwn, sydd bellach ar gael i gefnogi 180 o brosiectau ym mhob rhan o Gymru. O ganolfan Remakerspace blaengar ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n gweithio gyda busnesau i wella dyluniad cynhyrchion, i sied atgyweirio sy'n cefnogi'r gymuned leol yn Llangollen, a Capital Valley Plastics yn Nhorfaen sydd wedi cael cymorth i gynhyrchu croenyn atal lleithder o ffilm wedi'i hailgylchu a fyddai fel arall yn mynd i wastraff.

Wrth symud i economi gylchol bydd heriau a rhwystrau i'w goresgyn, ond mae ein hanes fel gwlad ailgylchu yn dangos drwy gydweithio ein bod yn gallu cyflawni'r newid trawsnewidiol sydd ei angen. Bydd pob plentyn sy'n gadael yr ysgol nawr yn gyfarwydd â dim ond y Gymru sy'n ailgylchu  – mae bellach yn rhan o'n diwylliant ac mae hynny'n rhoi sylfaen gadarn inni ar gyfer gweithredu yn gyflym. 

Ochr yn ochr â'r strategaeth, rydym yn cyhoeddi cyfres o ddogfennau cysylltiedig, gan gynnwys asesiadau o effaith a fersiwn hawdd ei darllen. Wrth lansio'r dogfennau hyn, rydym hefyd wedi ymrwymo i barhau â'r sgwrs â dinasyddion a rhanddeiliaid i wneud y gorau o'n hymdrechion a byddwn yn cynnal cyfres o weminarau fel rhan o'r broses hon.

Mae cyhoeddi'r strategaeth hon yn barhad o'n taith sydd eisoes wedi gweld Cymru'n dod yn wlad ailgylchu. Wrth gymryd y camau nesaf ar ein taith tuag at ddyfodol diwastraff, ni fu Cymru carbon isel erioed yn bwysicach; ond rydym eisoes wedi dangos y gallwn ni lwyddo.