Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'n glir bod camfanteisio'n rhywiol yn drosedd sy'n ofynnol i'r holl bartneriaid diogelu gymryd camau cydlynol i fynd i'r afael â hi. Mae mynd i'r afael â'r math hwn o gam-drin plant yn flaenoriaeth i'r lywodraeth hon.

Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol yn seiliedig ar brotocol pwrpasol ar gyfer mynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant yng Ngweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. Mae'r dull hwn yn sicrhau ymateb safonol ac aml-asiantaeth pan fo achosion o gamfanteisio'n rhywiol ar blant yn dod i'r amlwg. Mae'n seiliedig ar gymhwyso offeryn Fframwaith Asesu’r Risg o Gamfanteisio Rhywiol (SERAF) a ddatblygwyd gan Barnardo's Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod ymarferwyr mewn sefyllfa i gymhwyso'r fframwaith cydlynol trwy hyfforddiant pwrpasol i helpu i ddod o hyd i blant sydd mewn perygl, cymryd camau i'w amddiffyn a chaniatáu i gamau gael eu cymryd yn erbyn pobl sy'n camfanteisio'n rhywiol ar blant.

Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn adnoddau addysg i helpu i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag dioddef camfanteisio rhywiol. Mae'n cynnwys offer i helpu ymarferwyr addysg i siarad yn agored â phlant a phobl ifanc am beryglon camfanteisio'n rhywiol ac ymddygiadau peryglus a allai roi pobl ifanc mewn perygl.

Mae rhaglen hyfforddi genedlaethol i gefnogi'r gwaith gweithredu yn mynd rhagddi ar hyn o bryd. Mae'r holl gamau hyn yn sicrhau bod gan Gymru ddull cenedlaethol ystyrlon a chyson o ddarparu canlyniadau diogel i blant. Fodd bynnag, wrth i'n profiadau a'n dealltwriaeth o gamfanteisio'n rhywiol ar blant gael eu llywio ymhellach gan dystiolaeth, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein harweinyddiaeth yn datblygu ac yn adlewyrchu'r offer sydd gennym wrth law i atal ac amddiffyn y rheini sydd mewn perygl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y gwaith o lunio Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Cymru Gyfan i Fynd i'r Afael â Chamfanteisio'n Rhywiol ar Blant. Mae wedi'i lunio mewn partneriaeth â chomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru, y Comisiynydd Plant, heddluoedd, y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr – Cymru, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, byrddau iechyd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, y trydydd sector a llywodraeth leol.

Dyma gynllun gweithredu cenedlaethol cyntaf Cymru ac mae'n darparu fframwaith cynhwysfawr sy'n galluogi amrywiaeth eang o bartneriaid diogelu i weithredu'n gydlynol ar draws asiantaethau i atal cam-drin a chamfanteisio'n rhywiol ar blant ac amddiffyn plant.

Rwyf wedi cyhoeddi'r cynllun gweithredu cenedlaethol heddiw, gan gydnabod bod gan fyrddau diogelu plant rôl hanfodol wrth arolygu'r gwaith o fynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Bydd y byrddau'n adrodd yn flynyddol i Lywodraeth Cymru am eu gwaith ar hyd a lled Cymru yn y maes pwysig hwn.

Mae'r gwaith hwn wedi amlygu pwysigrwydd ac argaeledd data cywir y gellir eu cymharu am nifer yr achosion o gamfanteisio'n rhywiol ar blant yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r gwaith a wnaethpwyd gan Fwrdd Diogelu Plant Bae'r Gorllewin i ddatblygu a chyhoeddi set ddata a dull cyffredin o gasglu ac adrodd. Bydd hyn yn ffordd o adrodd yn  gywir a chyson am gamfanteisio'n rhywiol ar blant ar hyd a lled Cymru.

Bydd cryfder y cyfarwyddiadau a’r set ddata yn cael ei brofi eleni wrth inni adolygu a dadansoddi canlyniadau'r gwaith i gyfrannu at ddarparu trefniadau amddiffyn ac atal effeithiol.

Nid yw'r ffaith bod cynllun gweithredu cenedlaethol yn cael ei ddatblygu yn golygu bod y gwaith yn dod i stop yn y maes hwn. Byddwn yn parhau i weithio'n galed i amddiffyn ein plant a'n pobl ifanc. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais benodiadau i'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol – bydd y bwrdd yn chwarae rôl bwysig yn sicrhau bod gennym y polisïau a'r mentrau cywir ar waith i ddiogelu plant ac oedolion trwy Gymru.  

I fynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant, mae'n rhaid i ni gydweithio.

Mae’r cynllun gweithredu cenedlaethol ar gael yn y dolenni perthnasol.