Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mai 2014, lansiwyd‘Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’ yn gosod amlinellwyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i herio gelyniaeth a rhagfarn gyda’r nod o sicrhau gwell arweinyddiaeth a gwaith partneriaeth ledled Cymru i herio a mynd i’r afael â throseddau casineb. Mae’r Fframwaith yn cynnwys tri amcan yn ymwneud ag atal, cefnogi a gwella ymateb amlasiantaethol.

Rwyf yn cadeirio yGrŵp Cynghori Annibynnol ar Drosedd Casineb er mwyn monitro gweithredu a chyflwyno’r  framwaith.Un o dasgau allweddol Aelodau’r Grŵp yw  casglu tystiolaeth gan eu rhanddeiliaid a chymunedau ynghylch â pha mor effeithiol yr ymdriniwyd â throseddau a digwyddiadau casineb yng Nghymru ac a oedd y Fframwaith yn cael effaith bositif. Rydyn ni wedi casglu’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr Aelodau ac mae’n dda gennyf fedru cyhoeddi’r adroddiad heddiw.

Mae’r adroddiad yn dangos yn glir bod y Fframwaith yn cael effaith bositif ledled Cymru a bod ein partneriaid a sefydliadau ledled Cymru yn gweithio’n galed ac yn gwbl ymrwymedig. - Mae’n dda gen i  weld bod dealltwriaeth dda o’r hyn mae trosedd casineb yn ei olygu a bod mwy o wybodaeth ar gael nawr. Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn chwalu’r rhwystrau i reportio troseddau casineb Mae cryn dipyn o waith i’w wneud eto, yn arbennig ymysg ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac o ran gwella’r ymateb amlasiantaethol. Er mwyn ein helpu i wella, byddaf yn defnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd yn yr adroddiad i lywio ein ‘Fframwaith Troseddau a Digwyddiadau Casineb – Cynllun Gweithredu 2016-17’.

Mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad wedi’i hategu gan y cynnydd o 20% yn nifer yr achosion o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2014-15, o’i chymharu â 2013-14. Mae hyn yn arwydd positif ac yn dangos bod dioddefwyr yn dechrau magu mwy o hyder i ddod ymlaen a reportio achosion o’r fath.

Rwyf yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod dioddefwyr trosedd casineb yn derbyn cymorth cynhwysfawr. Mae Cymru yn parhau i arwain y ffordd o ran sicrhau bod dioddefwyr trosedd casineb yn derbyn gwasanaeth o ansawdd ac rwyf am sicrhau bod hyn yn parhau