Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 17 Mawrth cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ynghylch yr ymosodiad diogelwch seiber ar Landauer, y cwmni trydydd parti sy’n darparu’r Gwasanaeth Diogelu Rhag Ymbelydredd i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ar ran GIG Cymru. Yn sgil yr ymosodiad hwn, cafwyd mynediad anghyfreithlon at wybodaeth bersonol am staff.    

Yn y datganiad hwnnw, amlinellais y camau sy'n cael eu cymryd mewn ymateb i'r digwyddiad, ynghyd â'r adolygiadau ehangach a fyddai'n cael eu cynnal o ganlyniad. Rwy'n cyhoeddi'r datganiad ysgrifenedig hwn, fel yr addewais, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf gan fod ymchwiliadau’r GIG bellach wedi'u cwblhau.

Yn gyntaf, gallaf gadarnhau bod pob aelod o staff GIG Cymru a gafodd eu heffeithio ac y bu modd eu hadnabod wedi cael eu hysbysu ac wedi cael cynnig cymorth. Roedd y cymorth hwnnw'n cynnwys canllawiau ynghylch monitro eu materion ariannol; dros y ffôn, e-bost a sesiynau galw heibio; a mynediad rhad ac am ddim at wasanaeth Experian i ymchwilio i statws credyd am ddwy flynedd. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd hefyd wedi tawelu meddyliau staff na chafodd eu heffeithio gan yr ymosodiad, ond a oedd efallai'n poeni am hynny.  

Er gwaetha'r ymdrechion sylweddol, mae sawl unigolyn na lwyddwyd i gysylltu â nhw o hyd, gan nad oedd digon o wybodaeth ar gael i'w hadnabod.

Yn ogystal â'r ymchwiliad a gynhaliwyd o fewn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a arweiniodd at adroddiad llawn, gofynnais am sefydlu grŵp i ymchwilio i fynediad diawdurdod at ddata er mwyn adolygu'r digwyddiad a rhoi sicrwydd ar gyfer y dyfodol. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

O ganlyniad i waith y grŵp:

  • Cynhaliwyd adolygiad o bob system genedlaethol sydd naill ai'n cael eu cynnal neu'n cael eu defnyddio gan ddarparwyr trydydd parti, a gosodwyd mesurau lliniaru er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw risgiau yn y dyfodol.
  • Ysgrifennodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru at Brif Weithredwyr GIG Cymru i’w hatgoffa o'r angen am fesurau rheoli contractau yn ymwneud â rheoli gwybodaeth a sicrwydd gwybodaeth ar gyfer cyflenwyr trydydd parti. 
  • Mae cynllun ymateb i ddigwyddiadau seiber Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cael ei roi ar waith ar gyfer pob digwyddiad diogelwch seiber ar draws Cymru. Bydd hyn yn ffordd o sicrhau bod prosesau safonol yn cael eu dilyn ar draws GIG Cymru yn achos unrhyw ddigwyddiad diogelwch seiber, gan sicrhau bod digwyddiadau yn cael eu hadrodd, eu cyfathrebu a'u huwchgyfeirio’n briodol. Mae'r GIG yn gweithio i sicrhau bod eu cynlluniau ymateb lleol i ddigwyddiadau seiber yn cyfateb i'r templed cenedlaethol.
  • Mae grŵp dan arweiniad Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Uwch-berchnogion Risg yn adolygu arferion presennol ac yn mynd i gynghori ynghylch datblygiadau pellach. Mae gan bob un o Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cymru swyddog ar lefel bwrdd i gyflawni’r swyddogaeth hon fel person sy’n gyfrifol am reoli risg yn ymwneud â gwybodaeth.

Mae adolygiad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn parhau ac fe fydd y canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi yn y man.

Mae'r achos hwn o fynediad diawdurdod at ddata, yn ogystal â'r ymosodiad seiber meddalwedd wystlo diweddar, wedi'n hatgoffa bod angen i ni fod ar ein gwyliadwriaeth, sicrhau ein bod yn cymryd rhagofalon priodol a bod yn barod i ymateb.