Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiadau pwysig i wella mynediad cyhoeddus i awyr agored rhyfeddol Cymru, yn arbennig i deuluoedd a phlant ifanc; ac i wella hawliau tramwy a chreu Llwybr Arfordir Cymru.

Ym mis Gorffennaf 2013, lansiais adolygiad o ddeddfwriaeth ar fynediad a hamdden awyr agored gyda'r nod o ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu cyfleoedd i bobl fwynhau'r awyr agored a'r holl fanteision economaidd a chymdeithasol cysylltiedig.  

Mae'r Datganiad hwn yn rhoi'r diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y datblygiadau mewn hamdden awyr agored  a sut y byddwn yn bwrw ati i wneud mwy dros weddill tymor y Cynulliad hwn:


Roedd y cyfnod cyn-ymgynghori yn caniatáu i grwpiau sydd â diddordeb fynegi barn ac yn hwyluso trafodaethau ac yn rhoi cyfle i ystyried y materion o bwys.  Roedd nifer fawr o sylwadau wedi cael eu mynegi ar bob mater a oedd yn ymwneud â’r adolygiad, gan gynnwys hawliau tramwy a mynediad at ddŵr.  Mae angen gwneud rhagor o waith, gan gynnwys casglu mwy o dystiolaeth cyn i ni benderfynu ar ffordd ymlaen.  Er hynny, mae hyn eisoes yn glir:

  • Ar dir, mae angen gwella ein rhwydwaith hawliau tramwy a gwneud y fframwaith deddfwriaethol cysylltiedig yn fwy effeithiol;
  • Ar ddŵr, mae angen gweld cynnydd yn nifer y cytundebau mynediad gwirfoddol sy’n darparu ar gyfer ystod o weithgareddau hamdden.

Felly, byddwn yn cyhoeddi Papur Gwyrdd ar wella mynediad at dir i’r cyhoedd a hwyluso mynediad gwirfoddol at ddŵr yn well. Nid  ydym yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol yn nhymor y Cynulliad hwn.


Mae hawliau tramwy yn bwysig iawn i'n cymunedau lleol ac yn cynnig mynediad hawdd i gefn gwlad yn lleol ac maent hefyd yn cyfrannu miliynau at economi Cymru bob blwyddyn. Ers 2008/9, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £8.9 miliwn i helpu awdurdodau lleol i roi eu cynlluniau gwella hawliau tramwy ar waith. Mae'r cyllid wedi cyfrannu at wella tua 6,801km, 21% o'r rhwydwaith 33,000km yng Nghymru. Roedd prosiectau yn 2013/14 yn cynnwys cryn dipyn o welliannau i fodloni'n benodol anghenion y rheini â phroblemau symud. Er enghraifft, ym Mangor, mae'r Awdurdod wedi disodli hen gatiau mochyn gyda gatiau newydd, lletach, sy'n cau ar eu pennau eu hunain; ac ym Merthyr, maen nhw wedi ymestyn darpariaeth i bobl sydd ag anawsterau symud drwy osod pum ardal yn cynnwys byrddau picnic y mae modd cael mynediad iddynt gyda chadair olwyn a chadeiriau gwthio i blant. Rwyf wedi neilltuo £1 filiwn arall o gyllid cyfalaf ar gyfer hyn yn 2014/15.  

Yn ystod yr adolygiad, cafwyd cefnogaeth gadarn i'r angen i foderneiddio a symleiddio'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer hawliau tramwy. Rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i fy swyddogion wneud newidiadau a fydd yn gwneud tipyn i leihau'r pwysau sydd ar awdurdodau lleol mewn perthynas â hawliau tramwy, gan gynnwys diweddaru canllawiau ac adolygu is-ddeddfwriaeth. Rwy'n bwriadu cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer awdurdodau lleol ar lunio cynlluniau gwella hawliau tramwy ymhen 12 mis ac mewn da bryd ar gyfer yr adolygiad a gynhelir ar ôl deng mlynedd o'r cynlluniau hynny a fydd yn ymddangos yn 2017.

Roedd yr adolygiad yn dangos bod cryn amrywiaeth yn safbwyntiau'r gwahanol grwpiau sy'n defnyddio dŵr at ddibenion hamdden. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i annog hwyluso cytundebau mynediad gwirfoddol. Yn ystod 2013/14, buddsoddwyd £460,000 arall gan Lywodraeth Cymru i hwyluso mynediad i ddŵr mewndirol drwy gronfa Sblash. Mae hyn wedi galluogi prosiectau megis y gwelliannau i fynediad i lan y llyn ym Mharc Gwledig Breakwater yn Ynys Môn i gynyddu mynediad at lan y dŵr i bawb ac i greu cyfleoedd  newydd a gwell i bysgotwyr anabl ar y llyn. Yn 2014/15, rwy’n bwriadu adolygu'r ffordd y mae cyllid yn cael ei ddyrannu drwy Sblash i wella’i effeithiolrwydd.  

Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers i Lwybr Arfordir Cymru gael ei lansio'n llwyddiannus. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru i wella aliniad y llwybr ymhellach ac i ddarparu gwybodaeth ar hyd a lled y ffordd. Er enghraifft, yng Ngwynedd, cafodd Pont Tonfannau, sef pont ddur 50m o hyd dros Afon Dysynni, ei gosod yn Nhywyn gan gael gwared ar wyriad 8 milltir o hyd. Yn  ogystal â gwella’r aliniad, mae cyfleoedd i greu llwybrau cylchol sy’n cysylltu â’r llwybr  

Ers 2008, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £11.5 miliwn yn ei greu ac yn ogystal â’r £1.1 miliwn rwyf innau wedi ymrwymo i ddatblygiad pellach yn 2014/15, mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi neilltuo £250,000 tuag at waith atgyweirio yn dilyn y stormydd niweidiol yn gynharach eleni. Yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi cynhyrchu mwy na £32 miliwn o wariant i mewn i economi Cymru. Yn ogystal â hynny, ym mis Gorffennaf 2013, Llwybr Arfordir Cymru oedd y buddugwr cyffredinol yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Cynllunio'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI), y prif wobrau ar gyfer cynllunio yn y DU.

Gydol mis Mai, rydym yn dathlu pen-blwydd gorffen Llwybr Arfordir Cymru a’i lansio. Mae’n fwriad gen i i wneud mwy o achlysuron fel hyn gan ganolbwyntio mwy ar hyrwyddo a gweithgareddau ar ben-blwyddi yn y dyfodol.  Yn gyffredinol byddwn yn gweithio i gryfhau proffil a chynyddu gweithgarwch hyrwyddo gan gydnabod y llwyddiannau sylweddol hyd yn hyn ochr yn ochr â photensial pellach.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru  yn gweithio ar adolygiad deng mlynedd o fapiau mynediad o dan Ddeddf Cefn Gwad a Hawliau Tramwy 2000.  Fy mwriad yn y tymor byr a’r tymor canolig yw edrych ar ffyrdd o wneud y broses hon yn symlach ac yn fwy rhagweithiol er budd defnyddwyr a thirfeddianwyr. Mae tir sy’n agored i’r cyhoedd o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn cynnig cyfleoedd sylweddol i gerddwyr fwynhau’r awyr agored ac yn elfen bwysig i’w hystyried yng nghyd-destun ehangach gwella mynediad.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ar fin cyhoeddi Datganiad Strategol ar Hamdden a Mynediad Awyr Agored. Byddwn yn parhau â'r bartneriaeth agos sydd rhyngom â Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnig cyfleoedd gwell i gael mynediad i'r awyr agored.

Rydym yn cefnogi agenda mynediad sy'n eang ei chwmpas ac, yn hynny o beth, rydym wedi gwneud gwaith da yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwyf am weld mwy yn digwydd dros weddill tymor y Cynulliad hwn gan ddal ati â’r hyn a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu Cymru fel gwlad sy’n arwain mewn darpariaethau hamdden awyr agored. Bydd y Papur Gwyrdd yn fodd i ymgysylltu ymhellach er mwyn helpu i lywio ein polisi a’n gweithredoedd yn ystod y ddwy flynedd nesaf yn ogystal â’n syniadau a’n cynlluniau ar gyfer y Cynulliad nesaf.