Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, hoffem roi gwybod ichi fod cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi’i gynnal ar 22 Mai 2023.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Lorna Slater ASA, y Gweinidog Sgiliau Gwyrdd, yr Economi Gylchol a Bioamrywiaeth. Yn bresennol hefyd yn y cyfarfod oedd Mairi Gougeon ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, Diwygio Tir ac Ynysoedd, Dr Theresa Coffey, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Alistair Jack AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, James Davies AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, Rebecca Pow, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ansawdd a Chadernid yr Amgylchedd a Mrs Katrina Godfrey, yr Ysgrifennydd Parhaol yn absenoldeb Gweinidog Gogledd Iwerddon.

Rhoddodd Ysgrifennydd Gwladol DEFRA ddiweddariad ar Fframwaith Bioamrywiaeth y DU yn ogystal â diweddariad ar gynlluniau ar gyfer ymateb y DU i Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal.

Trafodwyd cais Llywodraeth yr Alban am gael ei heithrio o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU o ran ei Chynllun Dychwelyd Ernes. Gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban am gynnal gwaith pellach cyn y gellid ystyried eithriad er gwaethaf y ffaith bod prosesau cywir y fframwaith yn cael eu dilyn gan Lywodraeth yr Alban. Rhannom ein pryder sylweddol fod prosesau ychwanegol yn cael eu hychwanegu y tu hwnt i brosesau’r Fframwaith Cyffredin.

Wedi hynny, trafodwyd bwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad ar weips gwlyb sy’n cynnwys plastig. Mae’r cynnig hwn wedi ei wneud yn gyflym heb fawr o ystyriaeth wedi’i roi i gydweithio. Gan gofio am ein huchelgais a rennir i fynd i’r afael â’r mater o weips gwlyb, pwysleisiom fanteision cydweithio a manteision defnyddio dulliau prosesau’r fframweithiau cyffredin.

Mater nesaf yr agenda oedd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Rhoddodd Ysgrifennydd Gwladol DEFRA ddiweddariad inni ynghylch cynlluniau diweddaraf Llywodraeth y DU. Tynnom sylw at yr angen am dryloywder ynghylch effeithiau’r Bil ar feysydd lle y mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli ac eglurder ynghylch gwahaniaeth barn posibl a all godi yn sgil y Bil.

I gloi, rhoddodd Llywodraeth yr Alban gyflwyniad ynghylch ei gweledigaeth a’i huchelgais ar gyfer yr Economi Las.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Llun 26 Mehefin.

Bydd datganiad ynghylch y cyfarfod hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU ar: Communiqués from the Inter Ministerial Group for Environment, Food and Rural Affairs (Saesneg yn Unig)