Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod y trafodaethau teirochrog rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru ac Optometreg Cymru ar gyfer 2025–26 wedi dod i ben yn llwyddiannus. Rydym wedi ailddatgan ein hymrwymiad ar y cyd i hyrwyddo gwasanaethau optometreg gofal sylfaenol a gwella mynediad at wasanaethau gofal llygaid o ansawdd uchel ledled Cymru.
Mae'r cytundeb eleni yn cynnwys cynnydd ychwanegol o oddeutu £3m ar gyfer y contract, wedi'i ôl-ddyddio i fis Ebrill 2025, ac mae'n cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol gofal optometreg. Mae hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddiwygio gwasanaethau optometreg yn barhaus a darparu mwy o ofal a gwasanaethau yn agosach at gartrefi pobl, mewn cymunedau lleol.
Mae gwasanaethau optometreg yng Nghymru yn parhau i arwain y blaen yn y DU o ran diwygio clinigol, gydag ymarferwyr wedi'u grymuso i weithio hyd eithaf eu trwydded. Mae ein dull yn seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus ac mae'n adlewyrchu ethos sy'n canolbwyntio ar y claf, sy'n sicrhau gofal amserol, effeithiol a theg.
Mae canlyniadau'r trafodaethau eleni yn adlewyrchu cryfder ein dull o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac ymroddiad yr holl bartïon i ddarparu gofal optometrig o'r radd flaenaf.
Mae gwasanaethau optometreg yn chwarae rôl hanfodol wrth drawsnewid mynediad at wasanaethau gofal llygaid yng Nghymru. Gyda'r cytundeb hwn, rydym yn parhau i adeiladu system flaengar, gynhwysol a chlinigol gadarn sy'n diwallu anghenion ein cymunedau ac yn cefnogi datblygiad proffesiynol ein gweithlu.
