Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn sgil y negodiadau diweddar rhwng Llywodraeth Cymru, Optometreg Cymru, a GIG Cymru ynglŷn â’r contract optometreg, rwy’n falch o allu cadarnhau fy mod wedi cytuno mewn egwyddor ar delerau gwasanaeth a’r costau ariannol cysylltiedig ar gyfer contract optometreg newydd.

Mae datblygu contract optometreg newydd ar gyfer telerau gwasanaeth i ddarparwyr gwasanaethau optometreg mewn gofal sylfaenol yn sail i hyn. Bydd gwasanaethau optometreg yn cael eu diwygio’n sylweddol, mewn modd sy’n gydnaws â’r ymrwymiadau a nodir yn Cymru Iachach a Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol, yn seiliedig ar brif egwyddorion gofal iechyd darbodus.

Mae’r newidiadau’n canolbwyntio ar wella mynediad at wasanaethau iechyd llygaid yn y gymuned ac yn adrannau llygaid yr ysbytai, er mwyn sicrhau y gall cleifion gael mynediad at wasanaethau gofal llygaid a ddarperir gan y gweithiwr proffesiynol iawn ac yn y lle iawn, ar draws y llwybr gofal llygaid cyfan, sy’n cynnwys y gwasanaethau gofal optometreg sylfaenol a’r gofal llygaid arbenigol a ddarperir yn yr ysbytai.  

Bydd y cynnydd yn y gwasanaethau clinigol a ddarperir gan optometryddion, sy’n gweithio ar y cyd ag adrannau llygaid mewn ysbytai, yn rhoi sicrwydd i’r GIG y bydd y ddarpariaeth yn deg, yn gyson, ac yn amserol i holl ddinasyddion Cymru.

Rydym wedi symud ymlaen yn gyflym gyda’r gwaith o ddiwygio’r contract optometreg yn ystod y 12 mis diwethaf, drwy gynnal deialog a thrafodaethau manwl, a gweithio ar y cyd ag Optometreg Cymru a GIG Cymru. Mae hyn wedi golygu ein bod wedi gallu sicrhau’r canlyniadau gorau i’r holl randdeiliaid yn ystod y negodiadau.

Bydd y ddeialog a’r ymgysylltu’n parhau tra mae Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru yn cael eu cynyddu, drwy’r bwrdd gweithredu a sefydlwyd i gefnogi’r gwaith cyflawni yn ystod y tair blynedd nesaf. Y flaenoriaeth fydd gweithredu gwasanaethau a fydd yn lleihau nifer yr atgyfeiriadau, gan wella mynediad at adrannau llygaid mewn ysbytai.

Gan edrych i’r dyfodol ac at flwyddyn sydd hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol ac yn elwa ar ymrwymiad parhaus pob un ohonom, gallwn barhau i weithio ar y cyd a chyflawni yn erbyn amcanion Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol yng Nghymru.

Mae’r datblygiad polisi hwn yn sicrhau bod Cymru yn parhau’n flaenllaw yn y DU, drwy arwain ar broses diwygio clinigol sy’n canolbwyntio ar y claf, a thrwy fod y wlad gyntaf yn y DU i weithredu gwasanaethau clinigol ym maes gofal optometreg sylfaenol a chymunedol yn llawn.