Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud newid mawr i wasanaethau rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru gydag un o'r gwelliannau i'r amserlen mwyaf arwyddocaol i deithwyr yn dod ym mis Mai. Wedi'i ddarparu drwy ein rhaglen Rhwydwaith Gogledd Cymru, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu nifer y gwasanaethau rheilffyrdd ar Linell Arfordir Gogledd Cymru tua 50%.

Bydd hyn yn gwella capasiti, dibynadwyedd a chysylltedd gwasanaethau rheilffyrdd ledled y rhanbarth yn sylweddol. O 17 Mai 2026 ymlaen, bydd yr amserlen yn cael ei hailgynllunio'n llwyr ledled Gogledd Cymru gyda chyflwyno patrwm safonol bob awr, sy'n golygu y bydd mwy o drenau yn rhedeg ar yr un pryd bob awr i wneud cynllunio teithiau yn haws i deithwyr.

Ar gyfer Gogledd Cymru, bydd y manteision a'r newidiadau allweddol canlynol yn cael eu gwneud:

  • Cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr Llandudno i Lerpwl 
  • Ymestyn y gwasanaeth bob awr o Faes Awyr Manceinion i Gaergybi, gan wella cysylltiadau ar draws Gogledd Cymru a gwella cysylltiadau fferi i Iwerddon.
  • Darparu gwasanaeth bob awr rhwng Wrecsam a Crewe drwy ymestyn y trên presennol o Wrecsam i Gaer.
  • Bydd patrwm gwasanaeth newydd i wella opsiynau cymudo i Gaergybi a Bangor yn cael ei gyflwyno i gefnogi cyflogaeth a thwf economaidd lleol, gyda gorsaf y Fali yn dod yn alwad orfodol ar yr holl wasanaethau perthnasol.

Bydd y newid i'r amserlen hefyd yn gweld cam cyntaf cyflwyno tocynnau Talu wrth Fynd yng Ngogledd Cymru, mantais arall o'n rhaglen Rhwydwaith Gogledd Cymru. Teithwyr sy'n defnyddio 15 gorsaf o Wrecsam Cyffredinol i Bidston fydd y cyntaf i elwa o'r ffordd arloesol a chyfleus hon o deithio.

Bydd newid amserlen mis Mai 2026 hefyd yn darparu mwy o wasanaethau haf rhwng Caerfyrddin a Dinbych-y-pysgod gyda threnau newydd yn dod i wasanaeth ar linell y Cambrian yn ddiweddarach eleni.