Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ein data allyriadau nwyon tŷ gwydr diweddaraf, cyhoeddi ein Cynllun Ymgysylltu Newid yn yr Hinsawdd diweddaraf ac Adroddiad Sero Net y Sector Cyhoeddus yng Nghymru: Llinell sylfaen ac argymhellion.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu ein cymunedau ar hyn o bryd.  Yn y cyd-destun hwn, mae angen inni lynu’n arbennig o agos wrth ein gwerthoedd a'n hegwyddorion arweiniol. Nododd y Rhaglen Lywodraethu sut y byddai cyfiawnder cymdeithasol a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd wrth wraidd ein gweithredoedd dros dymor y Senedd hon, ac ar y mater olaf hwn yr hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau heddiw.

Mae hon yn flwyddyn bwysig ac mae'r data allyriadau a gyhoeddwyd heddiw (Adroddiadau - NAEI, y DU (beis.gov.uk) (dolen allanol), yn dangos ein bod yn debygol o gyrraedd ein cyllideb garbon gyntaf (2016-2020) a’n targed 2020. Yn 2020 gostyngodd allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru o 40% o'i gymharu â'n blwyddyn llinell sylfaen, gan ragori ar ein targed interim 2020, sef gostyngiad o 27% (o flwyddyn sylfaen 1990). Ar gyfer ein cyllideb garbon gyntaf, gwnaethom osod targed cyfreithiol o sicrhau gostyngiad cyfartalog o 23% (o’i gymharu â blwyddyn sylfaen 1990).  Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm yr allyriadau dros Gyllideb Garbon 1 (CB1) o 213 MTCO2e. Mae'r data diweddaraf yn cadarnhau bod allyriadau CB1 yn 199 MTCO2e, ac rydym yn debygol o fod wedi perfformio'n well na'n targed o 13.7 MTCO2e (gostyngiad cyfartalog o 28% dros CB1).

Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar y data crai a gyhoeddwyd heddiw ac maent yn nodi perfformiad tebygol. Bydd Cyfrif Allyriadau Net Cymru llawn, y seilir ein targedau cyfreithiol arno, yn cael ei gyhoeddi yn ein Datganiad Cynnydd deddfwriaethol, ym mis Rhagfyr, gan ddangos yn dryloyw’r dadansoddiad o'r data, y dewisiadau cyfrifyddu carbon terfynol a'r cynnydd mewn perthynas â'n Cynllun cyntaf Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel. Bydd y Datganiad hefyd yn edrych yn ehangach, gan ddarparu'r asesiad cyntaf o'r allyriadau a gynhyrchir nid yn unig yng Nghymru, ond a gynhyrchir gan Gymru drwy'r nwyddau a'r gwasanaethau a ddefnyddiwn. Dim ond drwy ystyried y darlun ehangach hwn ac ysgwyddo ein cyfrifoldeb byd-eang y gallwn wirioneddol ddiogelu ein byd gwerthfawr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Fodd bynnag, yn fyd-eang, mae angen gwneud mwy. Mae adroddiadau diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), a ysgrifennwyd ac a gytunwyd gan wyddonwyr ar draws 195 o wledydd, yn dweud wrthym fod angen mwy o weithredu, ac y bydd y diffyg gweithredu ar yr argyfyngau hinsawdd a natur yn costio llawer mwy i ni yn y tymor hir. Rhaid i’r 2020au fod yn ddegawd o weithredu. Bydd lleihau allyriadau yn fwy yn y degawd hwn nag mewn unrhyw gyfnod o ddeng mlynedd blaenorol yn her aruthrol ac efallai y bydd angen i ni wneud dewisiadau anodd, er mwyn peidio â pheryglu lles cenedlaethau'r dyfodol.

Ni all y Llywodraeth fynd i'r afael â'r her hon ar ei phen ei hun. Ym mis Hydref fe wnaethom nodi ein cynllun ar gyfer Cymru gyfan, sef Cymru Sero Net (Cyllideb garbon 2, 2021-2025) i ddangos sut y mae angen i bawb chwarae eu rhan. Mae'r cynllun yn nodi 123 o bolisïau a chynigion gan y Llywodraeth ochr yn ochr â'r ymrwymiadau a'r camau y mae angen i ni eu gweld gan fusnesau, gan gymunedau a chan Lywodraeth y DU. Mae'r gwaith eisoes yn mynd rhagddo – gyda’r adroddiad ar yr adolygiad ffyrdd ar y gweill yn ddiweddarach eleni, gyda'r papur gwyn ar ddyfodol bysiau wedi’i gyhoeddi, ymgynghoriad ar ddyfodol y rhaglen Cartrefi Clyd wedi'i gwblhau a dau gynllun garddwriaethol yn cael eu gweithredu. Yn y Cynllun, rydym hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi Cynllun Ymgysylltu â rhanddeiliaid sydd wedi’i ddiwygio, ac mae'n bleser gennyf ei lansio heddiw.

Bydd y Cynllun Ymgysylltu newydd yn cynyddu ymhellach y momentwm sy'n adeiladu ledled Cymru. Bydd yn cryfhau'r cydweithio ar bob maes gweithredu i fynd i’r afael â newid hinsawdd – o ran lleihau allyriadau ac ymaddasu i'r newid hinsawdd. Mae'r Cynllun Ymgysylltu wedi'i gynllunio i sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymgysylltu'n amserol ac yn effeithiol ar faterion sy'n ymwneud â newid hinsawdd. Mae’n tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â pholisi ac ymgynghoriadau, gan geisio casglu mewnbwn gan y rhai sydd agosaf at realiti'r materion dan sylw. Fe'i cynlluniwyd hefyd i gryfhau cynghrair Tîm Cymru wrth i ni fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, hyrwyddo'r Ymgyrch Adduned a phedair Galwad am Weithredu fel y gall pawb weld y rhan sydd ganddynt i'w chwarae, a rhannu hynny.

Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus yn dangos arweiniad drwyddi draw. Heddiw, mae'n bleser gennyf hefyd gyhoeddi, yn unol â'r ymrwymiad a wnaed yn Cymru Sero Net, yr adroddiad cyntaf Sero Net y Sector Cyhoeddus yng Nghymru: Llinell sylfaen ac argymhellion, sy'n amcangyfrif yr ystod lawn o allyriadau ddaw’n uniongyrchol gan y sector cyhoeddus ac sydd wedi'u hysgogi gan y sector cyhoeddus wrth ddarparu gwasanaethau i bobl Cymru.  Mae'r adroddiad nodedig hwn yn crynhoi'r data a'r canfyddiadau o'r flwyddyn gyntaf o adrodd gwirfoddol ar draws y sector cyhoeddus, gan ein helpu i ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r sector wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Bydd y sylfaen dystiolaeth newydd hon yn hanfodol o ran datgelu'r camau gweithredu sy'n sicrhau Cymru fwy ffyniannus ochr yn ochr â Chymru lanach a gwyrddach, gan ddefnyddio pob punt o arian cyhoeddus i fynd i’r afael â dwy nod Llywodraeth Cymru. Hoffwn gydnabod yr ymrwymiad a ddangoswyd gan y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyrraedd y garreg filltir hon. Rwyf hefyd yn annog y byrddau iechyd, awdurdodau lleol, prifysgolion, gwasanaethau tân, Parciau Cenedlaethol a chyrff cyhoeddus eraill o fewn y cwmpas i weithio gyda Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau ochr yn ochr â gwella'r modd y darperir gwasanaethau hanfodol i ddinasyddion Cymru.

Er y bydd y daith tuag at genedl Gymreig ddatgarbonedig, sy'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd, yn hir ac yn llawn dewisiadau anodd, mae heddiw'n gam cadarnhaol ar y ffordd i Gymru lanach, gryfach a mwy ffyniannus.