Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yng ngweddill y Deyrnas Unedig, rwy’n cyhoeddi heddiw y bydd pobl sydd wedi cael brechlyn sydd â statws Rhestr Defnydd Brys Sefydliad Iechyd y Byd, mewn gwlad sy'n rhoi tystysgrifau brechu cydnabyddedig, yn gorfod cymryd prawf ar ddiwrnod 2 yn unig ar ôl cyrraedd Cymru. Gall hwn fod yn brawf llif unffordd.

Mae'r newid yn golygu na fydd gofyn mwyach i bobl sydd wedi cael y brechlynnau hyn gymryd prawf cyn ymadael na phrawf PCR ar ddiwrnod 8, ac na fydd angen iddynt hunanynysu ar ôl cyrraedd Cymru.

Y brechlynnau sydd â statws Rhestr Defnydd Brys Sefydliad Iechyd y Byd ar hyn o bryd yw Sinopharm, Sinovax a Covaxin.

Nid yw hwn yn newid heb risg ond, fel rwyf wedi nodi o'r blaen, mae'n anodd i ni ddilyn trefn iechyd wahanol i'r hyn sy'n ofynnol gan Lywodraeth y DU o ran y ffin, gan fod y rhan fwyaf o deithwyr rhyngwladol sy'n cyrraedd Cymru yn dod drwy borthladdoedd a meysydd awyr yn Lloegr.

Daw'r newid i rym yng Nghymru o 22 Tachwedd 2021