Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn dymuno clywed fy mod wedi gwneud newidiadau i’m tîm Gweinidogol heddiw, gan gydbwyso profiad a sefydlogrwydd gydag egni a brwdfrydedd ffres.

Bydd Dafydd Elis Thomas yn ymuno â’r Llywodraeth fel Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, a Ken Skates yn parhau fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Bydd Vaughan Gething yn parhau fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda Huw Irranca-Davies yn ddirprwy iddo fel Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant.

Bydd Mark Drakeford yn aros yn ei rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Bydd y cyfrifoldeb dros Lywodraeth Leol yn cael ei drosglwyddo i Alun Davies fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda chefnogaeth Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio.

Bydd Lesley Griffiths yn parhau fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a Hannah Blythyn yn ymuno â’r Llywodraeth fel Gweinidog yr Amgylchedd.  

Bydd Kirsty Williams yn aros yn ei rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gydag Eluned Morgan yn ymuno â’r Llywodraeth fel Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Bydd Julie James yn ymuno â’r Cabinet fel Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip, gyda chyfrifoldeb dros seilwaith digidol a chydraddoldeb.

Byddaf yn enwebu Jeremy Miles ar gyfer swydd y Cwnsler Cyffredinol, prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

Rwy’n falch iawn o gyhoeddi fy nhîm Gweinidogol newydd, sy’n cydbwyso profiad a sefydlogrwydd ar un llaw gydag egni a brwdfrydedd ffres ar y llaw arall.

“Bydd y tîm cryf hwn yn datblygu’n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru – gan ganolbwyntio ar dyfu’r economi, creu swyddi, cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a gwella bywydau pobl Cymru.”

Portffolios a chyfrifoldebau gweinidogol:

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams
Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip, Julie James
Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas (Dirprwy i Ken Skates)
Y Gweinidog Tai ac Adfywio,  Rebecca Evans (Dirprwy i Alun Davies)
Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn (Dirprwy i Lesley Griffiths)
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan (Dirprwy i Kirsty Williams)
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant,  Huw Irranca-Davies (Dirprwy i Vaughan Gething).

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.